Crynodeb

  1. Yr Eisteddfod ar ei newydd wedd yn sgil mwy yn cystadlu a mwy o gystadlaethauwedi ei gyhoeddi 16:33 GMT+1

    Eisteddfod yr Urdd

    Am y tro cyntaf erioed, mae’r Urdd wedi ehangu’r brifwyl o chwech i saith diwrnod eleni, a hynny mewn ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am gystadlaethau newydd.

    Dywed y mudiad eu bod yn falch o weld cynnydd yn y nifer o gystadleuwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd rhan eleni, a hynny yn dilyn cyflwyno cystadlaethau ADY newydd.

    Hefyd mae mwy nag erioed o blant a phobl ifanc Ynys Môn wedi cofrestru i gystadlu yn yr ŵyl - 14,060.

    Mistar UrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Mistar Urdd bellach yn 50 ond ddim yn rhy hen i fynd i'r Eisteddfod

    Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Mae Eisteddfod yr Urdd i bawb, ac mae ymestyn yr ŵyl i saith diwrnod am y tro cyntaf erioed wedi’n galluogi i ehangu ein cynnig a denu cystadleuwyr newydd.

    “Mae gweld twf ymysg cystadleuwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn brawf fod yr ŵyl yn parhau i ymestyn cyfleoedd celfyddydol o bob math i blant a phobl ifanc, a hynny drwy’r Gymraeg."

    LlioFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Llio Maddocks, yw Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru

    “Diolch o galon i Ynys Môn am y croeso cynnes, i’r pwyllgorau lleol am eu holl waith a’u cefnogaeth hael, ac i’r cannoedd o wirfoddolwyr fydd yn ein helpu i gynnal gŵyl hanesyddol,” ychwanegodd.

  2. O'r Archif: Rhun ap Iorwerth yn arwain o'r llwyfan Eisteddfod yr Urdd 2004wedi ei gyhoeddi 16:20 GMT+1

    Fe ddenodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn yn 2004, 106,000 o ymwelwyr ac un o'r arweinyddion oedd Rhun ap Iorwerth.

    Ar y pryd roedd e'n un o staff BBC Cymru yng Nghaerdydd.

    Eleni mae'r prif weinidog newydd yn un o lywyddion y dydd.

    Disgrifiad,

    Rhun ap Iorwerth yn arwain o'r llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd 2004 (Hawlfraint S4C)

  3. Seremoni i lywyddion anrhydeddus yr Eisteddfod ddydd Sulwedi ei gyhoeddi 16:13 GMT+1

    llywyddionFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Alwen Jones, Ann Peters Jones a Derek Evans ymhlith y saith a fydd yn cael eu hanrhydeddu

    Mewn seremoni ddydd Sul bydd saith person yn cael eu hanrhydeddu am eu cyfraniad arbennig i'r mudiad.

    Mae'r mudiad yn cydnabod cyfraniad gwirfoddolwyr yn Eisteddfod yr Urdd yn flynyddol.

    Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld ag Ynys Môn ers 2004.

    Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn fydd:

    • Alwen Jones (Amlwch)
    • Ann Peters Jones (Caergybi)
    • Derek Evans (Llannerch-y-medd)
    • Edward Morus Jones (Llangristiolus)
    • Grês Pritchard (Llannerch-y-medd)
    • Helen Evans (Talwrn)
    • Rhian Lloyd Jones (Bodffordd)

    Gallwch ddarllen mwy am y llywyddion anrhydeddus yma.

    Edward Morus Jones, Grês Pritchard, Helen Evans a Rhian Lloyd JonesFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Y pedwar llywydd arall yw Edward Morus Jones, Grês Pritchard, Helen Evans a Rhian Lloyd Jones

  4. Enillwyr y medalau - Carwyn Saunders a Katie Baddiley - 'wrth eu bodd'wedi ei gyhoeddi 16:06 GMT+1

    Eisteddfod yr Urdd

    Yn gynharach heddiw cafodd dau ddysgwr disglair iawn eu gwobrwyo yn yr Eisteddfod.

    Caerwyn Saunders o Dreorci sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr eleni.

    Yn yr un seremoni, cyhoeddwyd mai Katie Baddiley, yn wreiddiol o Nottingham ond bellach yn byw yng Nghaernarfon, oedd enillydd Medal Bobi Jones - y brif wobr arall i ddysgwyr.

    Llongyfarchiadau i'r ddau.

    Disgrifiad,

    Enillwyr prif wobrau'r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd

  5. Edrych ymlaen at 'Ffawd a Ffydd' nos Iauwedi ei gyhoeddi 16:00 GMT+1

    Yn y sioe 'jukebox' hon mae 75 o bobl ifanc rhwng 11-24 oed o bob cwr o'r ynys yn perfformio.

    Bydd i'w gweld nos Iau, 28 Mai, yn y Pafiliwn Gwyn am 19:30.

    Mae Ffawd a Ffydd wedi ei lleoli ar draeth lleol poblogaidd ddiwedd mis Mai. Dyma'r penwythnos olaf y caiff y bobl leol ddefnyddio'r Traethau Aur.

    Mae'r lleoliad yn rhan o ddatblygiad pentref gwyliau Golden Sands a bydd y traeth at ddefnydd ymwelwyr a gwesteion y pentref gwyliau yn unig wedi hyn.

    Er bod protestio chwyrn wedi bod yn lleol, fe gafodd y cynllun ganiatad i fynd yn ei flaen.

    Mae gan bawb ei farn am y sefyllfa ac nid pawb sydd o blaid.

    Ffawd a FfyddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r sioe i'w gweld nos Iau yn y Pafiliwn Gwyn

    Mae caneuon poblogaidd rhai o artistiaid yr ynys yn rhan o'r sioe,

    Y criw sydd wedi bod wrthi'n hyfforddi yw:

    Cyfarwyddwr - Siwan Llynor

    Cyfarwyddwyr Cerdd - Catrin Angharad a Huw Harvey

    Sgript - Branwen Davies

    Trefniant band - Osian Rhys Williams

    Ceoreograffi - Lois Postle

  6. 100 o fagiau synhwyraidd ar gael i helpu plant ag anghenion dysguwedi ei gyhoeddi 15:54 GMT+1

    BagiauFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

    Mae mam o Borthmadog, sydd wedi bod yn trefnu bocsys synhwyraidd, i helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cynnig bagiau arbennig yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

    Mae Emma Wyn a'i mab Noa, wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ers i'w mab gael diagnosis chwe blynedd yn ôl.

    Bydd 100 o fagiau synhwyraidd Noa ar gael ar gyfer teuluoedd ag ysgolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

    Mae'r bagiau hyn wedi'u creu gan Emma i "helpu'r plant gadw'n brysur a mwynhau eu hamser ar y maes ac maen nhw ar gael am ddim".

    Gallwch ddarllen yr erthygl yn llawn yma.

    BagiauFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

    Mae Emma wedi bod yn casglu arian i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ers blynyddoedd drwy deithiau cerdded, raffl a digwyddiadau eraill.

    Erbyn hyn mae Emma yn anfon y bocsys ar draws Cymru ac at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, meddygfeydd a deintyddfeydd lleol.

    Mae'r bocsys hefyd i'w cael yng nghlwb pêl-droed Wrecsam, Venue Cymru a Stadiwm Principality, Caerdydd.

  7. Cwis Cymru Fyw: Ynys Mônwedi ei gyhoeddi 15:50 GMT+1

    Gydag Eisteddfod yr Urdd yn ymweld â Môn, faint wyddoch chi am yr ynys?

    Rhowch gynnig ar gwis Cymru Fyw!

    mon
  8. Aelodau o adran newydd Lligwy yn llawn cyffro ac yn edrych ymlaenwedi ei gyhoeddi 15:47 GMT+1

    Mae adran newydd wedi cael ei ffurfio ym Môn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol sef Adran Lligwy.

    Dywedodd Lotti sy'n naw oed ac yn aelod o'r adran, ei bod yn gyffrous meddwl y bydd pawb yn heidio i'r ynys yn ystod yr wythnos.

    "'Da ni wedi bod yn harddu'r ysgol a chanu a dawnsio ac actio. 'Da ni wedi bod yn ymarfer geiriau a chanu.

    "'Da ni wedi bod yn peintio cerrig a gwneud arwydd croeso."

    Adran Lligwy
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Carter, Lotti a Catrin yn aelodau o Adran Lligwy

    Ychwanegodd Catrin, 10 oed ei bod wedi dysgu am hanes yr Eisteddfod yn yr ysgol.

    "'Da ni wedi bod yn dysgu mwy am yr Eisteddfod drwy ysgrifennu araith ac wedi bod yn dysgu lot o ganeuon rhwng yr adran a'r ysgol.

    "'Dwi'n ofnadwy o gyffrous ac mi fydd yn anhygoel, 'da ni wedi bod yn harddu'r fro ac yn dysgu caneuon hefyd."

    Roedd Carter sy'n 11 oed hefyd yn llawn cyffro wrth groesawu'r Eisteddfod.

    "'Da ni wedi bod yn ymarfer canu ac actio... cân o'r enw rhestr siopa ar gyfer yr Eisteddfod."

  9. Galw ar bob Gruff, Griff a Gryff i Faes Eisteddfod Yr Urdd nos Sulwedi ei gyhoeddi 15:35 GMT+1

    Ym mis Chwefror eleni fe siaradodd Gruff Hughes ar raglen Trystan ac Emma ar BBC Radio Cymru, yn adrodd hanes grŵp Whatsapp a oedd yn llawn pobl â'r enw Gruff.

    Roedd dwsinau o 'Gruffs' yn rhan o'r grŵp 'ma, a oedd ond yn derbyn y sillafiad Gruff, gan beidio derbyn yr enwau Griff na Gryff.

    Ac o glywed yr eitem radio yma fe gafodd Angharad Prys, sy'n gweithio fel Rheolwr Celfyddydol i'r Urdd, ei hysbrydoli.

    Yn siarad ar raglen Trystan ac Emma ar 15 Mai, dywedodd Angharad:

    "'Nes i glywed y sgwrs ac o'n i wrth fy modd efo'r syniad bo' 'na grwp Whatsapp wedi ei greu jest am bod eu henwau nhw yr un peth.

    "O'n i'n meddwl bod o'n biti bo' nhw ddim yn cael cyfarfod ei gilydd dydi, felly beth am wahodd nhw draw i Steddfod Yr Urdd nos Sul pan ma'r Triban ymlaen, a cawn nhw gyfarfod yn un criw ar Faes Steddfod Yr Urdd."

    Y cyn-seiclwr proffesiynol Gruff Lewis, Brenin Cymru o 1055-63 Gruffudd ap Llywelyn, yr artist Griff Lynch, a phrif leisydd y Super Furry Animals, Gruff RhysFfynhonnell y llun, Getty/Carys Huws
    Disgrifiad o’r llun,

    Y cyn-seiclwr proffesiynol Gruff Lewis, Brenin Cymru o 1055-63 Gruffudd ap Llywelyn, yr artist Griff Lynch, a phrif leisydd y Super Furry Animals, Gruff Rhys

    Dywed Angharad ei bod wedi gwneud bach o waith ymchwil i weld sawl Gruff, neu amrywiad o sillafiad o'r enw, sy'n aelod o'r Urdd ar hyn o bryd.

    "Mae 'na 640 o aelodau o'r Urdd sydd â'r enw Gruff, Griff, Gryff neu Gruffudd. Mae 'na 140 o rheiny sy'n Griff, felly gan fod Yr Urdd i bawb mae gennai gais i'r grŵp Gruff gwreiddiol plîs gawn ni gynnwys pob Gruff/Griff/Gryff?

    "Dwi'n dweud yn swyddogol bod 'na groeso i bob un sillafiad o'r enw ddod - yn yr Adlen, 6 o'r gloch nos Sul pan fydd Triban 'mlaen. Yn chwarae bydd Elin Fflur, Fleur de Lys, Gwilym, Cordiau, Buddug a Popeth - fydden nhw perfformio i bawb yn yr Eisteddfod, gan gynnwys bob Gruff, Griff a Gryff!"

    Felly, os yr ydych chi'n Gruff, Gruffudd, Griff neu Gryff, ewch i Faes Eisteddfod Yr Urdd nos Sul 24 Mai - nos yfory - i ehangu'r rhwydwaith!

  10. Y maes yn le blinedig a sychedig i rai!wedi ei gyhoeddi 15:27 GMT+1

    Mae maes Eisteddfod yr Urdd yn le sy'n llawn bwrlwm, sŵn a hwyl ond oherwydd hynny mae'n gallu bod yn le blinedig i rai - ac mae Gareth yr Orangutan wedi dianc am seibiant.

    Sion, o stondin Busnes Cymru, sy'n bachu ar y cyfle i edrych ar ei ôl (a chael seibiant ei hun hefyd)

    Sion a Gareth yr Orangutan
  11. Nid ar y llwyfan yn unig ma'r nerfauwedi ei gyhoeddi 15:18 GMT+1

    Yn ogystal â'r nerfusrwydd ar y llwyfan, mae'n bosib ffeindio ffyrdd eraill i gael y curiad calon i gyflymu ar y maes!

    maes
  12. Criw y ddawns flodau yn Eisteddfod yr Urdd 1976 yn ail-greu llunwedi ei gyhoeddi 15:14 GMT+1

    Y criw dawnsioFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Y dawnswyr ifanc yn Eisteddfod yr Urdd 1976

    Fis Mai 1976 cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.

    Hanner canrif yn ddiweddarach, mae criw y ddawns flodau'r flwyddyn honno wedi dod at ei gilydd i ail-greu llun arbennig.

    Darllenwch yr hanes yma.

    Y criw dawnsio yn 2026Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Cefn (o'r chwith) Wayne Lock, Robin Williams, Gwyn Morgan, Arwel Roberts, Huw Gwilym, Alun Griffith, Robat Tomos, Michael Randal, Aled Davies, Keith Tomos. Canol (o'r chwith): Angharad Harris, Mair Stead, Gwen Davies, Rhian Hughes, Wendy Williams, Bethan Tomos, Eleri Jones, Nia Lloyd Jones. Blaen (o'r chwith): Marc Bronley, Magi Tomos

  13. Francesca Sciarrillo: 'Llysgenhadon arbennig i'r iaith Gymraeg'wedi ei gyhoeddi 15:13 GMT+1

    Dywedodd Francesca Sciarrillo, un o feirniaid Medal y Dysgwyr ac Medal Bobi Jones, ei bod yn "gwybod o brofiad faint mae'r cystadlaethau yma'n gallu newid bywydau siaradwyr newydd ifanc".

    "Mae'r cyfle i rannu ein straeon a chariad o ddysgu'r iaith Gymraeg ar lwyfan cenedlaethol fel hyn yn amhrisiadwy," meddai.

    "Mae wedi bod yn fraint wirioneddol i ddod i 'nabod y cystadleuwyr i gyd eleni: pob un yn llysgenhadon arbennig i'r iaith Gymraeg.

    "Mae wedi bod yn bleser i ddysgu mwy am sut mae'r Gymraeg yn chwarae rhan holl bwysig yn eu bywydau oherwydd eu hymdrechion i'w dysgu. Llongyfarchiadau enfawr i bawb sydd wedi cystadlu eleni."

    Francesca Sciarrillo
    Disgrifiad o’r llun,

    Francesca Sciarrillo, enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019

  14. Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled yn cael ei gyflwyno i wirfoddolwr lleolwedi ei gyhoeddi 15:04 GMT+1

    Urdd Gobaith Cymru

    Derek Evans o Lannerch-y-medd, Ynys Môn, ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled eleni.

    Cafodd y wobr ei rhoi iddo yn Eisteddfod Sir Ynys Môn, oedd yn cael ei chynnal yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

    Derbyniodd Derek y wobr am wirfoddoli'n gyson gyda'r Urdd ar Ynys Môn a thu hwnt ers bron i 50 mlynedd.

    DerekFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Derek Evans wedi gwirfoddoli'n gyson gyda'r Urdd yn Ynys Môn a thu hwnt ers bron i 50 mlynedd

    Eleni hefyd mae e'n aelod o'r pwyllgor gwaith.

    Caiff y tlws ei roi gan yr Urdd yn flynyddol i wirfoddolwyr sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

    Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ddydd Mercher ar Lwyfan y Canlyniadau am 10:00.

    Gallwch ddarllen mwy am hanes Derek Evans yma.

  15. Be' well nag ymarfer dawnsio stryd gyda mynyddoedd Eryri yn y cefndir?wedi ei gyhoeddi 15:02 GMT+1

    Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi dod o hyd i fan ar y maes ble mae digon o le iddyn nhw ymarfer y ddawns stryd - ac am le!

    Yr haul yn tywynnu a mynyddoedd Eryri yn y cefndir.

    Dawnswyr
  16. 🤔 Beth sy'n digwydd pryd eleni?wedi ei gyhoeddi 14:54 GMT+1

    Urdd Gobaith Cymru

    • Dydd Sadwrn: Dysgwyr, Dawnsio Disgo, ADY
    • Dydd Sul: Aelwydydd
    • Dydd Llun: Uwchradd bl10 a dan 19
    • Dydd Mawrth: Uwchradd bl7,8,9 ac offerynnol bl10 a dan 25
    • Dydd Mercher: Adrannau, Uwchradd offerynnol bl7,8,9
    • Dydd Iau: Cynradd (Cân actol a Pherfformiad theatrig i ysgolion ac Adrannau)
    • Dydd Gwener: Cynradd
  17. Perchennog siop: 'Breuddwydio coch, gwyn a gwyrdd'wedi ei gyhoeddi 14:49 GMT+1

    Mae Rhian Sinnott yn berchennog siop yn Llangefni ac wedi bod yn gwerthu baneri a nwyddau i gasglu arian at yr Eisteddfod.

    Dywedodd: "Mae o wedi bod yn grêt, 'da ni gyd wedi edrych ymlaen at yr Eisteddfod ac i weld pawb yn dod i Ynys Môn.

    "Mae pobl wedi bod yn addurno a dod i nôl eu pethau o'r siop - y bunting ac ati. Mae 'na gyffro yn bendant."

    Mae Rhian Sinnott wedi bod yn gwerthu nwyddau'r Urdd yn ei siop
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Rhian Sinnott wedi bod yn gwerthu nwyddau'r Urdd yn ei siop

    Ychwanegodd: "Mae 'na alw mawr wedi bod amdanyn nhw, 'dw i'n siŵr mod i'n breuddwydio coch gwyn a gwyrdd.

    "Mae o fatha cymuned, pawb yn dod at ei gilydd a phawb yn croesawu'r Urdd i'r ynys, mae'n grêt."

  18. Enillydd y llefaru unigol i ddysgwyr wrth ei foddwedi ei gyhoeddi 14:48 GMT+1

    Mae Esa, 7 oed, o Ysgol Bro Idris, Dinas Mawddwy, yn dathlu ar ôl ennill cystadleuaeth y llefaru unigol i ddysgwyr - ddwy flynedd yn unig ers iddo ddechrau siarad Cymraeg!

    Llongyfarchiadau Esa.

    Esa
  19. Sefydlu adran newydd yn sgil ymweliad y Brifwyl â Mônwedi ei gyhoeddi 14:46 GMT+1

    Mae Adran yr Urdd newydd sbon wedi cael ei sefydlu ym Môn yn sgil ymweliad yr Eisteddfod â'r ynys - Adran Lligwy.

    Elfed Morgan Morris yw un o'r rhai sydd wedi bod yn hyfforddi'r aelwyd.

    "Mae'r Eisteddfod yma o'r diwedd, a 'da ni wedi bod yn edrych ymlaen drwy'r flwyddyn gron am y diwrnod mawr o agor," meddai.

    "Fel ysgol - Ffederasiwn Gwel y Glannau - 'da ni wedi bod yn andros o weithgar, nid yn unig yn cystadlu fel ysgol, ond hefyd yn sefydlu adran newydd, sef adran Lligwy."

    Mae Elfed Morgan Morris wedi bod yn hyffroddi plant yr adran newydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Elfed Morgan Morris wedi bod yn hyffroddi plant yr adran newydd

    "Bwriad yr adran newydd yw rhoi cyfle y tu allan i oriau ysgol i fwynhau cerddoriaeth, drama a dawns yn sŵn y Gymraeg," ychwanegodd.

    "Mae o wedi bod yn hwb i ni fel ysgol, i feddwl am gyfleoedd newydd i'n disgyblion ni, ac oherwydd y niferoedd sydd wedi dangos diddordeb eleni, mi fyddwn ni'n parhau y flwyddyn nesaf."

  20. Wedi sbotio Rhys Meirion...ac mae gitâr yn ei ddwylo!wedi ei gyhoeddi 14:45 GMT+1

    Wrth grwydro'r maes mae Cymru Fyw wedi dod o hyd i Rhys Meirion ac mae wrthi'n perfformio un o'i ganeuon sydd wedi cael ei hysbrydoli gan ei daith i Batagonia.

    Rhys Meirion