Mae gan blanhigion addasiadau i’w galluogi nhw i gasglu defnyddiau crai ar gyfer ffotosynthesis, yna cludo’r defnyddiau crai drwy’r planhigyn. Gall gwahanol ffactorau effeithio ar gyfradd y symudiad.
Mae gan adeiledd deilen addasiadau er mwyn gallu cyflawni ffotosynthesisProses gemegol a ddefnyddir gan blanhigion ac algâu i wneud glwcos ac ocsigen o carbon deuocsid a dŵr, gan ddefnyddio egni golau sydd wedi ei amsugno gan cloroffyl. Mae ocsigen yn cael ei gynhyrchu fel isgynnyrch ffotosynthesis. yn effeithiol.
Mae deilen angen:
ffordd i gludo dŵr i’r ddeilen, a glwcosSiwgr syml sy'n cael ei wneud gan y corff o fwyd. Mae'n cael ei ddefnyddio gan gelloedd i wneud egni yn ystod resbiradaeth. i rannau eraill o’r planhigyn
ffordd o gyfnewid carbon deuocsid ac ocsigen
y gallu i amsugno egni golau yn effeithlon
Amsugno egni golau
Mae golau’n cael ei amsugno ym meinwe mesoffyl palisâdMeinwe planhigion sy’n cynnwys celloedd agos i’w gilydd yn haen uchaf deilen. ddeilen. Mae celloedd palisâd ar ffurf colofn ac yn llawn dop o cloroplastMae’n cynnwys y cloroffyl lliw gwyrdd, sef lle mae ffotosynthesis yn digwydd.. Maen nhw wedi eu gosod yn agos iawn at ei gilydd fel bod llawer o egni golau yn gallu cael ei amsugno.
Figure caption,
Trawstoriad o ddeilen
Nodweddion dail a’u swyddogaethau
Nodwedd
Swyddogaeth
Arwynebedd mawr
Amsugniad golau mwyaf
Tenau
Pellter byr i garbon deuocsid dryledu i mewn i gelloedd dail
Cwtigl
Haen wrth-ddŵr gwyraidd sy’n lleihau colledion dŵr. Mae'n dryloyw i adael i olau gyrraedd y ddeilen
Nodwedd
Arwynebedd mawr
Swyddogaeth
Amsugniad golau mwyaf
Nodwedd
Tenau
Swyddogaeth
Pellter byr i garbon deuocsid dryledu i mewn i gelloedd dail
Nodwedd
Cwtigl
Swyddogaeth
Haen wrth-ddŵr gwyraidd sy’n lleihau colledion dŵr. Mae'n dryloyw i adael i olau gyrraedd y ddeilen
Rôl stomata
Mae’r stomataTyllau mân yn epidermis (croen) deilen – ar ochr isa’r dail fel arfer. Maen nhw’n rheoli faint o ddŵr sy’n cael ei golli a’r nwyon sy’n cael eu cyfnewid trwy agor a chau. Stoma ydy’r ffurf unigol. yn rheoli sut mae’r ddeilen yn cyfnewid nwyon. Mae modd agor neu gau pob stoma yn dibynnu ar ba mor chwydd-dynnDywedwn fod cell planhigyn yn chwydd-dynn pan fo wedi chwyddo â dŵr. ydy ei gelloedd gwarchod.
Mae’r stomata yn gallu agor a chau i wneud y canlynol:
rheoleiddio trydarthiad
caniatáu cyfnewid nwyon
Mae trylediadSymudiad gronynnau (moleciwlau neu ïonau) o ardal o grynodiad uwch i ardal o grynodiad is. carbon deuocsid, ocsigen ac anwedd dŵr i mewn (neu allan) o’r ddeilen yn digwydd yn bennaf pan mae’r stomata ar agor.