Rhieni wedi 'cael ein babi nôl' ar ôl i ddyfais achub ei fywyd

Dylan a Catrin Green gyda'u meibion a Macs y babi
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni o Gaerdydd wedi diolch i'r gwasanaeth iechyd wedi i'w babi ifanc dderbyn dyfais arbenigol a phrin i achub ei fywyd.
Ym mis Gorffennaf, fe wnaeth Dylan a Catrin Green bledio am "galon Berlin" i'w babi bach, Macs.
Roedd Macs wedi dioddef dau ataliad ar ei galon ar ôl mynd i'r ysbyty yng Nghaerdydd gyda feirws.
Cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Plant Brenhinol Bryste, ond roedd gofid na fyddai'n goroesi heb iddo dderbyn y pwmp prin ac arbenigol sydd yn gwneud gwaith y galon.
Ond ddiwedd Gorffennaf, cafodd Macs ei gludo i Ysbyty Freeman yn Newcastle.
Ar ôl cyfres o lawdriniaethau cymhleth, mae dyfais calon Berlin, math o ddyfais cymorth fentriglaidd (VAD) bellach wedi ei osod yn ei gorff.

"Mae e'n gwenu, mae e'n ymateb i ni. O'r blaen, roedd e just yn fabi ar y gwely," meddai Dylan
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C o'r ysbyty yn Newcastle, dywedodd tad Macs, Dylan Green, bod y teulu yn teimlo rhyddhad enfawr.
"Ni mor falch bod e ar y Berlin heart. Mae'n meddwl bod e gallu dod off rhai o'r cyffuriau sydd wedi bod yn sedato fe.
"Ers 'ny mae e'n fabi hollol wahanol... Mae e'n gwenu, mae e'n ymateb i ni. O'r blaen, roedd e just yn fabi ar y gwely."
Disgrifiodd Catrin Green y profiad fel "cael ein babi nôl".

"Nawr ni'n gobeithio bod e mynd i fod yn sefydlog ar y Berlin heart," meddai Catrin
Mae'r driniaeth o osod dyfais cymorth fentriglaidd yn brin iawn. Yn ôl ffigyrau diweddaraf, 17 plentyn drwy'r Deyrnas Unedig dderbyniodd ddyfais o'r fath rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025.
Er gwaetha'r rhyddhad fod Macs bellach wedi gadael yr uned gofal dwys ac mewn cyflwr sefydlog, dyw'r pryder ddim ar ben i'r teulu.
Esboniodd Catrin Green: "Ni yn aros nawr am galon go iawn i ddod lan iddo fe.
"Maen nhw 'di dweud wrthon ni... mae'n debygol o orfod aros 18 mis am galon. Alle fe fod yn ddwy flynedd, alle fod yn fwy na 'na. Ond hefyd fe allai calon droi lan yfory.
"Os bydden ni yn aros a gwbod bod e'n byw mewn yn yr ysbyty bydde na'n fine ond mae lot o risks o fod ar y Berlin heart a lot o ffactorau sy'n gallu effeithio arno fe.
"So nawr ni'n gobeithio bod e mynd i fod yn sefydlog ar y Berlin heart."

Eu gobaith yw annog ac ysbrydoli eraill i drafod rhoi organau plant - pwnc maen nhw'n cydnabod sydd yn anodd ond yn bendant bod angen ei ddiwallu i helpu plant bregus fel eu mab.
Maen nhw hefyd am ddiolch i'r gwasanaeth iechyd a staff yn yr ysbyty yn ogystal â ffrindiau, perthnasau ac eraill sydd wedi eu cefnogi a chyfrannu at dudalen godi arian sefydlodd ffrindiau wythnos ddiwethaf.
Dywedodd Dylan: "Ni mor ddiolchgar i bob un sydd wedi rhannu stori Macs ac i'r ysbyty am gymryd e mewn.
"Mae lot o bobl wedi helpu ni mas am dros 10 wythnos nawr.
"Mae lot wedi helpu ni, wedi rhoi arian hefyd ac helpu ni gynnal bywyd fan hyn ac i'r bois nôl yng Nghaerdydd hefyd.
"Ni mor ddiolchgar i bawb am roi mor hael."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf
