Carcharu twyllwyr a honnodd ei fod yn gyn-filwr, yn filiwnydd a chlaf chanser

Clywodd y llys bod Joseph Gibson wedi cael degau o filoedd o bunnau trwy dwyll gan bedwar dioddefwr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 35 oed o Sir Ddinbych a dwyllodd tair menyw a dyn i roi degau o filoedd o bunnau iddo trwy honni ei fod yn gyn-filwr, yn filiwnydd ac yn glaf canser wedi cael ei garcharu.
Roedd Joseph Gibson o Ruthun wedi honni ei fod yn berchen ar longau pleser ac wedi gwasanaethu gyda Gwasanaeth Cwch Arbennig y Llynges Frenhinol.
Roedd wedi cyfarfod dau o'i ddioddefwyr trwy'r ap canfod cymar Tinder, ac wedi darbwyllo un eu bod mewn perthynas.
Fe blediodd yn euog i bedwar cyhuddiad o dwyll trwy ddweud anwiredd, mewn cysylltiad ag achosion rhwng Gorffennaf 2020 a Hydref 2021.
Cafodd ddedfryd o dair blynedd a dau fis o garchar mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Bryste ddydd Iau.
Roedd ei fargyfreithiwr wedi gofyn i'r barnwr ohirio'r dedfrydu er mwyn rhoi amser iddo ennill arian ar gyfer ad-dalu'r dioddefwyr.
Ond fe gododd yr erlyniad bryderon ynghylch ei sefyllfa ariannol a'i hygrededd, gan ddweud bod symiau enfawr wedi mynd trwy ei gyfrifon ac wedi ei wario ar geir a theithiau tramor.

Anfonodd Gibson y lluniau yma wrth honni ei fod yn byw gyda chanser
Clywodd y gwrandawiad bod Gibson wedi perswadio un o'r menywod i anfon arian ato ar gyfer cyfleoedd busnes, biliau ysbyty a masnach ar-lein.
Fe gollodd dros £5,600, ac mae wedi dioddef "gorbryder a gofid emosiynol" o ganlyniad.
Dywedodd menyw arall, SC, ei bod wedi rhoi dros £30,000 ar ôl i Gibson honni bod modd iddo gynyddu'r swm trwy fuddsoddi a masnachu.
Fe lwyddodd i gael tua £9,700 yn ôl, ond fe gollodd £21,000 ac mae hi bellach "mewn dyled sylweddol".
Dywedodd menyw arall, JH, iddi fuddsoddi arian ar sail honiad Gibson ei fod yn ddyn busnes llwyddiannus.
O'r £28,000 a roddodd iddo, mae hi wedi cael £10,000 yn ôl, a dywedodd fod y sefyllfa wedi cael effaith ar ei pherthynas gyda'i phlant.
Roedd y pedwerydd dioddefwr - PH, oedd yn gyn-gapten llongau pleser moethus - wedi buddsoddi £23,350.
Dywedodd yntau ei fod yntau wedi cael ei effeithio'n "ddifrifol" yn emosiynol yn sgil y twyll.

Anfonodd Joseph Gibson y llun yma ohono'i hun ar fwrdd cwch hwylio moethus at ddioddefwyr - roedd wedi honni ei fod yn berchen ar sawl cwch o'r fath
Dywedodd y barnwr wrth Gibson bod ei droseddau'n rhai "difrifol, soffistigedig ac estynedig", a bod twyll yn elfen o'r "cysylltiad cyntaf un" gyda'r dioddefwyr.
Fe ddefnyddiodd enwau ffug, dyfeisiodd gyfleoedd busnes a defnyddio manylion bancio ffug oedd yn awgrymu bod ganddo gyfoeth sylweddol i berswadio'r unigolion i roi arian iddo.
Roedd y dioddefwyr, meddai, wedi dioddef "niwed ariannol am emosiynol sylweddol" o ganlyniad.
Yn ôl y barnwr roedd Gibson wedi ceisio perswadio'r llys cyn y gwrandawiad dedfrydu ddydd Iau nad oedd wedi twyllo'r dioddefwyr yn fwriadol, ond roedd tystiolaeth yn dangos bod "twyll yn ganolog" i'r troseddau.
Bydd gwrandawiad pellach maes o law i asesu pa asedau sydd gan Gibson allai fynd at ad-dalu'r dioddefwyr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.