Oes angen i Brif Weinidog Cymru gael cartref swyddogol?

Ddylai Prif Weinidog Cymru gael llety parhaol fel 10 Downing Street?
- Cyhoeddwyd
Mae gan Brif Weinidog y DU Downing Street, mae gan Brif Weinidog Yr Alban Bute House... felly pam nad oes gan Brif Weinidog Cymru gartref swyddogol?
Mewn sgwrs ar bodlediad Gwleidydda, soniodd y cyflwynydd a'r newyddiadurwr, Vaughan Roderick sut y bu'n rhaid i Rhun ap Iorwerth archebu ystafell funud olaf mewn gwesty Premier Inn ar noson yr etholiad, ar ôl anghofio allwedd i'w fflat yng Nghaerdydd, yn Sir Fôn.
Mae'r stori wedi aildanio dadl dros sefydlu cartref swyddogol i'r Prif Weinidog yng Nghymru.
Yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn "wallgof" ac yn seiliedig ar y syniad mai "dim ond pobl o'r de-ddwyrain sy'n medru bod yn Brif Weinidog".
Rhun ap Iorwerth yw Prif Weinidog cyntaf Cymru i ddod o etholaeth yng ngogledd y wlad.
Beth yw'r cefndir?
Tra bod gan John Swinney, Prif Weinidog yr Alban gartref swyddogol yn Bute House yng Nghaeredin, a Kier Starmer yn Rhif 10 Downing Street, nid yw Prif Weinidog Cymru yn derbyn cartref swyddogol gan y wladwriaeth.
Mae'n ymddangos bod y rheswm dros hyn yn gwreiddio o ganlyniad agos y refferendwm dros ddatganoli yn 1997.
Yn ôl y sôn, roedd un o benseiri datganoli a chyn-ysgrifennydd Cymru, Ron Davies, yn erbyn y syniad o greu llety i'r prif weinidog yng Nghymru, gan ei fod yn awyddus i osgoi dod â rhodres San Steffan i Gymru.
Wrth i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei gynllunio, roedd yna ymdrech i osgoi gwneud pethau fyddai'n corddi'r farn gyhoeddus, yn dilyn mwyafrif mor fregus.
Cyn datganoli, mae'n debyg bod yna fflat i Ysgrifennydd Cymru ym Mharc Cathays.

Bute House ydy llety swyddogol Prif Weinidog Yr Alban
Dros y blynyddoedd, mae galwadau cyson wedi bod i sefydlu llety swyddogol i'r Prif Weinidog yng Nghymru.
Yn 2021, adeg y cyfnod clo, roedd yna bryder dros ddiogelwch y Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, gan i brotestwyr ymgasglu tu allan i'w gartref preifat.
Ar y pryd, awgrymodd cynghorydd ar Gyngor Caerdydd, Joe Carter, y gallai Mansion House gael ei ddefnyddio fel lleoliad posib i'r Prif Weinidog.
Roedd y tŷ yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd yn arfer bod yn gartref i Faer Caerdydd tan 1995.
Yn siarad ar raglen Sharp End ITV yn 2021, dywedodd Mark Drakeford: "Bydd yna ddiwrnod pan fydd y prif weinidog yn dod o ogledd Cymru, a bydd yn rhaid i'r person hwnnw aros yng Nghaerdydd am dipyn o'u bywyd gwaith.
"Mae'n un peth i wneud e [swydd y Prif Weinidog] dy gartref dy hun, fel dwi'n ei wneud, ond mater hollol wahanol os nad oes gyda chi rywle allwch chi gael fel base eich hun."
Gwleidydda: Amser i Lywodraethu
Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn trafod goblygiadau canlyniad hanesyddol etholiad y Senedd
Rhun ap Iorwerth yw Prif Weinidog cyntaf Cymru i ddod o etholaeth yng ngogledd y wlad.
Mae dros 200 o filltiroedd rhwng Senedd Cymru a swyddfa Rhun ap Iorwerth yn Llangefni ar Ynys Môn - taith o dros bedair awr a hanner mewn car.
Tra'n Aelod o'r Senedd, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth alw, dolen allanol am lety swyddogol i'r Prif Weinidog.
Ond yn ôl Vaughan Roderick, byddai newid y drefn yn beth hynod o amhoblogaidd i'w wneud.
"Does 'na ddim un gwleidydd dan haul yn mynd i wneud yr achos dros gael tŷ," meddai.
Ychwanegodd Richard Wyn Jones: "Dwi'n derbyn dyw hyn ddim yn bwynt poblogaidd i'w wneud, ond mae'r syniad mai dim ond o dde-ddwyrain Cymru mae'r Prif Weinidog yn dod yn ymarferol... ma' angen i hwnna stopio."
'Statws cyfartal â'u cymheiriaid'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog o'r farn ers tro fod gan Lywodraeth Cymru a'i gweinidogion statws cyfartal â'u cymheiriaid yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
"Mae'n canolbwyntio ei sylw ar weithredu cynllun 100 diwrnod y llywodraeth ar frys.
"Mater i'r Ysgrifennydd Parhaol yw adeiladau ac ystâd weinyddol Llywodraeth Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
