Gorsafoedd pleidleisio ar agor yn etholiad y Senedd

Mae cyfle i etholwyr bleidleisio rhwng 07:00 a 22:00 ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae gorsafoedd pleidleisio wedi agor ledled Cymru am 07:00 ddydd Iau ar gyfer etholiad y Senedd.
Mae Aelodau o'r Senedd (ASau) yn cael eu hethol ar draws 16 etholaeth gan ddefnyddio system bleidleisio newydd wrth i nifer y gwleidyddion ym Mae Caerdydd gynyddu o 60 i 96.
Bydd chwe gwleidydd yn cael eu hethol i gynrychioli pob etholaeth, wedi'u rhannu yn ôl cyfran y pleidleisiau y mae pleidiau'n eu derbyn yn y sedd.
Mae'r gorsafoedd pleidleisio'n cau am 22:00 gyda chyfrif yn digwydd yn ystod y dydd ddydd Gwener, a darllediad llawn o'r canlyniadau ar draws BBC Cymru ar-lein, teledu a radio.

Barti'r ci y tu allan i orsaf bleidleisio yng Nghaerdydd
Yn wahanol i etholiadau San Steffan, nid oes angen i chi ddod â dogfen adnabod na'ch cerdyn pleidleisio gyda chi i bleidleisio.
Dyma'r ail etholiad seneddol yng Nghymru sy'n caniatáu i bobl 16 a 17 oed gymryd rhan.
Newid arall yn yr etholiad hwn yw y bydd pobl yn bwrw eu pleidlais unwaith, dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
Yn etholiadau Senedd blaenorol roedd dwy bleidlais - un dros ymgeisydd ac un arall dros blaid wleidyddol.
Mae etholiadau hefyd yn digwydd i Senedd yr Alban ddydd Iau, ac mae etholiadau lleol a chystadlaethau maerol yn digwydd mewn rhai rhannau o Loegr.
Mae arweinwyr y prif bleidiau wedi bwrw eu pleidlais ledled Cymru ddydd Iau.

Anthony Slaughter yw arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru

Eluned Morgan yw'r Prif Weinidog ac arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru

Dan Thomas yw arweinydd Reform yng Nghymru

Jane Dodds yw arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru

Rhun ap Iorwerth yw arweinydd Plaid Cymru

Darren Millar yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill

- Cyhoeddwyd7 Mai 2025
