O Goed y Llys i Lys y Goron: Dirgelwch llofruddiaeth o'r 1980au

Cafodd Julie Clarke ei llofruddio yn 1984
- Cyhoeddwyd
RHYBUDD: Mae'r erthygl hon yn cynnwys manylion troseddol hanesyddol a allai beri gofid.
Dros ddeugain mlynedd yn ôl, yn 1984, fe drodd gweithgaredd gyffredin o gerdded ci am dro yn ddechrau ymchwiliad troseddol heriol, cymhleth a dramatig sydd dal i ddwyn diddordeb heddiw.
Cafodd corff Julie Clarke, merch 17 mlwydd oed o Dwyran, Ynys Môn, ei ddarganfod mewn pant yng Nghoed y Llys ger pentref Llaneurgain yn Sir y Fflint wedi ei orchuddio gyda rhedyn.

Ditectifs yn mynd i archwilio corff Julie Clarke yng Nghoed y Llys
Bob dydd ar y pryd, roedd y cyn-farnwr a sylwebydd, Nic Parry, yn gyrru heibio i'r safle wrth fynd i'w waith fel cyfreithiwr ifanc. Ychydig a wyddai yr adeg honno y byddai'r darganfyddiad yn parhau i fod o ddiddordeb troseddol heddiw ac yn destun pennod gyntaf podlediad newydd dan ei arweiniad o - Y Podlediad Trosedd.
Bydd y gyfres yn mynd dan groen rhai o achosion troseddol mwyaf dylanwadol Cymru.
Ym mis Mawrth 1984, fe ddiflannodd Julie Clarke. Doedd neb wedi ei gweld hi ers yn gynnar ar fore 6 Mawrth.
I ddechrau, roedd yn ymddangos fel achos person ar goll, ond yn ôl ei theulu a ffrindiau doedd hynny ddim fel Julie. Cyn hir roedd rhywbeth yn teimlo'n sinistr ym mêr esgyrn rhai o dditectifs yr heddlu.
Dros ddeufis yn ddiweddarach, ar 11 Mai, canfuwyd ei chorff dros 50 milltir o Fangor. Roedd y corff wedi pydru'n sylweddol gan ei gwneud hi'n anodd adnabod y corff, ond roedd un cliw tyngedfennol ar yr arddwrn – breichled ag arni'r enw Edwin.
Daeth arwyddocad yr enw yn amlwg i'r heddlu yn sydyn, diolch i slot brys ar y newyddion.

Gwesty'r Castle Hotel ym Mangor lle'r oedd Julie yn gweithio
Ar y pryd, roedd Julie wedi symud oddi cartref ac yn byw ar stâd Glantraeth, ger Bangor. Roedd hi hefyd yn gweithio ym Mangor yng ngwesty Castle Hotel.
Dyna lle cyfarfu hi â dyn o'r enw Edwin Milne, Albanwr a oedd yn gweithio ar rigiau olew yng Nghaergybi. Dechreuon nhw garwriaeth, er ei fod o 15 mlynedd yn hŷn na hi, yn 32 mlwydd oed.
Symudodd y berthynas yn gyflym – symudodd mewn ato, cafodd fodrwy ddyweddïo ddrud ganddo ac roedd bwriad ganddo i brynu siop iddi ei rhedeg ym Mangor.
Tyfodd amheuon yr heddlu ohono, ond doedd dim tystiolaeth yn ei erbyn ac fe gafodd ei ganfod yn ddieuog.
Fe ddatblygodd yr achos yn sydyn gan beri syndod mawr i'r ditectifs, patholegwyr a chyfreithwyr.
Y peth sy'n gwneud yr achos hwn yn un mor ddiddorol yn ôl Nic Parry yw'r heriau a'r elfennau cyfreithiol cymhleth, y ffaith fod y corff wedi pydru i'r fath raddau a dyfarniad "syfrdanol o gyflym" y rheithgor i ganfod yr unig berson oedd dan amheuaeth yn ddieuog.
Wrth adrodd yr hanes ar y podlediad, mae Nic yn siarad gyda newyddiadurwyr a ditectifs oedd yn gohebu ac yn ymchwilio i'r achos ar y pryd. Ac hyd heddiw, mae gan bob un atogfion cryf o gyfnod wnaeth ysgwyd cymunedau yn Sir y Fflint.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2023
