Dyn wedi'i arestio ar ôl gwrthdrawiad difrifol ym Mhorthcawl

- Cyhoeddwyd
Mae dyn 61 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhorthcawl.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Pyle yn ardal Notais y dref, tua 23:48 nos Wener.
Roedd y digwyddiad yn ymwneud â dau gar, sef Ford Mondeo du a Vauxhall Corsa glas.
Cafodd dau berson eu cludo i'r ysbyty i gael triniaeth.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.
Mae'r dyn a gafodd ei arestio, sydd o Ogledd Corneli ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn parhau yn nalfa'r heddlu.
Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw.
Mae unrhyw un sydd â lluniau dashcam allai fod o ddefnydd i'r heddlu hefyd yn cael eu hannog i gysylltu â'r llu.