O brotest i bŵer - lluniau'n dangos taith Rhun ap Iorwerth

Cafodd Rhun ap Iorwerth (dde) ei benodi'n brif weinidog ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Tachwedd 1991 ac mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal protest o flaen adeilad y Swyddfa Gymreig ym Mharc Cathays Caerdydd.
Mae nifer o'r ymgyrchwyr yn sefyll ar risiau'r adeilad, yn eu plith myfyriwr 19 oed mewn cot dywyll yn dal arwydd â'r geiriau "TORIAID - DDIM AM WYBOD" mewn llythrennau bras.
Bron i 35 mlynedd yn ddiweddarach - yr wythnos diwethaf - safodd yr un gŵr o flaen yr un adeilad ac yr un grisiau.
Y tro hwn roedd ganddo siwt a chrys. Roedd ganddo deitl newydd sbon hefyd - Prif Weinidog Cymru.
Rhun ap Iorwerth oedd y myfyriwr ifanc yn galw am ddeddf eiddo newydd ym 1991, a fe oedd yn gwenu ar y camerâu nos Fawrth.

Rhun ap Iorwerth yw'r prif weinidog cyntaf na sy'n dod o'r blaid Lafur
Daeth y lluniau archif o Rhun ap Iorwerth i'r amlwg ar ôl iddyn nhw gael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos diwethaf gan y ffotograffydd Chris Reynolds yn dilyn penodiad Rhun ap Iorwerth fel prif weinidog.
Daeth hynny ar ôl i Blaid Cymru ennill y nifer fwyaf o seddi yn yr etholiad i Senedd Cymru ar 7 Mai.
Drwy gyd-ddigwyddiad mae un o'r lluniau'n dangos Leanne Wood - a arweiniodd Plaid Cymru rhwng 2012 a 2018 - yn sefyll y tu ôl i ap Iorwerth.
Mae hi'n gwisgo crys-t â'r geiriau "NID YW CYMRU AR WERTH".

Rhun ap Iorwerth a Leanne Wood (cefn) yn y brotest yn 1991
Pwrpas y brotest yn 1991 oedd galw am ddeddf eiddo newydd er mwyn helpu i reoli'r farchnad dai, gan gynnwys mewn cymunedau Cymraeg.
Yn ystod y rali cafodd graffiti ei baentio ar wal yr adeilad cofrestredig gradd dau ac ar y palmant o'i flaen.
Mae'r adeilad yn dyddio nôl i'r 1930au.
Yn dilyn creu rôl ysgrifennydd Cymru yn y 1960au, cafodd yr adeilad ei droi'n rhan o'r Swyddfa Gymreig.
Yna, yn 1999 gyda dechrau datganoli, cafodd ei ailbwrpasu i fod yn swyddfeydd i Lywodraeth Cymru.
Wedi sefyll o flaen y drws mawr i brotestio yn 1991, bellach mae gan Rhun ap Iorwerth y goriadau.

Pwrpas y brotest oedd galw am ddeddf eiddo newydd