Cerddi Rownd 1 2026
Pennill bachog: Galw am Waharddiad
Caernarfon
Mae gen i alergedd i adar y to:
Ji-bincs, ieir, cornchwiglod, gwylanod, jac-do...
Ni ddylent gael croeso mewn talwrn na thŷ.
Ymunwch â’r ymgyrch – gwaharddwn y Plu!
Geraint Lovgreen 8.5
Y Plu
Erfyniwn, hybarch Feuryn,/ er mwyn i ni gael siawns
Yn erbyn beirdd Cynarfon,/ i deimlo iâs y ddawns.
Oes bosib gwahardd Lovgreen,/ neu Ifor ap dros dro?
Rhag iddynt drwy eu mawredd/ Wneud fi edrych fel llo !
Hywel Richards 8
Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â siopa
Caernarfon
Yn y siop, fedra i’m stopio
canu ffaldi’r-ALDI-ro
Ifan Prys 9
Y Plu
Arteithiol ydy’r troli
’fynn fynd lle na fynnaf fi.
Huw McKee 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi fûm-i yn sownd tu ôl lori’
Caernarfon
Mi fûm-i yn sownd tu ôl i lori
am fis, o’n i fel iar yn gori
tan na fedrwn i gymyd
dim mwy. Nei di symud?
Na, sori, ma’r lori ’di torri.
Geraint Lovgreen 8.5
Y Plu
Mi fûm i yn sownd tu ôl lori
Tu allan i Nether Skyborry
Ar y ffordd i Fae Colwyn
O Abergynolwyn
A dyna pam methais i Corrie.
Gareth Hanahoe 8.5
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Man Diogel
Caernarfon
Lonar y stafell chwarae,
sarrug ei wep, drws ar gau,
ac mae rhyw gêm ar y go,
mae’n ei gwman yn gêmio,
dan y lleuad yn llywio’r
gawod drôns o’i gadair o.
Aiff gwerin ei sgrin heb sgrech
i ddiddymdra’n ddiymdrech
wrth roi’i groes ar einioes rhain
yna’u gwylio nhw’n gelain -
nhw, meirw ei ymyrryd
a’i bŵer o bellter byd.
Ifan Prys 9.5
Y Plu
Southport,Haf 2024
(Caer Sidi-man chwedlonol lle nad oes clefyd na henaint, na mynediad i ddieithriaid)
Uwch griddfan haid gwylanod
a sain dawns,rhai bach sy’n dod
i’w gwarchodfan, man lle mae
rhyddid a gweithgareddau
i’w meithrin, degau dinam
yn hwylio mynd o law mam.
Yna i’w mysg daeth llafn main
a’u hela nes yn gelain,
calon na fu greulonach
yn gwneud bedd o’u genod bach.
A’n hoes ddigyfaddawd ni
roes adwy i Gaer Sidi.
Enid Williams 9
Triban yn cynnwys y llinell ‘Mae cysgod ar y gorwel’
Caernarfon
Mae cysgod ar y gorwel.
A'm bywyd yn llawn blacmel.
Sut fedrwn fod y ffasiwn lo
 thrystio Ghislaine Maxwell?
Emlyn Gomer 8
Y Plu
Mae cysgod ar y gorwel
a mhriodas bron a dymchwel.
Es lawr i’r mart, ar doriad gwawr
a nawr mae genna’i gamel.
Huw McKee 8.5
Cân ysgafn: Bod yn Hwyr
Caernarfon
Bedyddiwyd yn Bodfael Bodwri ap Bodric Bodéd, ond fe’i gelwid yn “Bod”:
Dwn im p’run ai’r enw achosodd y chwinc, ond roedd Bodfael yn greadur reit od.
Roedd prydlondeb yn broblem aruthrol i Bod o’r diwrnod y cafodd ei eni:
Erbyn do’th o i’r byd a rhoi’i gri gyntaf un, roedd ei fam wedi gadael y ’sbyty.
Roedd ganddo un brawd ac hefyd ddwy chwaer, ond er mai y fo anwyd gynta
Mi gyrhaeddodd y dosbarth cofrestru mor slo, o’n nhw’n meddwl mai fo oedd yr ienga.
Gath waith fel gwyddonydd, dwi’m cweit yn siwr sut – roedd o’n hwyr i’r arholiad, i gychwyn:
A thra bod ei gyfoedion yn hollti yr atom, roedd Bod yn dyfeisio yr olwyn.
Aeth i briodi’n Las Vegas ’fo’i gariad Roxanne – cyrhaeddodd yn boeth a chynhyrfus:
Ond o’dd Roxy ’di gada’l ’rôl laru ar aros – ac felly mi briododd o Elvis.
Ond ga’th ddamwain angheuol pan ar ei fis mêl yn sgïo’n yr eira a’r gwynt:
Ga’th ’i gladdu mewn uffar o avalanche mawr oedd ’di digwydd dri diwrnod ynghynt.
Roedd yn angladd cofiadwy, ag Elvis yn canu o’r frest am y fath golled lem:
Ond fel oedd yr arch yn diflannu i’r tân, gwelwyd Bodfael yn cyrraedd y Crem.
Mi gyrhaeddodd o giatiau y nefoedd yn wirion o hwyr, a Sant Pedr yn benwan:
Ac mi daflodd o Bod ’nôl i’r ddaear gan weiddi yn groch “Tria’i gweld hi, y falwan!”
A hei, chwara teg, ers dod ’nôl, ma’r hen Bod ’di tynghedu i drio’n galetach:
Ond cast a hen geffyl a hynna i gyd – dwi’n ofni na fydd o fawr callach.
A phan bwysith y llo Trump ’na’r botwm bach coch, a’r ddaear yn un sgrwbiratsh,
Fydd ’na ddim byd ar ôl ’blaw am Bodfael Bodwri ap Bodric, yn checkio ei watch.
Emlyn Gomer 8.5
Y Plu
Mi sgwennais chwip o englyn
am Brexit fore Iau,
a cherdd i Dad yn hanner cant
a fyntau'n saith deg dau.
Oedd gen i gân i'r cyfnod clo
rôl inni ddod yn rhydd,
a dim am wlith y bore
tan wedi hanner dydd.
Doedd cyfres o englynion
am fardd y gadair ddu
ddim hanner mor effeithiol
yn twenty twenty three
Ac er gwaetha fy ymdrechion
mae pethau'n mynd yn waeth
gen i rywbeth ar ei hanner
am y gŵyr a aeth Catraeth
Os oes na jans i'w fethu
ei fethu fo a wnaf
Es draw i dŷ Cynddylan
a hithau'n fore braf
Ond rŵan gwelaf gyfle
am anfarwoldeb yn ein llên
Mi sgwenna'i gân am Ceri Wyn:
aiff rheiny byth yn hen.
Gareth Hanahoe 9
Ateb llinell ar y pryd: Yn y jâl mae Yncl John
Y Plu
Yn y jêl mae Yncl John
Am ymyrryd â moron
Llŷr Gwyn Lewis 0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Plu
Caernarfon
Mae’n pluo geiriau eto heno...
Chwyrlïant yn ddi-gyswllt ysgafn,
pob un yn ddim ond defnyn ar dafod,
ac eto’n cloi’n gramen gannaid
wrth gladdu gwlad yn ddyfnach ddyfnach
dan eu gwyn; a’r lluwchfeydd
yn anffurfio’r tir cyfarwydd,
yn orchudd ar y gwirionedd gynt.
Ac wrth fentro croesi’r oerni hwn,
a’r ansicrwydd a sugna dy fferau,
ac a guddia erchwyn y gyfraith,
mae’r gwanwyn mor bell; y dadmer
a allai ein hadfer o’r adfyd hwn,
gan nad ‘gwyn ein byd’
gyda’r ‘gwyn y gwêl’ hwn,
sy’n printio’n wyn ddi-dor ar lygaid dall,
a’i sŵn gwyn yn llethu’r deall...
Ac mae’n pluo eto... Heno...
Ifor ap Glyn 10
Y Plu
(Yn ôl y chwedl,creodd Daedalus adenydd o blu a chŵyr iddo fo a’i fab i ddianc o’r tŵr gan rybuddio Icarus i beidio hedfan yn rhy agos i’r haul na’r heli rhag toddi’r cŵyr neu ddifetha’r plu)
Rhwng gwewyr dy eni a’th gri gyntaf,
Rhwng ymbil llygaid llaith dros orwel masg
a saib y menyg rwber
synhwyrem yn ein mêr fod brwydr o’n blaenau:
ein brwydr ni, er dy fwyn di.
A chasglu wnaethom fân blu dy fisoedd cyntaf —
pob ystum, anadl a sgrech — yn gwrlid
i’th flancedu di yn dy nyth, a’n gwarchod ninnau.
A phan drodd dy stumiau herciog yn gamau,
pob anadl fas yn floedd a phob sgrech yn sgwrs,
magodd y manblu eu meingefn, gan sythu a chryfhau.
Ag edau’n gofal, gwniasom nhw; eu selio â chŵyr cariad
i’w gosod ar dy gefn crwm yn adenydd adferiad
a gadael iti fynd.
Hedaist uwchlaw’r tonnau, chydig is na thanbeidrwydd yr haul
rhag ymdoddi llwyddiannau dy frwydr di
a’n boddi ninnau.
Enid Williams 9
Englyn: Tocyn
Caernarfon
Y sedd gadw sydd ddigidol, mewn ap
mae hi’n wyrth dechnegol;
go faith oedd fy nhaith yn ôl
a’r sefyll rhyngorsafol!
Ifan Prys 9.5
Y Plu
Wrth gymell ei thafellau, a’r menyn
wedi’i daenu’n denau,
gwyddai Nain ei bod hi’n hau
gwenith o hen geginau.
Llŷr Gwyn Lewis 9.5














