Gwerthu gwisgoedd Mary Hopkin o'r 60au

  • Cyhoeddwyd
Cantores

Mae casgliad o wisgoedd a nwyddau o'r 60au yn cael eu gwerthu gan y gantores Gymreig Mary Hopkin.

Daeth Hopkin, 67 oed, i enwogrwydd yn 1968 gyda'r gân 'Those Were The Days' aeth i frig y siartiau.

Hi oedd un o'r artistiaid cyntaf erioed i arwyddo i label Apple Records y The Beatles.

Mae'r casgliad yn cynnwys dillad yr oedd hi wedi eu gwisgo yn y cyfnod pan roedd hi fwyaf enwog, ac mae'n cynnwys posteri prin The Beatles. Bydd y nwyddau'n cael eu gwerthu mewn arwerthiant ym Mae Colwyn a Chaerdydd.

Daeth Hopkin yn enwog wedi iddi ennill sioe dalent Opportunity Knocks pan yn 18 oed.

GwisgFfynhonnell y llun, Getty Images / Wales News
Disgrifiad o’r llun,

Un o wisgoedd Mary Hopkin sydd ar werth

Recordiodd nifer o ganeuon poblogaidd yn y 1960au cyn rhoi'r gorau i gerddoriaeth bop yn y 70au er mwyn magu teulu gyda'i gŵr ar y pryd, y cynhyrchydd Tony Visconti.

Yn 1970 cafodd ei anrhydeddu a'i hurddo i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhydaman am ei chyfraniad i fywyd diwylliannol Cymru.

Ymysg yr eitemau sydd ar werth mae'r wisg y gwnaeth ei gwisgo wrth gynrychioli'r DU yng nghystadleuaeth Eurovision 1970 gyda'r gân 'Knock Knock, Who's There?'

PosterFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Poster o gyngerdd The Beatles fydd ar werth

Bydd poster yn hysbysebu cyngerdd The Beatles o fis Awst 1963 ym Mhafiliwn y Pier, Llandudno hefyd yn cael ei werthu ac mae disgwyl iddo fod yn werth rhwng £400 a £800.

Yn ystod yr un mis yn 1963 fe gyhoeddodd y band eu hail gân i gyrraedd brig y siartiau, sef 'She Loves You', ac fe ddechreuodd Beatlemania ar draws y byd.

Dywedodd trefnydd yr arwerthiant, Ben Rogers Jones: "Roedd yn iawn i'r posteri gael eu cyflwyno i'n hystafelloedd arwerthu ym Mae Colwyn, dim ond tair milltir o ble chwaraeodd The Beatles ar y noson honno.

"Fy ngobaith i yw y bydd yn mynd i rywun lleol i'r ardal oedd yn y gig ond mae'n sicr y bydd diddordeb mawr o lefydd eraill gan fod y farchnad am nwyddau'r Beatles yn anferthol."

Ar werthFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r eitemau sydd ar werth

BeltFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Y belt gafodd ei wisgo gan y gantores yn Eurovision 1970