Mae gan blanhigion addasiadau i’w galluogi nhw i gasglu defnyddiau crai ar gyfer ffotosynthesis, yna cludo’r defnyddiau crai drwy’r planhigyn. Gall gwahanol ffactorau effeithio ar gyfradd y symudiad.
Mae gan blanhigion feinweoedd i gludo dŵr, maetholion a mwynau.
Mae tiwbiau sylemTiwbiau cul, gwag gyda lignin sy’n gyfrifol am gludo dŵr a mwynau mewn planhigion. yn cludo dŵr a halwynau mwynol o’r gwreiddiau i fyny i rannau eraill o’r planhigyn.
Mae ffloemY pibellau mewn planhigion sy’n cludo siwgrau. yn cludo swcros ac asid aminoY blociau adeiladu sy’n gwneud moleciwl protein. rhwng y dail a rhannau eraill o’r planhigyn.
Figure caption,
Sylem a ffloem yng nghanol gwreiddyn y planhigyn
Mae’r tabl hwn yn egluro beth sy’n cael ei gludo gan y sylem a’r ffloem.
Meinwe
Beth sy’n cael ei symud
Proses
Sylem
Dŵr a mwynau
Llif trydarthol
Ffloem
Swcros ac asidau amino
Trawsleoliad
Meinwe
Sylem
Beth sy’n cael ei symud
Dŵr a mwynau
Proses
Llif trydarthol
Meinwe
Ffloem
Beth sy’n cael ei symud
Swcros ac asidau amino
Proses
Trawsleoliad
Sylem
Mae sylem aeddfed yn cynnwys celloedd marw hirgul, wedi eu trefnu o un pen i’r llall i ffurfio tiwbiau parhaus.
Tiwbiau sylem aeddfed:
dydyn nhw ddim yn cynnwys cytoplasmY sylwedd tebyg i jeli y tu mewn i gell lle mae’r holl adweithiau cemegol yn digwydd.
maen nhw’n anathraiddSylwedd dydy hylifau ddim yn gallu pasio drwyddo. i ddŵr
mae ganddyn nhw furiau cadarn sy’n cynnwys deunydd prennaidd, sef lignin
Ffloem
Mae ffloem yn cynnwys celloedd byw wedi eu trefnu o un pen i’r llall. Yn wahanol i sylem, mae tiwbiau ffloem yn cynnwys cytoplasm, ac mae hwn yn mynd drwy dyllau’r plat hidlo o un gell i’r un nesaf.
Mae ffloem yn cludo swcros ac asidau amino i fyny ac i lawr y planhigyn. trawsleoliadY broses o gludo deunydd wedi’i hydoddi o fewn planhigyn. ydy’r enw ar hyn. Yn gyffredinol, mae hyn yn digwydd rhwng lle mae’r sylweddau yn cael eu gwneud (y ffynonellau) a lle maen nhw’n cael eu defnyddio neu eu cadw (y suddfannau/sincs).
Mae hyn yn golygu, er enghraifft, bod swcros yn cael ei gludo:
ffynonellau yn y gwreiddyn i suddfannau yn y dail yn ystod y gwanwyn
ffynonellau yn y dail i suddfannau yn y gwreiddyn yn yr haf
Mae cemegau sy’n cael eu defnyddio, fel plaleiddiadCemegyn sy’n cael ei ddefnyddio i ladd plâu, fel y nematod coden tatws, sef pla sy’n dinistrio cnydau tatws., hefyd yn symud drwy’r planhigyn drwy drawsleoliad.