Achosion o afiechyd a chlefydauYr 20fed ganrif a’r 21ain ganrif

Mae rhai achosion clefydau wedi newid dros y blynyddoedd, tra bod eraill wedi bodoli erioed. Mae gwybodaeth feddygol wedi gwella ac mae’r esboniadau am achosion afiechydon a chlefydau wedi newid. Beth fu prif achosion afiechydon a chlefydau dros y blynyddoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Yr 20fed ganrif a’r 21ain ganrif

Yn yr 20fed ganrif gwelwyd datblygiadau sylweddol yn y frwydr yn erbyn clefydau, wrth i’n dealltwriaeth o beth sy’n achosi afiechydon a chlefydau wella.

Ond, mae rhai clefydau yn dal yn her i wyddonwyr.

Hyd yn oed pan mae’r hyn sy’n achosi clefydau yn hysbys, nid yw pobl bob amser yn cymryd y camau cywir er mwyn atal clefyd neu er mwyn lleihau’r risg.

Gall clefydau ffordd o fyw gael eu hachosi gan y math o fywyd yr ydym yn ei fyw, ee ysmygu, deiet gwael, gormod o alcohol ayyb. Gall hynny arwain at ystod eang o broblemau megis problemau calon, canserau, gordewdra a diabetes.

Mae achosion amgylcheddol megis llygredd, neu broblemau’n gysylltiedig â gwaith, ee straen neu oriau anghymdeithasol yn achosion hysbys hefyd.