'Sefydlogrwydd' yng nghanlyniadau TGAU gyda 62.3% yn A*-C

Roedd Ava, Bella a Holly yn edrych ymlaen at ddathlu ar ôl derbyn eu canlyniadau yn Ysgol Glantaf, Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae canlyniadau TGAU yng Nghymru yn dangos "sefydlogrwydd", yn ôl penaethiaid addysg, wrth i gymwysterau newydd gael eu cyflwyno'n raddol, gyda 62.3% o'r graddau yn C neu uwch.
Cododd cyfran y graddau uchaf A* ac A o 0.1 pwynt canran i 19.6%, tra bod y gyfradd basio gyffredinol wedi cwympo ychydig.
Mae disgyblion blwyddyn 10 wedi derbyn rhai canlyniadau ar gyfer wyth TGAU a gafodd eu haddasu ac felly oedd yn cael eu hasesu am y tro cyntaf eleni - gan gynnwys Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, a Mathemateg Rhifedd.
Dywedodd Ian Morgan, prif weithredwr bwrdd arholi CBAC, y byddai'r canlyniadau'n "deg a chytbwys" i bob dysgwr.
Canlyniadau TGAU 2026 (a chymhariaeth â 2025)
A*-A - 19.6% (i fyny 0.1 pwynt canran o 19.5%)
A*-C - 62.3% (i lawr 0.2 pwynt canran o 62.5%)
A*-G - 96.8% (i lawr 0.1 pwynt canran o 96.9%)
Daw flwyddyn i mewn i raglen tair blynedd o hyd o gyflwyno cymwysterau newydd sy'n adlewyrchu'r newidiadau o dan y cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd rhagor o newidiadau'n cael eu cyflwyno ym mis Medi.
Roedd 289,506 o geisiadau ar gyfer TGAU, sy'n ostyngiad o 5.7% o'i gymharu â 2025, yn rhannol oherwydd y newidiadau i'r cymwysterau.
Mae miloedd o ddisgyblion hefyd yn derbyn canlyniadau BTEC a chymwysterau galwedigaethol eraill.
Mae Bagloriaeth Cymru ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed yn cael ei dyfarnu am y tro olaf yr haf hwn o ganlyniad i'r newidiadau i'r cwricwlwm.
Eleni fe wnaeth 98.2% sicrhau'r cymhwyster, 18.5% ar raddau A*-A, ac 87.8% ar raddau A*-C.

Ym Mhenweddig, roedd Gwenan yn dathlu 2 A*, 6 A, 4 B ac 1 C
Mae Gwenan, 16, yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig yn Aberystwyth ac wedi astudio coginio, celf a chymhwyster amaethyddiaeth ar ben y pynciau craidd TGAU.
Roedd yr adolygu yn her ond roedd yr athrawon "yn rili dda yn cefnogi chi ac yn dangos ffyrdd gwahanol i adolgu", meddai'r disgybl blwyddyn 11.
Fore Iau fe dderbyniondd 2 A*, 6 A, 4 B ac 1 C, ac felly bydd yn aros yn y chweched ar ôl haf prysur o weithio mewn dwy swydd a helpu ar fferm y teulu.
Cyn cael y canlyniadau, dywedodd ei bod yn "eitha' nerfus", ond mae gweithgareddau'r haf wedi ei helpu i beidio poeni gormod am y canlyniadau.
"Fi'n rhan o Glwb Ffermwyr Ifanc a ni 'di bod yn brysur iawn a fi fy hunan wedi cystadlu yn y Sioe Frenhinol gyda'r clwb dros Ceredigion", meddai.

Disgyblion ym Mhenweddig yn derbyn eu canlyniadau fore Iau
Mae disgyblion blwyddyn 10 hefyd yn cael canlyniadau dan y drefn newydd.
Cafodd TGAU newydd mewn pynciau gan gynnwys mathemateg, Cymraeg a Saesneg eu cyflwyno ym mis Medi 2025 fel rhan o newidiadau'r cwricwlwm yng Nghymru.
Mewn nifer o bynciau mae yna fwy o bwyslais ar asesu yn y dosbarth a llai ar arholiadau terfynol, a bydd y disgyblion cyntaf i ddilyn y cyrsiau hyn yn derbyn canlyniadau am rai unedau ddydd Iau.

Dwy o flwyddyn 10 yng Nglantaf a gafodd ganlyniadau oedd Izzy a Keira
Ym mis Gorffennaf, dywedodd CBAC y byddai newidiadau i TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, TGAU Cymraeg Craidd a TGAU Astudiaethau Crefyddol er mwyn ymateb i bryderon ynghylch llwyth gwaith.
Fe fydd y newidiadau'n cael eu cyflwyno i fyfyrwyr sy'n dechrau eu TGAU ym mis Medi 2026, ond fyddan nhw ddim yn effeithio ar ddisgyblion presennol blwyddyn 10 sydd eisoes hanner ffordd drwy'r cwrs.

Roedd astudio'r TGAU newydd ym mlwyddyn 10 yn gyffrous, meddai Miriam, er gwaetha'r holl waith cwrs
Un o'r rheiny yw Miriam, 15, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin.
Dywedodd bod gwneud cwrs newydd yn "gyffrous iawn" er gwaetha'r holl waith.
"Mae pob gwers ry'n ni wedi cael wedi bod ar waith cwrs neu ar gyfer arholiadau.
"Mae bendant wedi bod yn llawer o waith", meddai.
Ond ychwanegodd ei bod yn "falch" ei bod wedi ei gwblhau i gyd erbyn hyn.
"Mewn rhai pynciau dwi wedi gwneud 50% o'r gwaith cwrs felly dwi ddim yn poeni gormod [am flwyddyn 11] achos dwi ddim yn meddwl bydd y llwyth gwaith yn mynd yn fwy."
'Credu ei fod yn deg'
Dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr bwrdd arholi CBAC, eu bod wedi "gwrando'n astud ar sylwadau ysgolion ac arweinwyr colegau" ac wedi cyflwyno newidiadau.
"Rwy'n credu ei fod yn deg," ychwanegodd.
"Er bod newid bob amser yn her o ran ei reoli a sicrhau tegwch i ddysgwyr, rwy'n credu ein bod wedi dylunio cyfres o gymwysterau a fydd yn helpu dysgwyr i ddangos beth mae nhw'n ei wybod, ei ddeall, a'n dangos be' allan nhw wneud."
Dywedodd hefyd bod "angen bod yn glir na fydd unrhyw ddysgwr dan anfantais oherwydd mai hwn yw'r tro cyntaf i'r cymwysterau hyn gael eu cyflwyno".
"Byddwn ni'n gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod y broses yn deg ac yn gytbwys i bob dysgwr."
Yn gyffredinol, dywedodd fod canlyniadau'r haf hwn yn debygol o ddangos "sefydlogrwydd".

Gobaith Cadi a'i ffrindiau yw dathlu canlyniadau TGAU ar y traeth
Disgybl arall sy'n cael canlyniadau blwyddyn 11 yw Cadi o Abersytwyth.
Mae'n falch eu bod wedi cael rhai o'r canlyniadau llynedd "a bod y pwysau ychwanegol ddim yna".
Roedd rhai arholiadau yn fwy anodd na'r lleill a "roedd e'n rhyddhad gallu beni nhw".
Nawr mae'n "teimlo'n eitha' cyffrous i gael gweld sut fi 'di neud, achos mae wedi bod yn cefn meddwl fi ers sbel".
Bwriad hi a'i ffrindiau yw mynd i'r traeth ar ôl cael y graddau, a'i gobaith yw mynd ymlaen i'r chweched a gwneud prentisiaeth neu gwrs prifysgol yn y pendraw ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).
Beth sydd wedi newid?
Mae pob cymhwyster TGAU wedi cael ei adolygu a'i ddiweddaru, gyda rhai pynciau newydd sbon fel dawns a TGAU cyfryngau digidol a ffilm yn cael eu cyflwyno.
Fe fydd y don nesaf o TGAU newydd yn cael eu cyflwyno gan gynnwys hanes a gwyddoniaeth - dau bwnc gafodd eu oedi ers llynedd.
Y cynllun gwreiddiol oedd peidio cynnig ffiseg, cemeg a bioleg fel cyrsiau ar wahân, ond mae hynny wedi cael ei ohirio tan o leiaf 2031.
Fe fydd cymwysterau galwedigaethol newydd hefyd yn cael eu cyflwyno o fis Medi 2027.

Mae Dr Llinos Jones yn dweud bod y newidiadau mawr wedi bod yn anodd i ysgolion
Disgrifiodd un pennaeth ysgol y cyfnod fel un "heriol iawn i ysgolion", a oedd wedi "ychwanegu at y pwysau gwaith ar staff a disgyblion fel ei gilydd".
Dywedodd Dr Llinos Jones, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin, fod "cymaint o newidiadau wedi digwydd ar yr un pryd, ac mae hyn yn sicr wedi rhoi straen ychwanegol ar y system addysg, sydd eisoes dan bwysau sylweddol".
"Mae pryder arbennig ynghylch canlyniadau blwyddyn 10 eleni", meddai, "gan mai dyma'r garfan gyntaf i sefyll y cymwysterau newydd ac nid oes gennym yr un lefel o brofiad na sicrwydd ynghylch sut y bydd y canlyniadau'n edrych".

Dywedodd Anna Brychan bod "cysondeb yn y canlyniadau" o'u cymharu â'r blynyddoedd diwethaf
Ddydd Iau, mae'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg wedi llongyfarch pawb sydd wedi derbyn canlyniadau.
Dywedodd Anna Brychan: "Mae hwn yn bwynt pwysig ym mywyd person ifanc, ond 'dyw eich canlyniadau ddim yn diffinio eich dyfodol.
"Beth bynnag yw eich canlyniadau, mae digon o gyfleoedd ar gael ichi, p'un a ydych chi am fynd i addysg bellach, dilyn prentisiaeth, neu ddechrau mewn cyflogaeth."
Yn siarad yn Ysgol Uwchradd Llanisien yng Nghaerdydd, dywedodd bod "cysondeb yn y canlyniadau" o gymharu â'r blynyddoedd diwethaf.
"Dyna beth mae rhywun yn edrych am dros amser ac wrth gwrs ni moyn gweld y canlyniadau hefyd yn gwella dros amser," meddai.
"Ond heddi'r ffocws ydi'r dysgwyr yma yn Ysgol Llanisien ac ar draws Gymru a dathlu gyda nhw'r canlyniadau maen nhw wedi cael yn dilyn lot o waith caled."
Ychwanegodd ei bod yn hapus mai'r "cwricwlwm yng Nghymru yw'r un sydd angen arnom ni".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2025

- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2024

