Main content

Cerddi Rownd 1 2026

Pennill bachog: Hysbysiad o Fwriad i Erlyn

Ysgol Farddol yr Holl Fyd

Benllyn, byddai'n codi ffî

os cewch farciau gwell na ni.

Byddai hynny’n anghyfiawnder

(a chyfreithiwr ydi ‘nghefnder).

Siwan Tomos 8

Penllyn

Rhag ofn i’r wyna ‘leni

Fynd yn flêr ac yn draed moch,

Wyt ti awydd cael cadoediad

Yr hen Sion, y blewyn coch?

Os llonydd gaiff fy oen bach i,

Fe leddir llai o’th gnafon di.

Haf Llewelyn yn darllen gwaith Aled Jones 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â botaneg

Ysgol Farddol yr Holl Fyd

Cyngor i fy nith:

Na, cyw, d’yn nhw ddim yn ca’l

d’alw’n “pwt”, “del” na “petal!”

Siwan Tomos 8.5

Penllyn

A’i lle i had o bob lliw

Yw hedd ein tirwedd heddiw.

Aled Jones 8

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mewn tafarn fach wledig un noson’

Ysgol Farddol yr Holl Fyd

Mewn tafarn fach wledig un noson

ar hewl rhwng Cwm-ann a Thregaron

enillais y cwis

a photel o fizz

er gwglo bob un o’m atebion!

Tomos Rees 8

Penllyn

Mewn tafarn fach wledig un noson

Caed pwyllgor i wneud pethau gwirion.

Roedd rhywrai mewn gwewyr

Pan geisiodd Huw Antur

Roi pleth yn ei wallt i wneud cynffon.

Aled Jones 8.5

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gorsaf

Ysgol Farddol yr Holl Fyd

Cawdel rhyfel sy’n parhau

o hyd - yn ôl penawdau

ar radio ac ar drydar.

Hir yw’r ciw i lenwi’r car

i barhau’n bywydau bras:

galwyni yw’n galanas.

Angof pob angau ofer

yn y gwyll wrth newid gêr -

ym mhydew ein gormodedd

clyd - dim byd - yw plant mewn bedd.

Yn nydd llwm cyfraddau llog

ai Esso sy’n dywysog?

Alun Tobias 9

Penllyn

Yn seiliedig ar y stori yn y gyfrol ‘Sophie’s Choice’

Pob dôr yn llyfn agorwyd

I’n llif o wynebau llwyd.

Yn y dorf, dwy law yn dynn

Yn nwylo dau anwylyn.

Yn rhes ar ôl rhes arhoswn

Y gwarth, neu gyfarth y gwn.

Yn raddol daw’r didoli

Yn nes, yn nes atom ni.

Yn y man rhaid i minnau

Ddewis, gwneud dewis rhwng dau.

Beryl Hughes Griffiths 8.5

Triban yn cynnwys y llinell ‘Mae llai a llai yn credu’

Ysgol Farddol yr Holl Fyd

Mae llai a llai yn credu

mewn gwarchod iaith at fory.

Ond dygnu arni yw ein dawn -

yn sicr iawn, gall dyfu.

Ana Chiabrando Rees 9

Penllyn

Mae llai a llai yn credu

Y dylem ni fel Cymru

Fod wedi mynd i’r UDA

 Trump a’i bla yn ffynnu.

Beryl Hughes Griffiths 8.5

Cân ysgafn: Anawsterau Technegol

Ysgol Farddol yr Holl Fyd

(I alaw Dacw Mam yn Dwad)

Dacw Nia’n dwad i helpu gyda’r ‘tec’,

yn rhithiol yma heno ar Dalwrn y B-B-ec.

Tîm tro trwstan yn chwilio marc neu fwy,

a Ceri yn ei stydi yn gwirio pwy ‘di pwy.

Mae problem gydag Ana â’r morgrug yn ei thŷ;

bwytasant trwy’r holl wifrau, mae popeth nawr yn ddu!

Tîm tro trwstan ddibynant ar y we

a Ceri yn ei stydi yn yfed dracht o de.

Mae Alun wedi mudo ac Elin mas o’i cho’

mo’yn llinell yn reit gyflym a’r we mor blincin’ ‘slo’.

Tîm tro trwstan yn cael rhyw herc neu ddwy

a Ceri yn ei stydi yn cloncan am ei blwy’.

Mae Siwan ar ei i-ffôn yn chwilio signal cry’

mae nawr yn adrodd pennill o ben y Mynydd Du.

Tîm tro trwstan yn cael un hec o strach

ond Ceri sydd yn gynnes yng ngwres ei stydi fach.

Siw Harston 8.5

Penllyn

Pan gadd Dei Tŷ Draw ei eni, gwir fod hynny bron cyn Crist,

Wyddai neb am ‘run “band eang” nac “emoji” wyneb trist!

A.I. fyddai Ani Ifans oedd yn ffermio Blaen y Cwm,

I.T. oedd enw’i chymar y bonheddwr Ifan Twm.

Yr oedd Dei yn canlyn Gladys ers cyn dyddiau Jac a Wil!

Ond roedd Glad ’di dechrau teimlo yr hoffai ’chydig mwy o thril

Roedd “downtime” Dei’n barhaol, ddim hyd’n oed ar “stand by”,

Ei feddalwedd oedd yn “fflopi”, a’i ‘gô bach’ di mynd yn llai!

Roedd eu ffrindiau fyth a hefyd yn rhoi lluniau ar y we

Gwyliau sgio, gwyliau syrffio; a dim byd yn mynd o’i le!

Mentrodd Gladys fynd ar Tinder, i gael dyn heb unrhyw nam!

Clicio wnaeth, a mynd am swper, “gigabite” bach, efo Sam.

Ond roedd siom yn aros Gladys, dim ond ‘rhithiol’ ydoedd Sam

Dim ond “rhithiol” oedd o’n fabi, a dim ond “rhithiol” oedd ei fam!

Un “hard drive” fu’r siwrne adre, teimlai’n “dwitter” ac yn frau,

Ofnai gael y drws ’di folltio, a’r “windows” hefyd wedi cau.

Ond roedd Dei ’di troi tudalen, Dei digidol oedd am fod

Dim hen “amazôn” amdani, na ble’r oedd Gladys wedi bod.

Ac wedi “dilitio’r” cyfan, a di clicio yn jocôs,

Dangosodd ei oriawr newydd, yn goleuo yn y nos!

Aled Jones 9

Ateb llinell ar y pryd – Yn y nos ar Zoom rown i

Ysgol Farddol yr Holl Fyd

Yn y nos ar Zoom rown i

Yn ehedeg rocedi

Elin Alaw 0.5

Penllyn

Yn y nos ar Zoom rown i

Mi welwn Dad yn moeli

Gruffudd Antur 0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Datgloi

Ysgol Farddol yr Holl Fyd

(Teyrnged i bawb sy’n goddef o nam ar y lleferydd yn dilyn strôc.)

Bob p’nawn Llun mae e’n hercian i’r clwb…

Yma ma’ nhw’n chwilmentan

a chrefu am sillau coll,

ceisio ymafael â’r cytseiniaid

a’r llafariaid i ffurfio gair…

yn chwilio

am y gynghanedd mewn anrhefn…

... mae ystyr a geiriau fel pili-pala

i’w hel a’u dal

yn rhwyd yr ymennydd

sydd wedi ei rhwygo…

ond weithiau clywn ryddhad y pry’

gronnodd ym magl y frest,

fel perlau bach sy’n hedfan yn droellog

rhwng yr herciwr a’r gwrandawr:

cyn i’r rhwyd gau eto

tan ddydd Llun nesaf.

Siw Harston 9

Penllyn

Methu pasio'r lle wnes i,

a minnau heb fwriad gwneud dim ar fore'r Pasg

ond dilyn y ffordd heibio'r tro.

Cip sydyn trwy'r ffenestr, dyna'i gyd -

a dacw blentyn yn sipian mint imperial

a'i Nain yn canu am waed a chroes a choron ddrain.

Dim ond atgof hiraethus, fel bydd rhywun,

a minnau'n gwenu - mor fydol, ddoeth.

Nes i sŵn y glicied

sgrialu amheuon hyd styllod y llawr,

heibio corneli'r meinciau a'r tyllau pryfaid,

i greu cynnwrf trwy ddalennau llychlyd y beibl mawr,

a siffrwd rhwng y petalau gwyw -

cyn setlo'n nodau lleddf rhwng y distiau.

Trof yn ôl am y ffordd a heibio'r tro,

a blodau'r ddraenen ddu yn lludw

hyd y cloddiau.

Haf Llewelyn 10

Englyn: Melin

Ysgol Farddol yr Holl Fyd

Canolfan Dwristiaid Molina Yaiza

Y dynfa gref bob Mehefin yw awch

breichiau Lansaroti'n

troi y rhod, fel try yr hin

yr ymwelwyr i'w melin.

Elin Alaw 8.5

Penllyn

Y paratoadau ar gyfer Steddfod y Garreg Las

Wedi rhoi ei holaf dro y mae hon

ond mae’r meini’n effro:

fe ŵyr rhai ar hyd y fro

natur eu rhygnu eto.

Gruffudd Antur 9