'10 mlynedd yn McDonald's wedi fy helpu i symud ymlaen i'r GIG'

Lucy Wall mewn gwisg werdd GIG CymruFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Lucy Wall i weithio yn McDonald's yn syth o'r ysgol ond roedd yn uchelgais ganddi erioed i fod yn fydwraig

  • Cyhoeddwyd

Mae mam i efeilliaid sy'n hyfforddi i fod yn fydwraig yn dweud bod y sgiliau a ddysgodd yn ystod degawd o weithio mewn bwyty McDonalds wedi bod yn allweddol.

Yn sgil delio â phob math o gwsmeriaid yn y sector lletygarwch, dywed Lucy Wall, 31, ei bod wedi magu "sgiliau trosglwyddadwy" a helpodd iddi gael ei chyfle cyntaf o fewn y GIG.

Fe dreuliodd tair blynedd fel cynorthwy-ydd gofal iechyd yn ward mamolaeth Ysbyty'r Tywysog Siarl, ym Merthyr Tudful.

Mae hi bellach ar flwyddyn gyntaf hyfforddiant i fod yn fydwraig, gan gydweithio â staff a'i helpodd yn ystod genedigaeth ei gefeilliaid ei hun.

'Diffyg profiad yn y GIG' yn rhwystr

"Yn McDonalds ry'ch chi'n gweld pobl o bob oedran a gallu ac ro'n i'n gallu ymwneud â phawb - o blant bach i'r henoed a'r rhai ag anghenion arbennig," dywedodd.

Roedd bod yn fydwraig yn uchelgais ond yn ymddangos yn dalcen caled ar un cyfnod.

"Ro'n i'n ceisio am swyddi o fewn y bwrdd iechyd ond fyswn i'n cael adborth bod diffyg profiad yn y GIG," meddai.

Ei hymateb i hynny oedd gofyn wrth ei rheolwyr yn y bwyty a oedd modd cydnabod yn ffurfiol rôl yn oedd yn ei chyflawni yno, sef cefnogi cwsmeriaid bregus.

Y canlyniad i hynny oedd creu secondiad ar y sail hwnnw.

"Ar ôl y secondiad yna wnes i geisio am swydd newydd cynorthwy-ydd gofal yn Ysbyty'r Tywysog Siarl," meddai.

"Rwy'n credu bod hynny wedi newid fy CV."

Lucy Wall yn iwnifform McDonald'sFfynhonnell y llun, Lucy Wall
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lucy yn dal yn gweithio yn McDonald's pan ddilynodd gwrs sylfaen yn y brifysgol yn y gobaith o symud ymlaen i'r maes iechyd ryw ben

Deng mlynedd union i'r diwrnod y dechreuodd weithio yn McDonald's, fe ymunodd Lucy â'r GIG yn ei thref enedigol, gan helpu i ofalu am ferched cyn ac ar ôl rhoi genedigaeth.

Fe ddechreuodd ei chwrs bydwreigiaeth ym mis Medi, ac mae'r cyfnod yn y swydd gyntaf honno wedi ei helpu, fel person dyslecsig, ddeall elfen academaidd y cwrs tari blynedd yn well.

"Mae'n hyfryd gallu cefnogi menywod," meddai.

"Mae llawer o bobol yn dod trwy'r drws - mewn canolfan iechyd, McDonald's neu ble bynnag.

"Does wybod beth yw'r sefyllfa gartref, ac efallai dyw'r sefyllfa teuluol ddim yr un peth a sefyllfa pobol eraill.

"Felly mae gallu eu cefnogi mewn ffordd sy'n eu gwneud ei deimlo'n sbesial, wedi eu gwerthfawrogi ac yn cael gofal, yn yr amgylchedd hyn yn wirioneddol hyfryd."

'Deall beth yw rhoi fy ngofal yn nwylo rhywun arall'

Roedd amgylchiadau diwedd beichiogrwydd Lucy ei hun yn anarferol.

Fe gafodd ei merch, Aurora, ei geni'n naturiol, ond roedd rhaid cael toriad Cesaraidd brys yn achos ei gefaill, Theo, oherwydd toriad y brych.

"Rwy' wedi bod yn y sefyllfa fregus yna o orfod rhoi fy ngofal yn nwylo rhywun arall," meddai.

"Rwy'n gweithio nawr gydda llawer o'r bobol wnaeth fy nghefnogi i... Rwy'n dal yn emosiynol weithiau wrth siarad 'da nhw."

Yr efeilliaid Theo, mewn glas, ac Aurora, mewn pinc, yn fabanod ifanc yn eistedd ar sedd ledrFfynhonnell y llun, Lucy Wall
Disgrifiad o’r llun,

Yr efeilliaid Theo ac Aurora yn fabanod ifanc - maen nhw bellach yn wyth mlydd oedd ac mae eu mam yn gweithio gydag ambell un a helpodd yn ystod eu genedigaeth

Daeth adroddiad yn gynharach eleni i wasanaethau mamolaeth i'r casgliad bod yna lefelau staffio annigonol ar draws Cymru mewn ymateb i'r cynnydd cyflym yng ngenedigaethau Cesaraidd, ac roedd addewid gan y llywodraeth yng Nghymru ar y pryd i addasu cynlluniau'r gweithlu.

Mewn cyfnod o ddiffyg swyddi o fewn GIG Cymru ar gyfer darpar-nyrsys a darpar-barafeddygon oherwydd cyfyngiadau ariannol, dywed un o gyfarwyddwyr y bwrdd iechyd sy'n cyflogi Lucy y bydd yna wastad alw am fydwragedd.

Yn ôl Richard Hughes Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gofal Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae swyddi myfyrwyr-fydwragedd yn dal yn cael eu comisiynu ond mae'r cyd-destun ehangach wedi newid dros y 18 mis diwethaf.

"Mae nyrsys a bydwragedd yn parhau i weithio yn hirach nag y buasen nhw yn draddodiadol," dywedodd, gan esbonio bod rhai wedi ymddeol a dychwelyd i rolau clinigol.

"Mae hynny'n bositif o ran cadw'r profiad i gefnogi bydwragedd newydd, ond mae hefyd yn golygu bod llai o lefydd ar gael ar gyfer bydwragedd newydd."

Llaw mam yn cydio ym mysedd ei babi newydd-anedigFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Richard Hughes bod byrddau iechyd wedi gweithio gyda'r llywodraeth ac AaGIC (Addysg a Gwella Iechyd Cymru) i sicrhau bod y niferoedd cywir o swyddi hyfforddi'n cael eu comisiynu, ond gallai rhagor o newid ddod o ganlyniad yr asesiad mamolaeth diweddar yng Nghymru.

Ychwanegodd bod cynnydd yng nghyfraddau genedigaethau Cesaraidd ar draws y DU yn golygu bod byrddau iechyd Cymru angen ystyried hefyd "sut gweithlu sydd ei angen i gefnogi hynny".

"Mae ein bydwragedd heddiw yn gweithio mewn proffesiwn risg uchel - mae llawer yn y fantol.

"Mae hynny'n faich arnyn nhw bob un diwrnod ac maen nhw'n llwyddo i gefnogi teuluoedd ble mae pethau heb fynd yn iawn ac maen nhw'n mynd trwy bethau wirioneddol anodd.

"Ond maen nhw yna hefyd i helpu a chefnogi teuluoedd a dathlu achlysuron gwirioneddol lawen."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.