Episode details

Available for over a year
Cyfres sy’n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Yng nghwmni’r bobl oedd yno – ar wyneb y graig, yn ymchwilio ac yn adrodd ar yr achosion – mae’r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-fyw digwyddiadau a gafodd effaith ddofn ar gymunedau ac ar y system gyfiawnder. Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud? Yn y bennod hon, cyn-ohebydd newyddion BBC Cymru, Marian Wyn Jones, sy’n olrhain hanes marwolaeth Julie Clarke oedd yn ferch ifanc 17 oed a ddiflannodd o Fangor ym mis Mawrth 1984. Roedd ei diflaniad, a’r ymdrech fu i’w chanfod, yn ddechrau un achosion troseddol mwyaf Gogledd Cymru.
Programme Website