Diwedd y 19eg ganrif hyd heddiw
Hyd yn oed ar ôl dangos bod y brechuRhoi dogn ysgafn o glefyd i’r corff er mwyn helpu i ymladd yn erbyn ymosodiad mwy difrifol o’r clefyd. yn lleihau nifer y marwolaethau o ganlyniad i’r frech wen, roedd defnyddio brechiadau yn dal yn bwnc dadleuol. Roedd rhai pobl yn gwrthwynebu brechiadau gorfodol rhag y frech wen. Mewn rhai lleoedd fe wnaeth pobl brotestio yn eu herbyn. Cafodd pobl eu harestio ac fe gafodd rhai eu dirwyo a hyd yn oedd eu danfon i'r carchar.
Roedd hyd yn oed rhai pobl ym maes meddygaeth yn amau gwerth brechiadau. Mewn cynhadledd yng Nghaerdydd, mor ddiweddar â 1869, cyhoeddodd Dr Haviland ei fod yn erbyn brechu gorfodol i blant yn ardal Caerdydd, gan ddadlau nad oedd prawf bod brechu yn gweithio.
Nid oedd hyd yn oed Edward Jenner ei hun yn gallu egluro pam fod brechu yn gweithio. Nid oedd ganddo’r microsgop pwerus fyddai wedi ei alluogi i archwilio firws y frech wen. Rydym nawr yn gwybod bod brech y fuwch wedi gweithio oherwydd bod y firws bron union yr un fath â firws y frech wen.
Ond mae Jenner yn haeddu cael ei gofio fel yr un cyntaf i frechu rhag clefyd. Roedd ei waith yn seiliedig ar arsylwi gofalus ac arbrofi, a datblygodd y syniad bod math ysgafn o glefyd yn rhoi imiwnedd.
Er gwaethaf gwaith arloesol Jenner, hyd at ganol y 19eg ganrif roedd y rhan fwyaf o’r bobl yn dal i gredu mai aer drwg - drewdodArogl o ddeunyddiau sy’n pydru, megis carthion anifeiliaid a phobl, y credid oedd yn achosi clefydau. - oedd yn achosi’r frech wen, felly ymyrrwyd o hyd ar ymdrechion i atal y clefyd. Ond yn Ffrainc, roedd gwyddonydd o’r enw Louis Pasteur, oedd yn edmygu Jenner, yn argyhoeddedig y gellid defnyddio brechu er mwyn atal clefydau eraill.
Heddiw, brechu yw'r ffordd fwyaf effeithiol o atal clefydau heintus. Imiwnedd cyffredinol o ganlyniad i frechu oedd yn bennaf gyfrifol am ddifodi’r frech wen yn fyd-eang erbyn 1980, a difa clefydau megis polio, y frech goch a thetanws o’r rhan fwyaf o’r byd.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (World Health Organisation) yn dweud bod brechiadau ar gael ar hyn o bryd ar gyfer mwy na 30 o heintiau atalaiadwy, ac mae’n cynnal ymgyrchoedd brechu ar draws y byd.