Galw am fwy o 'amrywiaeth o gyfleoedd' i ddenu graddedigion yn ôl i Gymru

Cafodd cynllun Seren ei sefydlu yn wreiddiol i hybu nifer y disgyblion o Gymru sydd yn mynd i brifysgolion fel Rhydychen
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i gadw cysylltiad â myfyrwyr sy'n gadael Cymru i astudio, a'u hannog i ddychwelyd ar ôl graddio, yn ôl pobl sy'n gweithio gyda myfyrwyr a chyflogwyr.
Daw'r alwad wrth i ffigurau UCAS ddangos bod 46% o'r disgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg a ddechreuodd yn y brifysgol eleni wedi mynd i astudio y tu allan i Gymru.
Mae sylfaenydd platfform gyrfaoedd Darogan, Dr Owain James, yn dweud nad yw myfyrwyr bob amser yn ymwybodol o'r cyfleoedd gwaith sydd ar gael yng Nghymru, hyd yn oed pan fo cyflogwyr yn chwilio am bobl â'r sgiliau sydd ganddyn nhw.
Mae'r ymgynghorydd addysg a chyn bennaeth, Geraint Rees, a'r myfyriwr Charlie Evans hefyd yn dweud bod angen sicrhau bod gan raddedigion resymau a chyfleoedd i ddychwelyd, gan gynnwys mwy o "amrywiaeth o swyddi" a chysylltiadau cryfach rhwng prifysgolion a chyflogwyr.
Mae'r ganran sy'n astudio y tu allan i Gymru yn debyg i'r blynyddoedd blaenorol, gyda 50% wedi gadael yn 2025 a 48% yn 2024.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod diwygio Rhwydwaith Seren ac Adolygiad o Addysg Uwch yn rhan o'u hymdrechion i annog mwy o bobl ifanc i astudio a gweithio yng Nghymru.

Mae Dr Owain James, sylfaenydd Darogan, yn dweud bod angen gwneud mwy i sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o'r cyfleoedd gwaith sydd ar gael yng Nghymru
Sefydlodd Dr Owain James Darogan ar ôl sylweddoli, wrth astudio yn Rhydychen, mai "ychydig iawn o gyflogwyr o Gymru oedd yn mynd i ddigwyddiadau gyrfaoedd" i ddenu myfyrwyr.
Roedd wedi astudio ei radd gyntaf ym Mhrifysgol Caerwysg cyn symud ymlaen i wneud gradd meistr a doethuriaeth yn Rhydychen, ac roedd am ddychwelyd i Gymru ar ôl gadael y byd academaidd.
Ond dywedodd nad oedd yn gwybod "beth oedd ar gael na sut i wneud hynny - do'n i'n amlwg ddim yn clywed unrhyw beth am Gymru".
Mae Darogan bellach yn cysylltu cyflogwyr yng Nghymru â myfyrwyr a graddedigion, gan gynnal digwyddiadau gyrfaoedd ar draws y DU a darparu hysbysfwrdd swyddi.
Dywedodd Owain ei fod wedi cael ei synnu gan yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru ers dechrau gweithio gyda chyflogwyr, a bod llawer o'r bobl y mae'n siarad â nhw yn "agored iawn i ddod nôl, jyst bod y cyfleoedd cywir yna".

Mae Darogan yn cysylltu cyflogwyr yng Nghymru â myfyrwyr a graddedigion ar draws y DU
Ond dywedodd fod angen gwneud mwy i baru sgiliau graddedigion â swyddi gwag, a sicrhau bod pobl yn gwybod am y cyfleoedd hynny - gan fod pobl, meddai, "lot yn fwy agored i ddod nôl na falle fyddech chi'n meddwl hefyd".
Mae'n credu bod angen cadw mewn cysylltiad â myfyrwyr wrth iddyn nhw adael Cymru, yn hytrach na disgwyl iddyn nhw ddod o hyd i'w ffordd yn ôl ar eu pennau eu hunain.
"Ni 'di bod yn euog yng Nghymru o adael pobl i fynd heb bo' ni falle'n gwneud digon i wneud yr ymdrech yna i gadw mewn cysylltiad gyda nhw wrth iddyn nhw adael.
"Os ydyn ni'n gallu dangos iddyn nhw bod 'na le iddyn nhw yng Nghymru a'u bod nhw ddim yn gorfod aberthu uchelgais i fod yma a gweithio yma, fi'n meddwl down nhw."

Mae gan Geraint Rees ddegwadau o brofiad fel pennaeth ysgol ac ymgynghorydd addysg
Mae'r ymgynghorydd addysg, Geraint Rees, yn cytuno nad yw gadael Cymru i astudio o reidrwydd yn beth negyddol, ond dywedodd fod angen sicrhau bod gan y wlad y cyfleoedd i ddenu pobl yn ôl.
Aeth yntau i Brifysgol Rhydychen i astudio Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg, gan nad oedd cyrsiau tebyg ar gael yng Nghymru ar y pryd, ond dywedodd mai dychwelyd i Gymru oedd ei "fwriad o'r cychwyn".
Mae'n credu bod angen mwy o gydweithio rhwng prifysgolion Cymru, yn ogystal â chysylltiadau cryfach rhwng y sector addysg a busnesau.
"Does dim unrhyw broblem 'da fi gyda phobl yn dewis mynd i'r brifysgol ble bynnag maen nhw eisiau, neu pobl yn gwneud gyrfa ble maen nhw eisiau hefyd, ond mae Cymru wir angen y capasiti.
"Mae gyda ni bob prifysgol yn cystadlu yn hytrach na gallu cael strategaeth genedlaethol gwbl eglur ynglŷn â ble ni'n rhedeg pa gyrsiau a sut ni'n anelu at gael pob un o'r llefydd 'na yn anelu at fod yn y top 10% yn y byd.
"Mae'r system yn un o gystadleuaeth yn hytrach na chydweithio.
Dywedodd hefyd bod problem strwythurol yng Nghymru, gan nad oes llawer o gwmnïau Cymreig â phencadlysoedd yma.
"Mae swyddi uwch yn y sector preifat yn denau yng Nghymru, ac mae hwnna yn creu problem delwedd," meddai.
'Pasbort allan o Gymru'
Mae hefyd yn cwestiynu a yw Rhwydwaith Seren, sy'n cefnogi disgyblion galluog i symud ymlaen i brifysgolion, yn gwneud digon i ddangos y cyfleoedd sydd yng Nghymru.
Dywedodd fod perygl i'r cynllun gael ei weld fel "pasbort allan o Gymru i unrhyw berson ifanc galluog", er nad oedd hynny o reidrwydd yn fwriad.
"Mae'r syniad gwreiddiol yna o Rydychen a Chaergrawnt wedi datblygu mewn i bron â bod conveyor belt cyffredinol allan o Gymru i ganran uwch o fyfyrwyr.
"Mae dangos ble mae'r gwychder gyda ni yng Nghymru yn rhan bwysig o helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau, a falle bod angen i Lywodraeth Cymru ail-edrych ar Seren i weld beth yw'r canfyddiadau."

Mae Charlie Evans, myfyriwr o Ynys Môn yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, yn credu bod angen cynnig gwell i ddenu graddedigion yn ôl i Gymru
Mae Charlie Evans, sy'n dod o Ynys Môn ac yn fyfyriwr blwyddyn olaf yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, hefyd yn credu bod angen "cynnig gwell" i ddenu pobl yn ôl i Gymru.
Dywedodd fod y gymuned Gymraeg yng Ngholeg yr Iesu, gan gynnwys Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, wedi bod yn rhan bwysig o'i brofiad ac wedi rhoi cyfle iddo ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i Gymru.
Mae'n credu y dylid gweld y cyfle i astudio mewn llefydd fel Coleg yr Iesu fel rhywbeth cadarnhaol, yn hytrach na thystiolaeth bod pobl ifanc yn troi eu cefnau ar Gymru.
"Dwi'n meddwl dylai hynny gael ei weld fel rhyw fath o gyfle - cyfle i Gymru ddenu talent yn ôl yn hytrach na rhywbeth negyddol.
"Mae lot fawr o fy ffrindia' i yma sy'n dod o ardaloedd eithaf di-Gymraeg, yn dweud eu bod yn sylwi ar y ffaith eu bod yn siarad mwy o Gymraeg yng Ngholeg yr Iesu nag ydyn nhw adref.
"Newch chi sylwi yn aml iawn bod lot fawr o Gymry - boed nhw'n Gymry Cymraeg neu'n Gymry di-Gymraeg - bod awydd ganddyn nhw i fynd yn ôl i Gymru."
'Angen angor gwell'
Ond dywedodd fod angen mwy o amrywiaeth o gyfleoedd gwaith yng Nghymru, gan awgrymu y gallai "cynllun sy'n rhoi blaenoriaeth" i raddedigion Cymreig helpu i fynd i'r afael â phrinder sgiliau mewn rhai diwydiannau.
"Ma' 'na ddiffyg cyfatebiaeth eitha' amlwg hefyd rhwng y galw a'r cyflenwad o ran nifer y gweithwyr yng Nghymru sydd efo'r gallu neu efo'r sgiliau Cymraeg.
"Os ydy'r llywodraeth wir eisiau denu ni nôl, ry'n ni angen cynnig gwell.
"Yn y bôn, un o'r prif resymau pam fod pobl yn symud tu hwnt i Gymru yw oherwydd 'sdim o reidrwydd dim digon o gyfleoedd, ond dim digon o amrywiaeth o gyfleoedd.
"Beth sydd angen yw angor well i ddod a denu'r pobl nôl i Gymru."
'Pryder mawr' bod bron hanner myfyrwyr Cymraeg yn gadael Cymru
- Cyhoeddwyd28 Hydref
'Eisiau gweithio yng Nghymru, ond does dim swyddi' - myfyrwyr ffisiotherapi
- Cyhoeddwyd13 Hydref
Pam bod 2/3 myfyrwyr Cymraeg ddim yn astudio trwy'r iaith yn y brifysgol?
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod prifysgolion Cymru "yn cynnig cyfleoedd o'r radd flaenaf i fyfyrwyr."
Dywedodd fod "dangos i bobl ifanc fod Cymru yn lle gwych i astudio a gweithio" yn rhan o'r broses o ddiwygio rhaglen Seren.
Dywedodd fod Adolygiad o Addysg Uwch wedi dechrau, gyda'r nod o wneud argymhellion ynghylch sut i gadw talent, cryfhau sgiliau a chefnogi uchelgeisiau economaidd Cymru.
Ychwanegodd fod un o nodau'r adolygiad yn cynnwys "annog mwy o fyfyrwyr a graddedigion o Gymru i astudio yng Nghymru", gan gynnwys cynyddu nifer y rhai "sy'n dilyn addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.