Achosion o afiechyd a chlefydauTwbercwlosis a’r ffliw

Mae rhai achosion clefydau wedi newid dros y blynyddoedd, tra bod eraill wedi bodoli erioed. Mae gwybodaeth feddygol wedi gwella ac mae’r esboniadau am achosion afiechydon a chlefydau wedi newid. Beth fu prif achosion afiechydon a chlefydau dros y blynyddoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Twbercwlosis a’r ffliw

Twbercwlosis (TB)

Mae bacteria TB yn lledaenu yn y diferion o leithder a gynhyrchir wrth besychu neu disian neu mewn llaeth gwartheg heb ei basteureiddio.

Mae wedi cael ei ganfod yn ysgerbydau mymïod Eifftaidd, a hyd at ddiwedd y 19eg ganrif roedd yn cael ei adnabod fel y ddarfodedigaeth, oherwydd bod y rhai oedd yn dioddef â TB yn colli pwysau yn raddol.

Yn ystod y 19eg ganrif ac ar ddechrau’r 20fed ganrif roedd yn glefyd oedd yn cael ei gysylltu â thai gwael ac amodau gwaith afiach.

Cafodd bacillus TB ei ynysu yn 1882, ond roedd canfod iachâd yn anodd. Yn ystod diwedd y 19eg ganrif sefydlwyd a thybiwyd mai ‘awyr iach’ fyddai’n gwella'r clefyd, ond nid oedd hynny’n llwyddiannus mewn hanner yr achosion. Lleihawyd nifer yr achosion yn sylweddol yn ystod y 1950au yn sgil cyflwyno gwrthfiotig streptomysin, gwell glanweithdra a brechiadau. Ond, mae cynnydd y mathau o straen sy'n gwrthsefyll cyffuriau yn y 1980au, yn arbennig ymysg y digartref, yn golygu bod y frwydr yn erbyn TB yn parhau.

Twbercwlosis yng Nghymru

Roedd TB yn broblem iechyd sylweddol yng Nghymru. Yn 1910 roedd y pum sir a ddioddefodd y nifer uchaf o farwolaethau yng Nghymru a Lloegr yn siroedd yng Nghymru, gyda 11,000 o achosion newydd bob blwyddyn.

Fel ymateb i hynny, erbyn 1930 cyflwynwyd 1,600 o welyau ychwanegol mewn ysbytai a chrëwyd 22 uned pelydr X newydd er mwyn ymladd yn erbyn TB.

Erbyn 1939 bu gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion newydd, ond roedd Cymru yn dal i lusgo y tu ôl i Loegr.

Ffliw

Daw’r gair ffliw (influenza) o’r Eidaleg canoloesol sy’n golygu dylanwadu, ac mae’n ein hatgoffa bod rhai meddygon yn credu mai dylanwad anffafriol y planedau oedd yn ei achosi. Mae’r ffliw mewn gwirionedd yn glefyd firaol, sy’n golygu y gall fwtanu. Felly, nid yw’r brechiad ffliw ond yn effeithiol am ychydig flynyddoedd ar y mwyaf.

Y mwyaf difrifol oedd Ffliw Sbaenaidd 1918-20. Fe ddechreuodd fel yr oedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn dod i ben, a bu i’r firws marwol hwn ladd 50 i 100 miliwn o bobl (rhwng 3 a 5 y cant o boblogaeth y byd), sy’n golygu iddo fod yn un o’r clefydau mwyaf marwol yn hanes y ddynoliaeth. Yn anarferol, roedd ar ei fwyaf peryglus ymysg pobl 20 i 40 oed.

Bron bob blwyddyn bydd straen o ffliw yn lledaenu o gwmpas y byd. Pan fydd hyn yn digwydd mae'n lladd tua 250,000 i 500,000 o bobl yn fyd-eang.

Mae’r stori newyddion BBC yma yn ein hatgoffa bod y ffliw o hyd yn risg iechyd difrïol, yn arbennig i’r henoed.

Mae cyfradd y marwolaethau yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd tua un rhan o dair yn uwch nag arfer am yr adeg yma o’r flwyddyn, yn ôl ystadegau swyddogol. Mae yna dystiolaeth mai’r ffliw efallai sy’n gyfrifol am y nifer uwch o farwolaethau eleni ... mae’r is-fath H3N2 – firws ffliw cyffredin ar hyn o bryd – yn arbennig o beryglus i’r henoed.
Newyddion BBC, Chwefror 2015

Mae clefydau firaol yn parhau i fod yn her i wyddoniaeth feddygol. Roedd lledaeniad cyflym yn y 1990au yn sioc i nifer o bobl. Ond, nid yw’n debyg i glefydau epidemig y gorffennol. Ni ellir lledaenu Firws Imiwnoddiffygiant Dynol (HIV) ond drwy’r gwaed neu hylifau corfforol pobl sydd wedi’u heintio, ee drwy gyswllt rhywiol neu rannu nodwyddau â pherson sydd wedi ei heintio.

Erbyn 2000, roedd 8 miliwn o bobl wedi marw o ganlyniad i gael AIDS. Yn fwy diweddar, mae meddyginiaethau gwrthfirysau cymhleth wedi cael eu defnyddio i atal y rhai sydd wedi’u heintio â HIV rhag datblygu AIDS am gyn hired â phosib.

Yn fwy diweddar, mae firws Zika yn Ne America ac Ebola yng Ngorllewin Affrica yn ein hatgoffa o ba mor beryglus y gall firysau fod. Fel yn achos y pla, mae’n ymddangos bod y ffliw, twbercwlosis ac AIDS wedi tarddu o anifeiliaid ac wedi lledaenu i bobl.