Record pync coll yr Athrawon Jerry Hunter a Richard Wyn Jones

Yr academyddion - a'r pync-rocyrs - yr Athro Richard Wyn Jones a'r Athro Jerry Hunter
- Cyhoeddwyd
Mae albwm coll gan fand pync-roc dau academydd Cymraeg adnabyddus newydd gael ei ryddhau - 30 mlynedd wedi iddi gael ei recordio.
Y dyddiau yma mae'r Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones yn adnabyddus fel arbenigwyr yn eu maes - y naill yn y Gymraeg a'r llall mewn gwleidyddiaeth.
Ond pan oedden nhw'n fyfyrwyr yn Aberystwyth ar ddiwedd yr 1980au roedd y ddau yn rhannu tŷ - ac yn aelodau o'r grŵp Arfer Anfad, un o'r bandiau cyntaf i ryddhau record ar Ankst.

Arfer Anfad - gyda Jerry Hunter (dde, ar y bas) a Richard Wyn Jones (yn y cefn, ar y drymiau)
Yna yn 1996, yng nghanol cyfnod Cŵl Cymru, fe wnaethon nhw ddechrau grŵp arall o'r enw Y Ci, gyda'u bryd ar greu cerddoriaeth amgen.
Dau aelod arall y band oedd Pete Bryon (o'r band Cymraeg Ian Rush), oedd yn canu a chwarae gitâr rhythm, a brawd Jerry, Dave Hunter (sylfaenydd Drugstore aeth yn ei flaen i fod yn The Molenes) ar brif gitâr a llais cefndir.
Dros ddau benwythnos yng nghartref Dave Hunter yn Llundain fe wnaethon nhw sgwennu a recordio albwm o ganeuon yn steil amrwd ac egnïol ôl-pync - Enw'r Ci yw Perro.
Ac yna yn steil rhai o fandiau gorau pync, fe ddaeth y band i ben.

Y Ci - Pete, Dave, Jerry a Richard
"Roedden ni'n bwriadu teithio a chwarae'n fyw a rhyddhau'r albwm," meddai Jerry Hunter, sydd bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor.
"Ond yna roedd ganddon ni i gyd swyddi newydd. Roedd bywyd yn brysur, dechreuodd pobl briodi a chael plant. Ac yna symudodd fy mrawd Dave yn ôl i'r Unol Daleithiau."
A gyda'r recordiad heb ei ryddhau, fe wnaeth treigl amser gael effaith ar yr albwm hefyd.

Recordio podlediad Yr Hen Iaith, lle mae Jerry Hunter, 'hogyn o'r Midwest, yn America, yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau'i iaith ei hun'
Er bod gan yr aelodau fersiwn o'r albwm ar gasét, dros y blynyddoedd roedden nhw wedi dirywio.
Yn anffodus roedd y tâp meistr wyth trac a'r DAT o'r cymysgiad gwreiddiol hefyd wedi mynd ar goll.
Meddai'r Athro Jerry Hunter ar BBC Radio Wales: "Dwi'n cofio dweud unwaith, 'Wel, Dave, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i'r tâp meistr - byddai'n wych gwneud rhywbeth efo fo'.
"Ro'n i bob amser yn ei hoffi - ond doedd Dave ddim yn gallu dod o hyd iddo."
Ond llynedd, wrth iddo fynd drwy focsys pan oedd o'n symud tŷ, fe wnaeth Dave Hunter ddod o hyd i'r tâp DAT o'r cymysgiad gwreiddiol.

Mae 12 cân ar Enw'r Ci yw Perro, sydd wedi ei ryddhau ar Dim Byd Mawr. Mae Darwinesque wedi ei ryddhau fel sengl
"Mae e'n gerddor lled-broffesiynol ac yn newyddiadurwr cerddoriaeth, felly mae ganddo lawer o bethau cerddoriaeth yn ei dŷ," meddai'r Athro Jerry Hunter. "Roedd o'n mynd trwy focs o hen dapiau DAT, technoleg sydd ddim yn cael ei defnyddio llawer erbyn hyn, a'i ffeindio hi.
"Felly wnaethon ni wrando, ac roedd yn dal i swnio'n ffres ac yn hwyliog ac yn wahanol."
Ac felly ar 13 Mai 2026 fe gafodd yr albwm ei ryddhau - 30 mlynedd ers ei recordio.
O bync roc i bodlediad...
15/05/26
Gwrandewch ar Gwleidydda gyda'r Athro Richard Wyn Jones
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2023

- Cyhoeddwyd12 Mai 2023
