Mae gan blanhigion addasiadau i’w galluogi nhw i gasglu defnyddiau crai ar gyfer ffotosynthesis, yna cludo’r defnyddiau crai drwy’r planhigyn. Gall gwahanol ffactorau effeithio ar gyfradd y symudiad.
Mae planhigion yn defnyddio maetholion o’r pridd i adeiladu’r moleciwlau cymhleth sydd eu hangen er mwyn iddynt oroesi a thyfu. Fydd planhigion ddim yn tyfu’n dda os oes diffyg un neu fwy o fwynau.
Mwynau gofynnol
Mae gwrteithiau yn cynnwys mwynau fel:
nitradau
ffosffadau
cyfansoddion potasiwm
Mae angen y mwynau hyn er mwyn i blanhigion dyfu’n iach. Mae’r tabl yn crynhoi pam.
Mwyn
Elfen mae’n ei chyflenwi
Pam mae ei angen
Nitradau
Nitrogen, N
Mae angen nitrogen i wneud asidau amino ar gyfer proteinau, sydd eu hangen ar gyfer twf celloedd
Ffosffadau
Ffosfforws, P
Mae angen ffosfforws i wneud DNA a chellbilenni
Cyfansoddion potasiwm
Potasiwm, K
Mae angen potasiwm mewn ensymau sy’n ymwneud â resbiradaeth a ffotosynthesis
Mwyn
Nitradau
Elfen mae’n ei chyflenwi
Nitrogen, N
Pam mae ei angen
Mae angen nitrogen i wneud asidau amino ar gyfer proteinau, sydd eu hangen ar gyfer twf celloedd
Mwyn
Ffosffadau
Elfen mae’n ei chyflenwi
Ffosfforws, P
Pam mae ei angen
Mae angen ffosfforws i wneud DNA a chellbilenni
Mwyn
Cyfansoddion potasiwm
Elfen mae’n ei chyflenwi
Potasiwm, K
Pam mae ei angen
Mae angen potasiwm mewn ensymau sy’n ymwneud â resbiradaeth a ffotosynthesis
Mae gwerthoedd NPKFfordd o labelu gwrteithiau gan ddibynnu ar eu cynnwys nitrogen, ffosfforws a photasiwm. yn dangos cyfraneddau cymharol nitradau, ffosffadau a photasiwm mewn gwrtaith. Maent yn helpu ffermwyr i benderfynu pa wrtaith yw’r gorau i’r amodau pridd yn eu caeau.