Canlyniadau profion PISA Cymru yn waeth na gweddill Prydain eto

ArholiadauFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 113 o ysgolion yng Nghymru wedi cymryd rhan yn y profion PISA diweddaraf

GanBethan Lewis
Gohebydd Addysg a Theulu
  • Cyhoeddwyd

Mae canlyniadau disgyblion 15 oed Cymru mewn profion rhyngwladol wedi cwympo ymhellach tu ôl gweddill y Deyrnas Unedig.

Roedd y gostyngiad mwyaf i'r marciau mathemateg yn yr asesiadau, sydd hefyd yn mesur perfformiad darllen a gwyddoniaeth.

Mae profion PISA, neu'r Rhaglen Ryngwladol ar gyfer Asesu Myfyrwyr, yn digwydd bob tair blynedd ac yn cael eu gweld fel llinyn mesur pwysig o berfformiad systemau addysg.

Yn 2022 fe ostyngodd perfformiad Cymru yn y profion i'w lefel isaf erioed.

Fe wnaeth 113 ysgol yng Nghymru gymryd rhan yn y profion PISA gyda 3,406 disgybl wedi eu cwblhau.

Mewn mathemateg, cwympodd sgôr cyfartalog disgyblion Cymru o 466 i 456, tra bod canlyniadau cenhedloedd eraill y DU yn gymharol sefydlog, gan arwain at fwlch cynyddol wrth i Gymru syrthio yn bellach 'nôl.

Bob tro mae'r profion yn cael eu cynnal mae un o'r tri phrif bwnc yn cael sylw arbennig, a gwyddoniaeth oedd y ffocws y tro hwn.

Dyma'r unig bwnc lle'r oedd cynnydd bychan i sgôr Cymru (o 473 i 476) ond roedd yna fwy o welliant yng ngwledydd eraill y DU.

Fe wnaeth sgôr gwyddoniaeth disgyblion Lloegr gynyddu 13 pwynt i 516 ar gyfartaledd.

Mae safonau darllen pobl ifanc Cymru wedi bod dan y chwyddwydr yn dilyn canlyniadau blaenorol, ac roedd yna gwymp eto yn yr asesiadau diweddaraf.

Cafodd y profion eu cwblhau ddiwedd 2025 gan drawstoriad o ddisgyblion 15 oed.

Fe ddirywiodd canlyniadau sawl gwlad ym mhrofion PISA 2022 – y rhai cyntaf ar ôl y pandemig - ond fe wnaeth canlyniadau Cymru ostwng mwy na gwledydd eraill y DU.

Roedd hynny'n dilyn cynnydd bach yng nghanlyniadau 2018.

Fe wnaeth mwy na 90 o wledydd ac economïau gymryd rhan yn PISA 2025, gyda gwledydd a rhanbarthau yn Asia ar y brig unwaith eto gan gynnwys rhannau o China, Singapore a Japan.

Ond roedd y DU ymhlith y 10 uchaf ymhob un o'r tri phwnc yn y profion sy'n cael eu cynnal gan yr OECD (Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd).

Serch hynny, roedd perfformiad Cymru yn waeth na Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn debyg i wledydd fel Sbaen a Croatia mewn mathemateg a gwyddoniaeth.

O ran darllen, roedd Cymru ar yr un lefel â Denmarc a Ffrainc.

Mewn prawf ychwanegol yn y cylch yma o PISA, roedd pobl ifanc Cymru hefyd yn sgorio'n is na'u cyfoedion yn y DU wrth ddatrys problemau cyfrifiadurol.

Dywedodd Andreas Schleicher o'r OECD, sy'n rhedeg Pisa, fod Lloegr wedi dilyn polisïau "clir a chyson" ym maes addysg oedd yn helpu i sicrhau canlyniadau da.

"Dydyn ni ddim wedi gweld hynny i'r un graddau mewn gwledydd fel Yr Alban a Chymru," meddai.

Ychwanegodd fod canlyniadau Cymru'n parhau i ddangos fod "y duedd gyffredinol ar i lawr".

Beth yw PISA?

Cymrodd dros 760,000 o fyfyrwyr yr asesiad mewn 91 o wledydd ac economïau yn 2025.

Mae sampl o ysgolion yn cael eu dewis i gymryd rhan a thrawstoriad o ddisgyblion o fewn yr ysgol.

Mae'r myfyrwyr rhwng 15 mlynedd a thri mis ac 16 mlynedd a dau fis oed pan maen nhw'n sefyll y prawf ac fel arfer ym mlwyddyn 11.

Prawf ar-lein dwy awr yw PISA, ac mae pob myfyriwr yn cael ei asesu mewn dau bwnc, gan ateb cwestiynau amrywiol.

Mae yna holiadur sydd hefyd yn casglu gwybodaeth am y myfyrwyr, eu cartrefi, a'u profiadau ysgol. Mae arweinwyr ysgolion hefyd yn cwblhau holiadur.

Yn ôl yr OECD mae PISA yn "mesur gallu pobl 15 oed i ddefnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth i ymateb i heriau bywyd go iawn", ac yn asesu i ba raddau y mae ganddyn nhw'r sgiliau sy'n "hanfodol ar gyfer cyfrannu'n llawn i fywyd cymdeithasol ac economaidd".

Mae'r OECD yn dweud bod y canlyniadau'n helpu llywodraethau i asesu pa mor gystadleuol ydyn nhw o gymharu ag economïau eraill.

Elin, Caron, Owain, Tiago - disgyblion Ysgol Glantaf
Disgrifiad o’r llun,

Bu rhai o ddisgyblion Ysgol Glantaf, Caerdydd yn gwneud y profion y llynedd

Roedd disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd ymhlith y bobl ifanc fuodd yn sefyll y profion y llynedd tra'n astudio am eu TGAU.

Yn ôl Caron, roedd y cwestiynau'n dechrau'n haws ac yn mynd yn anoddach.

"Fi'n meddwl 'nath o herio ni ar amrywiaeth o feysydd, ddim just un penodol, sydd yn dda", meddai.

Roedd rhai o'r cwestiynau gwyddoniaeth ar feysydd cyfarwydd, yn ôl Elin, ond roedd rhai "bach yn anodd ar adegau".

Roedd Tiago yn ymwybodol o berfformiad Cymru ym mhrofion PISA yn y gorffennol ac felly am gyfrannu at geisio gwella hynny.

"Ro'n i'n awyddus iawn i ddweud y gwir i drio'r prawf a gwneud fy ngorau", meddai.

Fe wnaeth Owain hefyd fwynhau'r profiad ond doedd y profion ddim yn teimlo mor bwysig â rhai asesiadau eraill.

Dywedodd os oedd yn gwneud yn dda "doedd dim reward, ond os oeddwn i wedi 'neud yn ddrwg doedd dim byd yn mynd i ddigwydd".

Dyfrig Rees, pennaeth Ysgol Glantaf
Disgrifiad o’r llun,

Er y canlyniadau "siomedig", mae pennaeth Ysgol Glantaf, Dyfrig Rees yn dweud bod agweddau cadarnhaol i'r system addysg yng Nghymru ar hyn o bryd

Yn ôl y pennaeth, Dyfrig Rees, roedd cymryd rhan yn y profion yn bwysig.

"Mae gennym ni gyfrifoldeb i chwarae rhan - i fod yn rhan o astudiaeth o ran y profion - fel bod ni'n gallu cyfrannu at welliant y sector addysg dros Gymru," meddai.

Dywedodd fod yna newidiadau cadarnhaol o fewn y drefn addysg gan gynnwys y cwricwlwm newydd a'r pwyslais ar lythrennedd a rhifedd, ond doedd neb am weld canlyniadau gwael.

"Ma' fe'n siomedig, ac wrth gwrs ma' pawb sy'n gweithio yn y sector yn rhannu'r teimlad 'na fi'n siŵr, oherwydd mae llwyth o bethau positif yn gweithio o fewn y sector."

'Canlyniadau'n dirywio mewn llawer o wledydd'

Ond mae rhai arbenigwyr wedi cwestiynu gwerth y profion a'r dylanwad mae PISA wedi'i gael ar bolisi addysg nifer o wledydd.

Ar ôl y gostyngiad mawr yng nghanlyniadau 2022, dywedodd yr OECD fod rhai 2025 yn dangos bod "canlyniadau wedi aros yn eu hunfan neu wedi parhau i ddirywio mewn llawer o wledydd".

Roedd y dirywiad mwyaf mewn darllen, gan ddangos tuedd hirdymor oedd yn deillio o gyfnod cyn y pandemig, meddai'r OECD, gan gyfeirio at effaith mwy o amser ar sgriniau, a llai o ddarllen ar gyfer pleser.

Dywedodd pennaeth PISA i'r OECD, Andreas Schleicher, fod defnydd "cyfyngedig neu gymedrol" o ddyfeisiau digidol ar gyfer dysgu yn yr ysgol yn aml yn gysylltiedig â chanlyniadau gwell.

Ond pan mae dyfeisiau'n cael eu defnyddio am bwrpasau hamdden yn yr ysgol, mae'r canlyniadau'n sylweddol waeth.

Dywedodd fod effaith Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (Generative AI) yn gymhleth a'r effaith yn dibynnu ar sut mae'r dechnoleg yn cael ei ddefnyddio.

Dywedodd yr OECD mai rhai o'r ffyrdd pwysicaf o wella systemau addysg oedd trwy sicrhau disgwyliadau uchel a chyson ar gyfer disgyblion, a sicrhau bod gan athrawon sgiliau addysgu cryf yn ogystal â gwybodaeth am eu pwnc.

Pynciau cysylltiedig