Anodd cael y staff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg medd Cyngor

Swyddfeydd Cyngor TorfaenFfynhonnell y llun, Jaggery/Geograph
  • Cyhoeddwyd

Mae cyngor yn ne Cymru'n dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd recriwtio'r staff i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Alan Vernon-Jones, swyddog yr iaith Gymraeg yng Nghyngor Sir Torfaen, yn dweud bod y cyngor yn bodloni eu gofyniad cyfreithiol a bod cynnydd wedi bod o ran recriwtio staff sydd â sgiliau iaith Gymraeg.

Ond mae "darparu gwasanaethau wyneb yn wyneb er mwyn i siaradwyr Cymraeg allu cyfathrebu â'r cyngor yn parhau i fod yn anodd", meddai.

Ar gyfer pob swydd wag sy'n cael ei hysbysebu gan y cyngor maen nhw'n nodi bod y Gymraeg yn "ddymunol neu'n hanfodol", yn ôl Mr Vernon-Jones, gyda'r bwriad o annog pobl oedd yn defnyddio'r Gymraeg yn yr ysgol neu mewn dosbarthiadau i ymgeisio.

Yn ystod 2025/26 hysbysebodd y cyngor 780 o swyddi newydd neu wag. Roedd 21 ohonyn nhw'n nodi bod y Gymraeg yn hanfodol gyda 759 yn nodi bod yr iaith yn ddymunol, sef 97.31 y cant o'r holl swyddi a hysbysebwyd.

'Cydymffurfio â'r safonau mewn ffordd fwy cyfannol'

"Dydi hyn ddim wedi troi pobl sydd heb unrhyw sgiliau iaith Gymraeg i ffwrdd ac mae wedi golygu bod y cyngor yn gallu cydymffurfio â'r safonau mewn ffordd fwy cyfannol," meddai Mr Vernon-Jones wrth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol.

Ychwanegodd mai "cam nesaf" y cyngor yw asesu pa fath o sgiliau iaith Gymraeg y mae'r ymgeiswyr llwyddiannus wedi'u cynnig ers ymuno â'r cyngor.

Maen nhw'n annog staff i gofnodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar gronfa ddata. Mae 29% o'r gweithlu wedi gwneud hynny hyd yma sy'n dangos mai 54 aelod o staff y cyngor "sy'n hyddysg yn y Gymraeg".

Ond wrth edrych ar y ffigyrau ar gyfer staff o bob lefel - o lefel mynediad hyd at siaradwyr Cymraeg rhugl - mae gan y cyngor 412 o aelodau o staff sy'n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg.

Yn ogystal â hyn fe wnaeth saith aelod o staff gwblhau cyrsiau dysgu Cymraeg y llynedd, gyda'r cyngor yn rhwymedig yn gyfreithiol i ddarparu hyfforddiant.

Fe dderbyniodd y cyngor ddwy gwyn yn ystod 2025/26 ynghylch cydymffurfiaeth y cyngor â safonau'r Gymraeg, gan gynnwys un gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Roedd y ddwy gwyn yn ymwneud â pholisi'r cyngor i gael un enw swyddogol yn unig ar gyfer strydoedd.

Dywedodd Mr Vernon-Jones nad oedd cwyn y comisiynydd wedi symud ymlaen gan nad oedd unrhyw fethiant i gydymffurfio â safonau'r Gymraeg.

Dywedodd hefyd fod y cyngor wedi cael "llwyddiant ysgubol" wrth annog datblygwyr i fabwysiadu enwau Cymraeg ar gyfer strydoedd newydd "gan adfer cydbwysedd enwau strydoedd Saesneg a Chymraeg ar draws y fwrdeistref".

Aeth ymlaen hefyd i ddweud bod AI yn "offeryn defnyddiol" ar gyfer cyfieithu. Mae'r cyngor yn cyfieithu tua 2.5 miliwn o eiriau - ond rhybuddiodd bod dal "angen i gyfieithiadau AI gael eu gwirio gan siaradwr Cymraeg cymwys".

Dywedodd aelod cabinet cyngor Llafur sy'n gyfrifol am yr iaith Gymraeg, Peter Jones, fod "llawer o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn" i hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg.

Mae'r cyngor wedi cymeradwyo adroddiad Safonau'r Iaith Gymraeg a fydd yn cael ei gyhoeddi ar eu gwefan erbyn diwedd mis Mehefin.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig