Tair ffrind eisiau helpu goroeswyr ifanc eraill wybod bod 'bywyd ar ôl strôc'

Cari, Mez a Nia
Disgrifiad o’r llun,

Cari Davies, Mererid Rees a Nia Tyler - tair a gafodd strôc yn oedolion ifanc

GanAimee Thomas
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae tair menyw ifanc o Sir Gaerfyrddin sydd wedi goroesi strôc yn gobeithio helpu eraill sy'n wynebu'r un heriau drwy greu cyfleoedd i gysylltu a rhannu profiadau.

Fe wnaeth Mererid Rees a Cari Davies gwrdd am y tro cyntaf ar ward ysbyty wrth wella ar ôl strôc, cyn i'r ddwy anfon neges at Nia Tyler drwy'r cyfryngau cymdeithasol.

Erbyn hyn, mae'r tair yn ffrindiau agos ac yn trefnu digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd eleni i ddod â goroeswyr strôc ifanc eraill at ei gilydd.

Disgrifiad,

Tair ffrind eisiau helpu goroeswyr ifanc eraill wybod bod "bywyd ar ôl strôc"

Dim ond 20 oed oedd Nia Tyler pan gafodd strôc tra'n fyfyrwraig yn y brifysgol.

Ar ôl y stroc, dychwelodd adref i wella, lle wynebodd gyfnod anodd o flinder a theimlo'n unig.

Er bod ei bywyd wedi newid yn sylweddol ers hynny, mae'r gantores broffesiynol wedi llwyddo i ailadeiladu ei hyder a dod o hyd i gefnogaeth drwy ei chyfeillgarwch â Mererid a Cari.

"Mae ganddo ni ddealltwriaeth tawel o'n gilydd," meddai.

"Er bod ein straeon ni'n wahanol, mae rhyw fath o berthynas unigryw rhyngddo ni fel goroeswyr strôc.

"Ar y pryd o ni'n teimlo fel yr unig person ifanc yn y byd oedd 'di cael strôc.

"Yn amlwg nid dyna'r realiti, ond fi'n teimlo llawer llai yn unig nawr wrth cwrdd â phobl eraill ar-lein."

Roedd Mererid, sy'n cael ei hadnabod fel Mez, yn byw bywyd hollol wahanol cyn ei strôc yn 2021.

Roedd hi'n 30 oed ac yn gweithio fel dawnsiwr yn Dubai pan gafodd y strôc a'i gorfododd i ddychwelyd adref.

Mererid Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae "pethau'n edrych yn wahanol" ond mae'n bosib parhau i fwynhau bywyd wedi strôc, medd Mererid Rees

Treuliodd fisoedd yn gwella ar ward ysbyty, lle wnaeth hi cyfarfod â Cari am y tro cyntaf.

"Dwi'n cofio'r nyrsys yn dweud bod person ifanc arall wedi cael strôc," meddai.

"Roeddwn i'n falch o wybod o'n i ddim ar fy mhen fy hun, ond ar yr un pryd yn drist bod rhywun arall mor ifanc yn mynd drwy'r un peth."

Ers hynny mae Mererid wedi bod yn dogfennu ei thaith ar-lein, gan obeithio rhoi gobaith i eraill.

"Mae bywyd ar ôl strôc," meddai. "Efallai bod pethau'n edrych yn wahanol, ond gallwch chi barhau i fwynhau bywyd a gwneud y pethau sy'n bwysig i chi."

Mae'r merched yn gobeithio y bydd rhannu eu profiadau yn helpu eraillFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r merched yn gobeithio y bydd rhannu eu profiadau yn helpu eraill

I Cari Davies, a gafodd strôc yn 2022, mae'r cysylltiadau hynny wedi bod yn hanfodol.

"Mae'n deimlad arbennig, achos ni gyd yn gallu uniaethu gyda'n gilydd," meddai.

"Mae'r digwyddiad eleni yn ddathliad o'n teithiau ni, ond hefyd yn ffordd o roi rhywbeth yn ôl.

"Rydyn ni eisiau dangos i bobl sydd yn yr ysbyty nawr nad yw gobaith wedi diflannu, a rhoi cyfle iddyn nhw gwrdd â phobl sy'n deall yn iawn beth maen nhw'n mynd drwyddo."

Gyda'i gilydd, mae'r tair yn gobeithio y gall eu profiadau helpu pobl ifanc eraill sy'n cymryd eu camau cyntaf ar y ffordd i wellhad deimlo ychydig yn llai unig.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig