Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 0 -1 Denmarc

Danny Ward yn protestio ar ôl idio'r gic gosbFfynhonnell y llun, Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Danny Ward yn protestio ar ôl idio'r gic gosb a arweiniodd at unig gôl y gêm

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd wedi colli momentwm wedi i gamgymeriad gan y golwr Danny Ward arwain at ildio gôl a roddodd fuddugoliaeth ar blât i Ddenmarc.

0-1 oedd y sgôr terfynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sul.

Roedd y gêm yn ddi-sgôr ac yn weddol gyfartal nes y trobwynt allweddol wedi 73 o funudau.

Yn eironig, roedd Ward wedi gwneud dau arbediad eithriadol o gampus yn gynharach yn yr ail hanner i gadw Cymru'n gystadleuol.

Roedd Cymru ar waelod tabl Grŵp 4 Cynghrair A cyn y gig gyntaf nos Sul gyda thri phwynt ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Portiwgal a Denmarc a buddugoliaeth yng Nghaerdydd dros Norwy.

Serch siom y canlyniad, maen nhw wedi codi i'r drydedd safle, un yn uwch na Norwy ar wahaniaeth goliau, wedi iddyn nhw golli 2-1 yn erbyn Portiwgal.

Sorba Thomas yn chwarae yn erbyn Denmarc yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sorba Thomas gêm gymharol dda ond fe fydd yn colli gêm nesaf Cymru ar ôl cael cerdyn melyn

Un newid yn unig oedd i'r 11 cychwynnol yn erbyn Norwy nos Iau - Brennan Johnson yn lle Dan James - gyda Ben Cabango yng nghanol yr amddiffyn gyda'r capten Ben Davies a Lewis Koumas ar y linell flaen.

Roedd yna hanner cyfleoedd i'r ddau dîm ym munudau cyntaf y gêm cyn i gapten yr ymwelwyr, Pierre-Emile Hojbjerg, orfod adael y cae gydag anaf - ergyd arall i Ddenmarc oedd eisoes heb eu chwaraewr canol cae dylanwadol Mikkel Damsgaard.

Amlygodd Cymru arwyddion addawol - cyd-chwarae da a llwyddiant i gadw meddiant - ac roedd yna apêl ofer gan Ddenmarc am gic o'r smotyn wedi i Davies geisio taclo Gustav Isaksen.

Roedd gofyn i Gymru osgoi ildio ciciau rhydd o gofio bod goliau Denmarc yn eu herbyn yn eu gêm flaenorol yn ganlyniad chwarae gosod.

Enillodd Cymru gic rydd o safle addawol ond anelodd Sorba Thomas y bêl yn syth at y golwr.

Denmarc orffennodd yr hanner cyntaf gryfaf ond roedd yn dal yn ddi-sgôr ar yr egwyl

Ail arbediad Danny Ward tua dechrau'r ail hannerFfynhonnell y llun, Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Ail arbediad allweddol bwysig Danny Ward tua dechrau'r ail hanner - ymdrechion arwrol a gafodd eu dadwneud maes o law

Roedd angen ymateb chwim gan Ethan Ampadu reit ar ddechrau'r ail hanner i atal rhediad gan Mohamed Daramy ochor chwith y maes.

Ychydig funudau wedyn roedd angen ymateb yr un mor gyflym gan y golwr Danny Ward.

Cysylltodd Andreas Skov Olsen â chroesiad hir o hanner Denmarc, a chroesi wedyn o'r dde i ganol y cwrt cosbi at Rasmus Hojland.

Tarodd yntau'r bêl at Ward, a neidiodd yntau gan sicrhau bod y bêl yn taro'i goes chwith ac i ddiogelwch ytn hytrach nag i gefn y rhwyd.

Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, roedd yna arbediad gwell fyth yn fuan wedyn pan wibiodd i'w dde i ddargyfeirio peniad Joakim Maehle i'r postyn ac allan o'r maes.

Cafodd Sorba Thomas ambell gyfle addawol cyn camgymeriad trychinebus Ward.

Gyda rhyw 20 munud yn weddill ar y cloc, wedi croesiad aflwyddiannus gan Hojlund, fe ddylai wedi bod yn fater hawdd iddo gicio'r bêl o'r cwrt chwech i fyny'r cae.

Ond fe giciodd yn wael i gyfeiriad Isaksen, ac wrth geisio wneud yn iawn am y peth fe ataliodd y chwaraewr gan ildio cic o'r smotyn.

Cadarnhaodd VAR bod yna drosedd ac fe sgoriodd Hojlund yn hawdd ar ôl aros i weld i ba gyfeiriad oedd y golwr am symud.

Rasmus Hojlund yn sgorio o'r smotynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rasmus Hojlund yn sgorio o'r smotyn

Dyma'r nawfed gêm yn olynol i Gymru ildio gôl, ers trechu Liechtenstein ym mis Tachwedd y llynedd.

Siom arall oedd i Cabango a Thomas weld cardiau melyn, sy'n golygu y bydd y ddau'n colli gêm nesaf Cymru.

Bu'n rhaid aros tan 83 munud o chwarae cyn i Craig Bellamy eilyddio - daeth Kieffer Moore ymlaen yn lle Ben Davies - ond ofer oedd ymdrechion Cymru wedi hynny i unioni'r sgôr.

Bydd tîm Bellamy'n wynebu Norwy nesaf, oddi cartref ddydd Sadwrn 14 Tachwedd cyn croesawu Portiwgal i Gaerdydd ar gyfer eu gêm grŵp olaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.