Achosion o afiechyd a chlefydauTrefi canoloesol

Mae rhai achosion clefydau wedi newid dros y blynyddoedd, tra bod eraill wedi bodoli erioed. Mae gwybodaeth feddygol wedi gwella ac mae’r esboniadau am achosion afiechydon a chlefydau wedi newid. Beth fu prif achosion afiechydon a chlefydau dros y blynyddoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Trefi canoloesol

Roedd trefi canoloesol yn llawer llai na threfi heddiw, ond roedden nhw’n hynod afiach. Cafodd rheoliadau eu cyflwyno mewn rhai trefi er mwyn cadw’r strydoedd yn lân, ac roedden nhw’n cyflogi glanhawyr i gael gwared â gwastraff, ond roedd y rhan fwyaf o’r ymdrechion i gadw trefi yn lân yn aflwyddiannus.

Strydoedd

  • Roedden nhw’n fagwrfa i glefydau.
  • Roedd lloriau uchaf tai yn ymestyn allan i'r stryd ac felly'n cyfyngu ar y golau a’r awyr iach mewn strydoedd.
  • Nid oedd yna garthffosydd, felly roedd gwastraff o’r tai yn cael ei daflu i’r strydoedd.
  • Roedd yna nifer fawr o anifeiliaid mewn trefi, felly roedd yna lawer o faw anifeiliaid yn pydru ar y strydoedd.

Tai

  • Roedd tai hefyd yn afiach ac yn llaith.
  • Roedd y mwg o danau yn llenwi’r tai gan achosi problemau anadlu.
  • Roedd waliau , a gwair ar loriau yn denu llygod mawr, llau a chwain, oedd yn lledaenu clefydau.
  • Roedd dŵr glân ar gyfer ymolchi yn brin, felly roedd y rhan fwyaf o’r bobl yn fudr a drewllyd.

Cyn 1050 ni ellid ystyried unman yng Nghymru yn drefol, ond yn ystod y 300 mlynedd nesaf sefydlwyd llawer o drefi Cymru - fel y Bala yn 1309. Tyfodd y trefi hyn o ran maint a chyfoeth, ond mae’n bur debyg bod llai nag 1 o bob 10 o'r boblogaeth yn byw ynddyn nhw wrth i Gymru barhau i fod yn wledig ar y cyfan.

Caerdydd, yn debygol iawn, oedd tref ganoloesol fwyaf Cymru gyda 2,200 o drigolion yn 1300.