Y frwydr i ddiogelu 'tŷ unnos olaf Sir Benfro' yn ysbrydoli ffilm newydd

Judith, Lily a Marilyn
Disgrifiad o’r llun,

Cyd-gynhyrchydd y ffilm, Lily Tiger (canol), gyda Marilyn King a Judith Clancy, or-or nithod preswylwyr olaf Bwthyn Penrhos

GanAled Scourfield
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae cyd-gynhyrchydd ffilm newydd am dŷ unnos unigryw yn Sir Benfro yn dweud iddi gael ei hysbrydoli i'w chreu gan y frwydr i geisio diogelu'r bwthyn hanesyddol.

Mae'r enw'n llai cyfarwydd bellach ond roedd tai unnos yn gyffredin yn y Gymru wledig ar un adeg.

Yn ôl y traddodiad - byddai gan y sawl a godai dyddyn (smallholding) ar dir comin dros nos, yr hawl i fyw ynddo ac i ffermio ychydig o'r tir o'i gwmpas, cyn belled â bod mwg yn dod o gorn y simne erbyn y bore. Tai unnos roedden nhw'n cael eu galw.

Yn ôl Cyngor Sir Penfro, bwthyn Penrhos yw'r tŷ unnos olaf i oroesi yn y sir.

Mi fydd y ffilm Tŷ Unnos yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng ngŵyl ffilmiau dogfen Sheffield ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin.

Mae'n cynnwys atgofion am Rachel a Maria Williams, y ddwy chwaer olaf i fyw ym mwthyn Penrhos ger Llanycefn.

Dywedodd cyd-gynhyrchydd y ffilm, Lily Tiger, ei bod hi hefyd yn "newyddion gwych" bod £20,000 o arian grant wedi ei glustnodi i gynnal a chadw'r bwthyn sydd yn eiddo i Gyngor Sir Penfro.

Bwthyn Penrhos
Disgrifiad o’r llun,

Bu Penrhos unwaith yn gartref i deulu o 12

Wedi ei leoli oddi ar ffordd ger Llanycefn, yn Sir Benfro, does neb wedi byw yn y bwthyn to gwellt ers 1968.

Bu Penrhos unwaith yn gartref i deulu o 12. Y preswylwyr diwethaf oedd Maria a Rachel Williams, dwy chwaer oedd yn annwyl iawn i'r gymuned leol.

Roedd Maria yn gweithio fel bydwraig yn y gymuned ac wedi helpu i eni cenedlaethau o blant lleol, a Rachel yn gofalu am y tŷ.

Bu farw Rachel yn 1968, ac fe symudodd Maria i fyw mewn cartref yn Arberth. Mae'r ffilm yn adrodd stori'r ddwy chwaer trwy lygaid pobl oedd yn eu hadnabod.

"Dyma un o'r unig ffilmiau Cymraeg neu ddwyieithog sydd yn cael eu dangos yn ystod yr ŵyl," yn ôl Lily Tiger.

"Mae'n gyffrous iawn i ddod â'r chwedl yma o Sir Benfro draw i Sheffield, ble mae cynulleidfa ryngwladol yn dod at ei gilydd."

Lily Tiger
Disgrifiad o’r llun,

"Y nod oedd dangos y cynhesrwydd oedd yn llifo mas o'r bwthyn," meddai Lily Tiger

Mae'r ffilm wedi ei hariannu gan gronfa cymdeithas ffilmiau dogfen BFI.

Fe fydd y ffilm i'w gweld hefyd yn Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd ym mis Awst.

Yn ôl Lily, mae'r ffilm ddogfen wedi holi pobl oedd yn adnabod y ddwy chwaer olaf i fyw ym Mhenrhos.

"Dw i yn teimlo fy mod i yn ei hadnabod nhw. Roedd y ddwy yn swnio fel pobl hollol hyfryd a mor gyfeillgar a chroesawgar," meddai.

"Y nod oedd dangos y cynhesrwydd oedd yn llifo mas o'r bwthyn.

"Mewn ffordd mae'r ffilm yn ffeministaidd ac yn dogfennu hanes am fenywod oedd yn gallu byw gyda'i gilydd heb briodi, heb gael plant a byw yn annibynnol ond gyda'i gilydd fel chwiorydd, ac yn byw yng nghanol y wlad, ac agor eu drysau i'r wlad a chroesawu pobl leol."

Rachel a Maria Williams - preswylwyr olaf y bwthynFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Rachel a Maria Williams - preswylwyr olaf y bwthyn

Mae dwy chwaer oedd yn perthyn i Rachel a Maria ymhlith y rhai sydd yn cyfrannu i'r ffilm. Mae Marilyn King a Judith Clancy yn or-or nithod i Rachel a Maria.

Dywedodd Marilyn ei bod nhw'n ymweld â Phenrhos yn rheolaidd pan oedden nhw yn blant.

"Anti Rachel ac Anti Maria oedden nhw i ni. We bob un yn galw 'da nhw. Os basen ni 'ma unrhywbryd, we rhywun 'ma o'n blaen ni.

"Roedd bob un yn cael dished o de 'da nhw."

Yn ôl Judith, roedd yna groeso cynnes i bawb ar yr aelwyd.

"We dynion yn dod o bell i weld nhw. Dw i yn cofio dod 'ma a chael bara menyn a siwgr i de!"

Rachel a Maria Williams - preswylwyr olaf y bwthynFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

"Anti Rachel ac Anti Maria oedden nhw i ni," meddai Marilyn King

Mae'n debyg y codwyd yr adeilad gwreiddiol tua 1800, ond fe ailadeiladwyd y bwthyn mewn cerrig rai degawdau yn ddiweddarach tua 1849.

Roedd tai unnos yn gyffredin yn y Gymru wledig rhwng y 17eg a'r 19eg ganrif.

Arferid defnyddio deunyddiau oedd wrth law i godi'r tŷ - cerrig, pridd a choed. Yn aml iawn, fe fyddai'r tŷ yn cael ei ailgodi unwaith byddai'r tir wedi ei hawlio.

Fe brynwyd bwthyn Penrhos gan Gyngor Dyfed ar ddechrau'r 1970au ac fe gafodd ei droi yn amgueddfa, cyn iddo drosglwyddo i berchnogaeth Cyngor Sir Penfro.

Mae cyflwr yr adeilad wedi gwaethygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae Cyngor Cymuned Maenclochog a Chyfeillion Penrhos wedi brwydro am fuddsoddiad i'w ddiogelu.

Mae pwysau ariannol ar yr awdurdod wedi golygu ei bod hi'n gynyddol anodd i gynnal a chadw'r adeilad a'i redeg fel amgueddfa.

Cadarnhaodd y Cyngor Sir y bydd £20,000 nawr o arian grant Ymddiriedolaeth y Perererin yn cael ei wario ar atgyweirio'r to gwellt, y gwelydd calch ac i wyngalchu'r adeilad.

Marilyn a Judith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Marilyn a Judith yn dweud y bydden nhw'n dymuno gweld y bwthyn yn cael ei ailagor fel amgueddfa

Mae Marilyn a Judith yn croesawu'r buddsoddiad.

"Gobeithio wna nhw rhywbeth tu fewn a thu fas. Os dechreua nhw tu fas, bydd hynny yn help."

Dywedodd Judith y bydd "angen ffenestri newydd cyn bod nhw yn cwympo mewn, wedwn i."

Mae'r ddwy yn dweud y bydden nhw yn dymuno gweld y bwthyn cael ei ailagor fel amgueddfa.

"Galle fe wneud arian i'r locality, siŵr o fod," yn ôl Marilyn.

"Mae e'n rhywbeth unigryw."

Dywedodd Lily Tiger ei bod hi'n gobeithio y bydd dyfodol Penrhos yn cael ei ddiogelu.

"Fi mor hapus i glywed bod cyllid wedi cael ei ffeindio er mwyn cynnal ansawdd y bwthyn a diogelu hanes y menywod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.