Mae gan blanhigion addasiadau i’w galluogi nhw i gasglu defnyddiau crai ar gyfer ffotosynthesis, yna cludo’r defnyddiau crai drwy’r planhigyn. Gall gwahanol ffactorau effeithio ar gyfradd y symudiad.
Mae meinweoedd tiwbiau sylemTiwbiau cul, gwag gyda lignin sy’n gyfrifol am gludo dŵr a mwynau mewn planhigion. a ffloemY pibellau mewn planhigion sy’n cludo siwgrau. i’w canfod mewn grwpiau o’r enw sypynnau fasgwlarGrwpiau o feinwe sylem a ffloem mewn planhigyn.. Mae safle’r sypynnau hyn yn amrywio mewn gwahanol rannau o’r planhigyn. Mewn deilen, er enghraifft, mae’r ffloem fel arfer yn agosach i’r arwyneb isaf.
Gwreiddyn
Mae tiwbiau sylem yn wydn ac yn gryf, felly mae’r sypynnau fasgwlar yng nghanol y gwreiddyn i wrthsefyll grymoedd a allai dynnu’r planhigyn allan o’r tir.
Coesyn
Mae’n rhaid i’r coesyn wrthsefyll cywasgiad (gwasgu) a grymoedd plygu sy’n cael eu hachosi gan bwysau’r planhigyn a’r gwynt. Mae’r sypynnau fasgwlar wedi eu trefnu ger ymyl y coesyn, gyda’r ffloem ar y tu allan a’r sylem ar y tu mewn.