Menyw 67 oed yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad

A4118Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A41118 rhwng Canolfan Dreftadaeth y Gŵyr a safle gwersylla Three Cliffs Bay Holiday Park

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw 67 oed yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Abertawe.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car BMW a Skoda Fabia llwyd ar yr A4118 rhwng Canolfan Dreftadaeth y Gŵyr a safle gwersylla Three Cliffs Bay Holiday Park ar ddydd Gwener 24 Ebrill.

Mae'r fenyw yn yr ysbyty bellach gydag anafiadau difrifol ond fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru ei bod mewn cyflwr sefydlog.

Dywedodd yr heddlu hefyd eu bod yn diolch i'r aelodau o'r cyhoedd a helpodd ar adeg y digwyddiad gan ychwanegu bod ymchwiliadau'n parhau ac y dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.