Y Pla Du a’r Pla Mawr
Y Pla Du
Yn 1348, roedd y Pla Du wedi cyrraedd Lloegr, ac erbyn 1349, roedd wedi lledaenu i Gymru. Ym mhorthladd Caerfyrddin, oedd yn borthladd pwysig, y gwelwyd yr achosion cyntaf, ond lledaenodd y clefyd ar draws y wlad i gyd. Dioddefodd Cil-y-coed, Penfro a Hwlffordd yn ddifrifol, tra lladdwyd holl gloddwyr plwm Treffynnon mwy neu lai.
Ar draws gwledydd Prydain, lladdodd rhwng traean a hanner y boblogaeth. Nid niferoedd y meirw yn unig oedd yn codi braw ar y bobl, ond y ffaith ei fod mor boenus a’i fod yn effeithio ar y cyfoethog a’r rhai oedd yn byw mewn tlodi yn ddiwahân.
Nid oedd gweithwyr meddygol proffesiynol y cyfnod yn gallu egluro beth oedd yn achosi’r pla. Cynigwyd nifer o resymau.
Heddiw, rydym yn gwybod bod yna ddau brif fath o bla.
- Roedd pla llinorog yn achosi chwyddiadau poenus (llinorod). Roedd y math yma yn cael ei ledaenu gan lygod mawr yn bennaf.
- Roedd pla niwmonig yn ymosod ar ysgyfaint y dioddefwr ac roedd yn cael ei ledaenu wrth i bobl ddod i gysylltiad â’i gilydd.
Ond, mae yna ychydig o ddadlau o hyd ynglŷn â beth oedd union achos y pla. Mae rhai gwyddonwyr yn credu ei fod yn llinorog ac yn cael ei ledaenu gan chwain llygod mawr, tra bod eraill yn credu ei fod yn niwmonig oherwydd y ffordd y lledaenodd yn gyflym o un person i’r llall. Beth bynnag fo’r gwir, roedd yn frawychus, ac roedd pobl yn marw fel arfer o fewn tri diwrnod.
Dychwelodd y pla saith o weithiau eto cyn 1405. Mewn gwirionedd, yn ystod y canrifoedd dilynol, cafwyd epidemigClefyd heintus sy’n lledaenu’n gyflym ymysg nifer fawr o bobl mewn cyfnod byr o amser. pla yng ngwledydd Prydain nifer o weithiau.
Y Pla Mawr
Yr achos mawr nesaf oedd Pla Mawr 1665. Hwn oedd yr achos gwaethaf ers 300 mlynedd, a lladdodd 65,000 o bobl yn Llundain yn unig, oedd yn un rhan o chwech o boblogaeth y ddinas.
Roedd pobl yn dal i gredu mewn amryw o achosion, ee lleoliad y planedau, comedau, drewdod neu ymddygiad pechadurus. Y tro hwn, fodd bynnag, fe geisiodd yr awdurdodau atal y pla rhag lledaenu.
Marciwyd tai pla â chroes goch, gosodwyd gwylwyr y tu allan a dywedwyd wrth y preswylwyr i aros mewn cwarantîn am 40 diwrnod. Cyflogwyd chwilwyr y meirw i bennu achos marwolaeth, a chasglwyd y meirw gyda’r nos.
Nid oedd gan feddygon unrhyw syniad beth oedd yn ei achosi mewn gwirionedd - dechrau’r gaeaf a roddodd ddiwedd ar y pla.
Yn yr oes fodern gynnar gwelwyd dechrau ymagwedd fwy gwyddonol, ac ychydig o welliannau mewn gwybodaeth feddygol, ond roedd hynny yn bennaf ym maes anatomi a llawfeddygaeth. Nid oedd meddygon wedi darganfod rôl germau wrth ledaenu clefydau. Felly, roedd achos clefydau yn dal i fod yn ddirgelwch.