Cerddi Rownd 2 2026
Pennill bachog yn mynegi siom
Lleill o’r Llew
Mi ddeffrais heddiw’r bore
i’r newydd gorau fu -
daeth ban ar etifeddu grym
a ban ar cael ail dŷ,
a ban ar ddojo trethi
a nawr mae’r coffrau’n llawn,
daeth tegwch i deyrnasu…
yna deffrais i go iawn.
Gwilym Bowen Rhys 8.5
Ffoaduriaid
Ges i drydydd mas o ddau
ar yr unawd wyth neu iau.
Cam aruthrol gefais i,
am fy mod i'n fforti-thri.
Hannah Sams-Jones yn darllen gwaith Llio Maddocks 8.5
Cwpled caeth: Beddargraff Cyfrifydd
Lleill o’r Llew
Hwre! O’r diwedd rwy’n rhydd.
Yr wyf yn gyn-gyfrifydd.
Myfanwy Alexander 9
Ffoaduriaid
Yn sâl iawn, roedd dal yn slaf
Excel hyd y bocs olaf.
Gethin Wynn Davies 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’r ffin rhwng y ddau yn un denau’
Lleill o’r Llew
Fe lwyddwn, fe fethwn ni weithiau,
mae’r ffin rhwng y ddau yn un denau.
Fe wnaeth bawb fwynhau
fy limrig di-fai,
ond gath hanner marc llai na’r un gorau.
Gwilym Bowen Rhys 8
Ffoaduriaid
Wrth drafod cynghanedd â'm ffrindiau
gwerthusom y gwaethaf o'r beiau!
A wna hyn ni'n gîcs?
Neu'n griw llawn o ffrîcs?
Mae'r ffin rhwng y ddau yn un denau..
Gethin Wynn Davies 8.5
Cadwyn o dri englyn unodl union yn canu mawl i rywun neu rywbeth
Lleill o’r Llew
I Nathan Newby
(Wnaeth atal ymosodiad terfysgol yn Ysbyty Leeds)
Pob egwyddor yn y glorian, arwr
euraidd ddaeth i'r llwyfan;
drwy raid dewisaist dy ran,
yn dy awr codaist darian.
Yno awr aeth yn oriau o erfyn
ar ddyn arfog, dyddiau
pwyll a hedd sydd yn pellhau
a neidio mae'r munudau.
Munud y geiriau mwynion, i drechu
drychwaith brawd afradlon,
a heno, hawlio’r awr hon
oedd aur dy egwyddorion.
Sioned Camlin 9
Ffoaduriaid
Y Llyfr
I bydew’n hanwybodaeth – y daethost,
bendithiaist ddynoliaeth,
i fyd, rhwng deuglawr, rhoist faeth
a rhoi inni weriniaeth
y gair. Fe gafodd gwerin – eiriau doeth
gwefr a dysg i’w meithrin,
gyfrol wrth gyfrol gyfrin,
oes y gwâr oedd… nes daeth sgrîn.
Fe af at fy sgrîn ddi-faeth – a nofiaf
mewn ofer ormodiaeth
a’m llyfrau ar gau, yn gaeth
i bydew f’anwybodaeth.
Gruffudd Owen 9.5
Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Gan hen wraig mi gefais gyngor’ neu ‘Gan hen ŵr mi gefais gyngor’
Lleill o’r Llew
Wrth ymweld â beudy sobor
gan hen wraig mi gefais gyngor;
i gael trefn, mae’n rhaid wrth ola’
i drin Nel ’fo salmonela.
Iwan Wyn Parry 8.5
Ffoaduriaid
Gan hen ŵr mi gefais gyngor
pan nad o’n i'n gwbwl sobor.
Yn anffodus dwi’m yn cofio
am be uffar oedd o’n fwydro.
Gruffudd Owen 8.5
Cân ysgafn: Talu’r Pwyth
Lleill o’r Llew
´Daw awr bydd mawr y bychain,´ mi glywais lawer tro,
wel neithiwr, wir i chi, daeth awr creaduriad gwyllt fy mro -
´rol penderfynu dial ar bob bwli o bob math,
mi welais fil o lygod dig yn diberfeddu’r gath.
Mi welais res o fwydod yn pysgota ar lannau Taf
yn kebabio dwsin brithyll tew a’u barbyciwio’n braf.
Mi welais fecryll hefyd yn plufio bilidowcar
a chranc yn snapio coesyn creyr a’i hiwsho fel ciw snwcar.
Mi glywais sŵn llwynogod yn marchogaeth Saeson tew
a'u chwipio’n chwyrn dan chwythu cyrn, fe gawson hunt go lew,
a´r gwningen rwydodd lynx y Borth a’i werthu i Chester Zoo
a´r pathew’n stwffio nythod lawr gorn gwddw’r gwdihŵ.
Mi drois i’r teli mlaen a dyma David Attenborough
yn dangos sioncyn gwair yn sbaddu deryn kookaburra,
a nesa dyma rhyw gazelle yng nghanol y savannah
yn agor llew a´i bocket neiff a´i blingo fel banana.
Os groeswch falwen peidiwch wir â´i sathru’n ddidrugaredd
neu mi ddeffrwch bore fory’n hanner boddi’n ei llysnafedd,
a hithau’n dweud - ´´os chwerw diodde sodlau dynion ffôl,
melys, o mor felys ydyw talu’r pwyth yn ôl´´.
Gwilym Bowen Rhys 9.5
Ffoaduriaid
Fe ddaeth y berthynas i ben yn naturiol
rôl wythnos mewn pabell, mewn tywydd hydrefol
ar ynys bellenig, wel Enlli, heb signal
na gronyn o wi-fi – a niferoedd abnormal
o adar yn crawcian, a drafft a gwlybaniaeth.
Fe drwsiodd e’r sip, ond ni wnaeth wahaniaeth.
Ar y cwch, mewn awyrgylch nad oedd rhy wych
y peth carediciaf oedd dympio y brych.
Bu’n rhaid mynd i’w fflat i gasglu fy mhethau.
Roedd e gyda’i gariad yn gwneud “gweithgareddau”,
beth bynnag oedd hynny – symudodd yn chwim-
ond cyn i mi adael, rôl casglu pob dim,
fe holais Alexa i gyfarth fel ci
bob bore’n blygeiniol, rhwng dau a thri,
a chanu fel cloch y drws ffrynt yn ddefodol
pan fyddai ar ganol ymrwymiad boreuol.
Fe’i gwnes hi i disian yn uchel heb rybudd
a sibrwd ei enw’n llawn malais, fel llofrudd.
Cusanais hi’n dyner cyn codi fy mocsys
a phostio yr allwedd. Mae dial yn felys!
Hannah Sams-Jones yn darllen gwaith Gwennan Evans 9
Ateb llinell ar y pryd – Mae risg fod ‘na gamerau
Lleill o’r Llew
Mae risg fod ‘na gamerau
I raddio’n gweithgareddau
Iwan Wyn Parry 0.5
Ffoaduriaid
Mae risg fod ‘na gamerau
Rhy wych am ddal fy rhychau
Gethin Wynn Davies 0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Parsel
Lleill o’r Llew
Y Postmon
Dwn i ddim os oedd o’n smygu,
ond dwi’n tybio byse’n tanio pob matsien
fel tase hi’r olaf yn y byd,
gan dynnu ar ei gwres yn ara’ deg.
Mae’n gorffwys ei lygaid ar lif yr afon
am funud bach, cyn dechrau ar y daith
am i fyny, y beic ar gadw yn y llwyn.
Dim ond ei draed eith â fo i’r ffermydd pella’.
Maen nhw wedi gwisgo pob lliw o dywydd
efo’i gilydd, fo a’r llwybr hwn.
Mae o’n nabod enw pob crimell a phob craig.
Yn ei satsiel mae pelen edau gwlân,
paced o siwgr gwyn, a photel o dabledi
sy’n rhincian yn eu gwydr fesul cam.
Mae o’n cnoi dros hanes y mart wrth fynd,
yn tynnu holl sïon y fro o belen edau ei feddwl,
gan baratoi at ager y banad.
Mae parsel hefyd, ar waelod ei satsiel.
Sam Robinson 9.5
Ffoaduriaid
Roedd popeth arall yn barod;
rhannau o’u bywydau
mewn bocsys yng nghefn y car.
Ond wyddai hi ddim sut i bacio hwn;
y borderi’n rhubanau o’i hamgylch,
y tŷ gwydr a oedd yn gwegian dan bwysau’r
hadau a heuwyd i greu hafau,
a choed ’fale a roddai afal bob yn ail flwyddyn
os oedd yr amodau’n berffaith.
Gwyddai eu bod nhw’n gadael eu gwanwyn.
Am ennyd, ystyriodd herio hyn;
mapio’r ardd ar ffurf grid
a’i thorri’n sgwariau cyfatebol
er mwyn cludo’r gwreiddiau a’r atgofion
a lapiwyd â phridd fesul bocs i’r bennod nesaf.
Efallai y gallai herio amser.
Trodd ei chefn a cherdded at y car.
Hannah Sams-Jones 9.5
Englyn: Olew
Lleill o’r Llew
Y Tanc Olaf
Diwedd ar oddiweddyd;— oes desog
ias disel sy'n machlud,
ni lenwa fwy y lôn fud,
cic i'r cyrb, crair yw cerbyd.
Sioned Camlin 9
Ffoaduriaid
Foddion du hollalluog - a irodd
lwnc y peiriant blysiog,
yr wyt, fel ninnau ynghrog
yn llaw yr analluog.
Gruffudd Owen 9.5
















