Mae gan blanhigion addasiadau i’w galluogi nhw i gasglu defnyddiau crai ar gyfer ffotosynthesis, yna cludo’r defnyddiau crai drwy’r planhigyn. Gall gwahanol ffactorau effeithio ar gyfradd y symudiad.
Diffyg mwynau yw’r sefyllfa lle dydy planhigyn ddim yn gallu cael digon o fwyn penodol o’r pridd i dyfu’n iach.
Figure caption,
Mae’r planhigyn tomato ar y chwith yn iach, mae’r un ar y dde’n tyfu mewn amodau lle mae diffyg ïonau mwynol
Mae angen gwahanol fwynau am wahanol resymau, felly mae pob un yn achosi gwahanol symptomau diffyg mwynau. Mae’r tabl yn crynhoi rhai o’r symptomau hyn.