'Brechlyn yn achub bywydau' - rhieni myfyrwraig fu farw o lid yr ymennydd

Meg DraperFfynhonnell y llun, Helen Draper
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Meg Draper, o Bont-y-pŵl, bum wythnos ar ôl dechrau yn y brifysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni myfyrwraig a fu farw o lid yr ymennydd math B yn dweud bod ehangu'r brechlyn yn "foment emosiynol" a fydd yn helpu i achub bywydau pobl ifanc.

Bu farw Meg Draper, yn 18 oed, ym mis Hydref 2025, bum wythnos yn unig ar ôl dechrau ei chwrs ym Mhrifysgol Bournemouth.

Yr wythnos ddiwethaf newidiodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ei gyngor, gan argymell y dylid cynnig brechlyn MenB am ddim yn rheolaidd i bobl ifanc o 15 oed - er iddyn nhw ddweud yn flaenorol nad oedd hyn yn gost-effeithiol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn ystyried y cyngor newydd, gan ychwanegu eu bod eisoes wedi cyflwyno rhaglen frechu dros dro ar gyfer pobl ifanc 17 a 18 oed a myfyrwyr sy'n dechrau addysg uwch neu addysg bellach breswyl yr hydref hwn.

Meg Draper a'i rhieniFfynhonnell y llun, Helen Draper
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen a Lee Draper fod colli Meg wedi bod yn "erchyll a thrasig"

Dywedodd Helen a Lee Draper fod penderfyniad cyflym gan lywodraethau i weithredu ar y cyngor newydd yn gallu "achub bywydau nifer fawr o bobl ifanc" ac atal rhagor o deuluoedd rhag wynebu'r golled y maen nhw wedi'i dioddef.

Roedd Meg wedi ymgartrefu'n gyflym yn y brifysgol, gan wneud ffrindiau newydd ac ymuno â'r timau nofio a phêl-rwyd.

Disgrifiodd ei mam hi fel person "chwaraeus, allblyg a charedig" oedd wrth ei bodd yng nghwmni pobl eraill.

"Roedd ganddi'r awydd am fywyd hwn a oedd yn hudolus - roedden ni'n ei edmygu hi'n fawr."

Mae llid yr ymennydd yn haint sy'n effeithio ar leinin yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn.

Mae myfyrwyr prifysgol ymhlith y rhai sydd fwyaf mewn perygl oherwydd eu bod yn dod i gysylltiad agos â nifer fawr o bobl newydd, ac mae'r bacteria sy'n achosi'r clefyd yn gallu lledaenu drwy beswch, tisian a chysylltiad agos.

Cafodd Meg y brechlyn MenACWY fel rhan o raglen frechu'r GIG pan oedd yn 14 oed, ond nid y brechlyn MenB, sydd ar hyn o bryd ond yn cael ei gynnig i blant ifanc a anwyd ar ôl 2015 yng Nghymru.

Mae ei rhieni wedi bod yn ymgyrchu dros sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn gallu cael y brechlyn MenB, gan ddweud yn flaenorol y gallai fod wedi achub bywyd eu merch.

Meg a Helen DraperFfynhonnell y llun, Helen Draper
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni Meg wedi bod yn ymgyrchu dros ehangu'r brechlyn MenB

Wrth ymateb i'r cyngor newydd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), dywedodd Helen Draper ei bod yn falch o weld cynnig am "raglen dal i fyny" i bobl ifanc nad sydd wedi cael eu brechu o'r blaen.

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd llywodraethau'n gweithredu ar y cyngor cyn gynted â phosibl.

Dywedodd hefyd y byddai ehangu'r rhaglen yn helpu i "atal rhagor o bobl rhag dioddef canlyniadau difrifol y clefyd", gan gynnwys colli clyw, anableddau parhaol ac amdoriadau.

"Gall llid yr ymennydd daro unrhyw bryd, mae'n gweithredu'n gyflym a gall ladd o fewn oriau."

Canmolodd Ysgrifennydd Iechyd y DU, James Murray, am gyflwyno rhaglen frechu dros dro ar gyfer myfyrwyr newydd cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd Cymru hefyd yn ehangu'r rhaglen er mwyn diogelu mwy o bobl ifanc.

"Rydym yn dioddef y golled fwyaf erchyll a thrasig o'n merch hardd, egnïol a charedig, a oedd â dyfodol mor addawol o'i blaen.

"Ni allem eistedd yn ôl a gweld mwy o bobl ifanc yn marw o glefyd y gellir ei atal."

Meg DraperFfynhonnell y llun, Helen Draper
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd rhieni Meg ei bod hi'n ferch "hardd, egnïol a charedig, a oedd â dyfodol mor addawol o'i blaen"

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y llywodraeth y bydd yn ystyried argymhellion y JCVI ac yn "rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw raglen yn y dyfodol maes o law".

Cyfrifoldeb gweinidogion ym mhob gwlad yn y DU fydd penderfynu a yw cost ariannol darparu hyn drwy'r GIG yn werth chweil ac, os felly, sut i'w gynnig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn "ystyried cyngor y JCVI i ddeall y gwahanol opsiynau ar gyfer ehangu'r rhaglen MenB".

Ychwanegodd eu bod wedi gweithredu'n gyflym yn dilyn yr achosion diweddar o Lid yr Ymennydd math B drwy gyflwyno rhaglen frechu gyfyngedig ar gyfer pobl ifanc 17 ac 18 oed a myfyrwyr newydd, gan annog pawb sy'n gymwys i gael y ddau ddos o'r brechlyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.