Profiad 'brawychus' menyw wrth i feddyginiaeth 'beryglu ei bywyd'

Cafodd Harriet sgil effeithiau oedd yn "peri perygl i'w bywyd" yn dilyn cwrs o wrthfiotigau cryf
- Cyhoeddwyd
Roedd Harriet Davies, 37, o Gaerdydd yn byw bywyd iach a phrysur, ond yn dilyn cymhlethdodau ar ôl diagnosis o appendicitis, bu'n brwydro am ei bywyd.
Cafodd sgil-effeithiau a oedd yn "peri perygl i'w bywyd" yn dilyn cwrs o wrthfiotigau cryf, ac mae hi'n awyddus i bwysleisio pa mor bwysig yw cael amrywiaeth o wrthfiotigau er mwyn atal pobl eraill rhag wynebu profiad tebyg.
Mae'r Athro Thomas Wilkinson o Brifysgol Abertawe yn dweud bod ymwrthedd i wrthfiotigau yn "broblem enfawr" ac yn "faich" ar y GIG.
A hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymwrthedd i Wrthfiotigau (AMR), mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gobeithio y bydd pobl yn dod yn fwy ymwybodol o'r hyn y gallant ei wneud i helpu'r sefyllfa.
'Rash ar hyd fy nghorff'
Tra ar wyliau yn Ffrainc ym mis Ionawr, dechreuodd Harriet gael poenau yn ei stumog. Yn fuan wedyn, sylweddolodd mai appendicitis oedd ganddi.
Cafodd lawdriniaeth a gofal meddygol yn Ffrainc cyn dychwelyd i Gymru, ond parhaodd y boen wedi iddi ddychwelyd adref.
Dychwelodd i'r ysbyty, lle dangosodd sgan CT fod ganddi grawn (abscess) yn ei habdomen, a chafodd gwrs o wrthfiotigau.
Er hynny, cafodd sgil-effeithiau ar ôl cymryd y gwrthfiotigau.
"Roedd fy ngwefusau'n brifo ac roedd gen i rash ar hyd fy nghorff," meddai.
"Roedd y math o gell gwaed gwyn sy'n amddiffyn rhag heintiau wedi diflannu.
"Felly, bu'n rhaid i mi fynd yn ôl i'r ysbyty a chael gwrthfiotigau brys, er mwyn atal sepsis rhag datblygu."
Mae Harriet yn dweud iddi ddioddef sgil-effeithiau difrifol iawn yn sgil y gwrthfiotigau, ac mae hi'n credu mai dyna a'i gwnaeth yn sâl.
Ond ar yr un pryd, fe wnaeth cwrs gwahanol o wrthfiotigau achub ei bywyd.
"Pe na bawn i wedi cael y gwrthfiotigau hynny yn yr ysbyty, gallwn fod wedi gwaethygu a datblygu sepsis - a byddai hynny wedi bod yn anodd iawn i'w drin."

Roedd Harriet Davies ar wyliau yn Ffrainc pan ddechreuodd ddioddef poenau yn ei stumog
"Dwi fel arfer yn berson iach, dwi erioed wedi cael problemau iechyd o'r blaen," esboniodd Harriet.
"Y foment nes i sylwi nad oedd pethau'n mynd fel yr oeddent yn ei ddisgwyl, a gweld ymateb y tîm clinigol o'm hamgylch, roedd yn frawychus iawn i mi.
"Nes i gychwyn sylweddoli fod hyn yn ddifrifol iawn, a bod fy mywyd o bosib mewn perygl os na fyddaf yn gwella o'r haint hwn."
Ar ôl sawl wythnos, gwellodd ei chyflwr, ond mae'n dweud ei bod bellach yn fwy ymwybodol o beryglon meddyginiaethau.
"Yn seiliedig ar fy mhrofiad i, fyswn i'n hoffi'r cyhoedd i fod yn ymwybodol o'r risgiau a'r sgil effeithiau sy'n gysylltiedig ag unrhyw feddyginiaethau; gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y daflen wybodaeth."
'Ymwrthedd yn gwaethygu'
Mae Meryl Davies, fferyllydd gwrthfiotigau gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn dweud bod "ymwrthedd i wrthfiotigau eisoes yn broblem yng Nghymru".
"Rydym yn gwybod fod heintiau sy'n gwrthsefyll triniaeth yn bodoli yng Nghymru o ran samplau wrin. Mae tua thri allan o bob 10, yn ôl pob tebyg, yn dangos ymwrthedd i rai gwrthfiotigau.
"Yr hyn sy'n peri pryder i ni yw bod ymwrthedd i wrthfiotigau yn gwaethygu yng Nghymru.
"Felly, rydym am ddiogelu ein gwrthfiotigau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i weithio ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru."
Dywedodd hefyd ei bod yn bwysig codi ymwybyddiaeth o'r broblem.
"Mae'n effeithio ar iechyd pobl, anifeiliaid a'r amgylchedd, felly mae'n wirioneddol bwysig bod pawb yn deall beth mae angen iddyn nhw ei wneud yn bersonol."

Dywedodd yr Athro Thomas Wilkinson fod gan y cyhoedd rôl bwysig i'w chwarae
Dywedodd yr Athro Thomas Wilkinson fod "ymwrthedd i wrthfiotigau'n digwydd achos nad yw'r dos sefydledig o wrthfiotig yn gweithio mwyach, ac felly angen dos uwch i'r gwrthfiotig weithio.
"Mae llawer o ffyrdd 'dan ni'n gallu helpu gydag ymwrthedd.
"Mae'n her bwysig iechyd cyhoeddus i ddweud y gwir, ac mae'n her achos problem iechyd yw hwn, dyw e ddim jest yn broblem i bobl - mae'n broblem i anifeiliaid... ac wedyn chi gyda phroblem gyda gwrthfiotig i drin pobl, i drin anifeiliaid a gwrthfiotig hefyd yn y cynefin.
"Mae hwn yn mynd yn uwch bob tro," meddai.
Dywedodd fod gan y cyhoedd rôl bwysig i'w chwarae wrth warchod dyfodol y cyffur.
"I ddweud y gwir, effaith y cyhoedd ar hwn yw un o'r pethau mwyaf ni'n gallu gwneud, felly defnyddiwch wrthfiotigau yn gyfrifol, gorffennwch y cwrs - ma' hwnna'n bwysig iawn.
"Os yw eich meddyg yn dweud... gwnewch hwnna," ychwanegodd yr Athro Wilkinson.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol .
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.