Main content

Cerddi Rownd 1 2026

Pennill bachog: Wltimatwm

Crannog

Wel, Richard Collier-Keywood

Mae’r ffest yn dod i ben;

Cei ddechrau busnes newydd

Yn gwerthu llwyau pren.

Eirwyn Williams 8.5

Y Glêr

Pum sill – ‘Ai fi, neu’r Talwrn?’ –

A ges wrth fynd, ’na’i gyd,

Ac felly os collwn heno,

Fydd hi’m yn ddiwedd byd.

Elen Davies yn darllen gwaith Hywel Griffiths 8

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â’r post

Crannog

Pan wanio’i gerdd penna’ gwarth

I has-been yw’r ail-ddosbarth.

Idris Reynolds 8.5

Y Glêr

Mae tras digon cas i’r ci,

A hofran mae boi Evri.

Megan Elenid 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy’n siwr y bydd tyrfa’n bresennol’

Crannog

Roedd yno ond dau’n y Cwrdd Misol,

Llai fyth y penwythnos canlynol,

Ond pan ddaw’r gŵyr mawr

I gau y lle lawr

Rwy’n siwr y bydd tyrfa’n bresennol..

Gillian Jones 8.5

Y Glêr

Mae’n siŵr y bydd tyrfa’n bresennol

I wrando ar ‘dalent’ barddonol

Tîm Crannog (sy’n flêr)

Yn erbyn y Glêr …

Hawdd gwybod pwy fydd yn fuddugol.

Elen Davies 8

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llysgennad

Crannog

Syndrom Down. Di-ddawn fydd hi?

Ond er hyn, dyw’r rhieni

am ei rhwystro - mae’r ‘estron’

yn llysgennad o wlad lon.

Yn ei thro, daw’n athrawes

yn y wers am gwtsio’n nes

wrth uno mewn chwerthiniad,

ac yn gallu dysgu Dad

â’i geiriau, “I ninnau ’no

’sdim cystal â dal dwylo”.

Myn croten trwy’i gwên, yn gall,

“Dere - i weld gwlad arall.”

Philippa Gibson 9.5

Y Glêr

Stryd lydan yn Hafana

Neu Athen yn heulwen ha’:

Yno bydd, un dydd, dy wên

Yn camu at dŷ cymen,

A derbyniad arbennig

Am awr, lle cei chwarae mig

Yn enw ein buddiannau;

Gweini gwin, gwenu a gwau

Edafedd yn rym meddal

Rhwng sôn gwleidyddion, a’u dal

Yn swigod y diodydd

Di-ri ar ran dy wlad rydd.

Eurig Salisbury yn darllen gwaith Hywel Griffiths 9

Triban yn cynnwys y llinell ‘Peth doeth o hyd yw beio’

Crannog

Peth doeth o hyd yw beio

Y Saeson sy’n mewnfudo;

Mae’n dipyn haws difrïo’r Sais

Na’r rhai sy’n gwerthu’u heiddo.

Eirwyn Williams 8

Y Gler

Peth doeth o hyd yw beio

dihiryn cyn ei daro,

ac wedi iti osod cledd

ei ddialedd yn ei ddwylo.

Osian Rhys Jones yn darllen gwaith Hywel Griffiths 9

Cân ysgafn: Pensiwn

Crannog

Pan ges i’r dasg, sef ’Pensiwn’, f’ymateb oedd ‘Pam fi?’

O styried bod y gweddill yn codi dau neu dri.

Mae angen byw y profiad cyn dechrau clatsho bant,

Beth ddwedai Idris, druan, ar fater magu plant.

Ond mynnu wnai’r penwynion eu bod wedi canu’u cân

Gan ddod o’r testun yma i’w rhan sawl tro o’r bla’n’,

Ac ofer fyddai twrio i ail-gyflwyno’r gwaith

Gan na chawsom fawr o farciau yr adeg honno chwaith.

A’r Meuryn ŵyr fel ninnau mai annoeth heb un dowt

Ail-gylchu hen syniadau, a hynny rownd a bowt.

Ond rhaid i mi gyfaddef, cysyniad rhyfedd yw

O safbwynt crwtyn ifanc sydd ddim ond dechrau byw.

Mae’n anodd gweld rhesymeg tu ôl i’r arfer drud

O dalu’r holl filiynau i’r rhai sy’n gwneud dim byd.

Fel Twm Siôn Cati amgen gwnant ddwyn ceiniogau’r iau

A’u rhoddi i genhedlaeth na ŵyr sut i’w mwynhau.

A beth a wna ‘beirdd ifanc’ y Glêr o’r testun hyn

A hwythau’u hunain bellach yn dȋm o walltiau gwyn?

Ond pan ddaw’r Talwrn nesaf, ymhen y deuddeg mis,

Rwy’n erfyn, Mistar Meuryn, dim ‘Pensiwn’ eto, plȋs.

John Rhys Evans yn darllen gwaith Endaf Griffiths 9.5

Y Glêr

Pan fwyf yn hen a pharchus, ac arian yn fy nghod,

Nid af i Aberdaron, cans yno byddwn bored,

Na, prynaf fflat ym Vegas heb ddim o flaen ei ddôr

Ond tywod a chasinos a stripjoints mawr galôr.

Pan fwyf yn byw yn Vegas, fe yfaf goctels oer,

A’m calon a gyflyma wrth wylio ambell sioe,

Bydd gobaith im bryd hynny mewn condo sydd a’i ddôr

At seigiau Ceasar’s Palace a ffau’r Bellagio.

Pan fwyf yn betio ffortiwn tu hwnt i bwyll a sens,

A’m lwc yn ôl y patrwm yn cyflym ddod i ben,

Bydd gobaith im bryd hynny gael taro’r union sgôr

Wrth erfyn yn fy nagrau â’r deliwr, ‘Jyst wans môr!’

Oblegid mi gaf yno, er mynd yn fwyfwy sgint,

Well ods am win na chefais mewn rownd o Dalwrn gynt,

A phan ddaw’r IRS i guro ar fy nôr,

Dihangaf ar fy union i haul El Salfadôr.

Eurig Salisbury 9

Ateb llinell ar y pryd – Be sy’n ffug a be sy’n ffaith?

Crannog

Be sy’n ffug a be sy’n ffaith?

Fe holaf eto filwaith

Idris Reynolds

Y Glêr

Ar y ‘news’ bob ryw noswaith

Be sy’n ffug a be sy’n ffaith?

Eurig Salisbury 0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Recordiad

Crannog

Tenor mwyn fel tonnau’r môr

a holai’r heli

yn oriau tynera’r

trai trist

a Llanddwyn a’i thwyni

yn dweud dim.

Ond deil y cwestiwn hwnnw

i atsain ar finyl

ynys nad yw yno

ond i ti a mi

a’r môr.

Idris Reynolds 9

Y Glêr

Yn sgil y cynnydd mewn ffilmio cudd ar ein strydoedd

Baglu mas i’r nos

gan rannu jôc a rhannu gwefr,

dwy ffrind, fraich ym mraich.

Brysio i’r lle pitsa

heb boeni am y ciw na’r caws

sy’n llosgi eu tafodau.

Anwybyddu’r pigyn ddaw wedyn

wrth i’r fodca gorddi’n gynnwrf

a hwy, eu dwy, yn eu dyblau.

Codi, ac unioni pob hem,

cyn stwffio’u sodlau dan eu ceseiliau

heb deimlo llafn eu pothelli llidus

yn brifo fawr ddim

o gymharu â’r lens, fan draw,

sy’n dal eu hennyd hwy,

a’i rannu â’r byd.

Megan Elenid 9.5

Englyn: Carchar

Crannog

Mi wn nad cell mohoni, - nid oes fur,

nid oes fariau iddi,

a gwn fod rhyddid gen-i;

yn fy mhen mae’n warden i.

Philippa Gibson 9

Y Glêr

Ni ŵyr ei ddedfryd fan hyn, ar y mur

mae’i oes fesul rhicyn;

yn lled ei gell, a’i Dŷ Gwyn,

daeth dynoliaeth yn elyn.

Osian Rhys Jones 9.5