Dulliau cynnar o atal afiechydon a chlefydau
Yn yr Oesoedd Canol roedd gwybodaeth am achosion afiechydon a chlefydau yn gyfyngedig, felly nid oedd yna fawr o obaith o’u hatal.
Ychydig iawn o feddygon oedd yn bodoli. Yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar, roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw'n ddynion dysgedig o haenau uchaf y gymdeithas, oedd yn dysgu drwy ymarfer yn hytrach na thrwy fynychu ysgol feddygol.
Ond, erbyn diwedd yr Oesoedd Canol, roedd yn rhaid i unrhyw un oedd eisiau bod yn feddyg gael ei hyfforddi yn un o’r ysgolion meddygol oedd yn agor ar draws Ewrop, ee Prifysgol Rhydychen yn 1220. Yn aml roedd y meddygon hyfforddedig yma yn cael eu galw’n 'ffisigwrO’r gair Groegaidd “physic”, sy’n golygu’r grefft o wella.'.
Yng Nghymru, y meddygon canoloesol enwocaf oedd meddygon Myddfai, teulu a drosglwyddodd eu gwybodaeth feddygol o un genhedlaeth i’r llall o’r 13eg ganrif i’r 18fed ganrif. Roedden nhw'n gwneud meddyginiaethau perlysieuol, yn trin anafiadau ac yn defnyddio astroleg i drin eu cleifion.
Roedd ymdrechion gan feddygon i atal afiechydon yn gyfyngedig am nifer o resymau.
Roedden nhw’n derbyn syniadau’r hen Roegwyr, ee HippocratesMeddyg Groegaidd, oddeutu 400 CC. Yr enw arno yw ‘tad meddygaeth fodern’ gan ei fod wedi datblygu theori'r pedwar hiwmor, a’r syniad o arsylwi a chofnodi salwch ac afiechydon. a GalenOddeutu 129-203 OC. Adfywiwyd syniadau Hippocrates gan annog tynnu gwaed fel triniaeth, ar ôl dysgu am anatomi wrth drin gladiatoriaid wedi’u hanafu., a hynny yn ddi-gwestiwn.
Roedden nhw’n dibynnu’n fawr ar arsylwi a holi’r claf. Gallen nhw wrando ar yr ysgyfaint, neu wrando ar guriad y galon, ond nid oedd ganddyn nhw unrhyw offer meddygol i helpu gyda diagnosis. Roedden nhw’n cario tuswau, orennau neu ganhwyllau cwyr wedi’u goleuo gyda nhw er mwyn trechu’r drewdodArogl o ddeunyddiau sy’n pydru, megis carthion anifeiliaid a phobl, y credid oedd yn achosi clefydau. yr oedden nhw'n credu oedd yn lledaenu’r clefyd.
Roedden nhw’n defnyddio siartiau wrin er mwyn helpu i wneud diagnosis o salwch. Credid bod wrin yn cynnwys unrhyw ormodedd o gwlybwyrPedwar hylif yn y corff roedd yr hen Roegwyr yn credu yr oedd angen eu cadw’n gytbwys er mwyn cael bywyd iach., felly ar ôl archwilio lliw, arogl neu hyd yn oed blas wrin, bydden nhw’n ceisio rhoi diagnosis.
Roedd triniaethau yn seiliedig ar ddamcaniaeth y pedwar gwlybwr. Roedden nhw’n credu y byddai cynnal cydbwysedd y gwlybwyr yn atal afiechyd, neu’n helpu i drin claf fyddai’n sâl.
Roedden nhw’n defnyddio astroleg er mwyn penderfynu ar y driniaeth orau. Roedden nhw’n credu bod lleoliad y lleuad a’r planedau yn dylanwadu ar y gwlybwyr a phryd y dylai cleifion gwaeduY broses o waedu claf, naill ai drwy ddefnyddio gelod neu drwy dorri gwythïen..
Roedd yr Eglwys yn dysgu bod popeth yn cael ei ysbrydoli’n ddwyfol gan Dduw, a bod afiechyd yn gosb am ddrygioni. Ar y pryd roedd arweinwyr yr Eglwys yn ddrwgdybus o unrhyw beth roedden nhw'n ei ystyried oedd yn wyddonol, oherwydd y gallai hynny herio awdurdod yr Eglwys. Pan ddywedodd yr offeiriad, Roger Bacon, y dylai meddygon wneud eu hymchwil eu hunain yn hytrach na derbyn beth ddywedai Galen, fe’i rhoddwyd yn y carchar gan arweinwyr yr Eglwys.
Roedd yna beth datblygiad yn ystod yr Oesoedd Canol, ond roedd yn gyfyngedig.
Ysgolion meddygaeth newydd
Sefydlwyd y rhain mewn prifysgolion megis Padua a Salerno yn yr Eidal a Rhydychen yn Lloegr, er mwyn hyfforddi meddygon mewn meddygaeth. Ond, roedd y rhain yn dysgu gwaith Hippocrates a Galen heb gynnal unrhyw ymchwil newydd. Dim ond Prifysgol Padua oedd yn mynnu bod meddygon yn ymweld â chleifion yn ystod eu hyfforddiant.
Meddygon Mwslimaidd
Dechreuodd meddygon megis Avicenna (Ibn Sīnā), herio’r camgymeriadau a wnaethpwyd gan Galen ac eraill, a dechrau datblygu syniadau newydd. Ond oherwydd bod yr Eglwys Gristnogol yn rhyfela yn erbyn Islam, lledaenodd syniadau Mwslimaidd i orllewin Ewrop yn araf.
Ar y cyfan, nid oedd gan feddygon canoloesol enw da. Yn ystod y Pla Du yn arbennig, beirniadwyd llawer am osgoi eu cleifion oherwydd eu bod yn ofni dal y pla eu hunain.