Cyllideb taliadau amaeth tan 2030 yn cynnig 'sicrwydd i ffermwyr'

Daw'r cyhoeddiad ar ddiwrnod agoriadol Sioe Fawr 2026 yn Llanelwedd
- Cyhoeddwyd
Bydd mwy na biliwn o bunnau'n cael ei glustnodi i'r cynllun cymorthdaliadau newydd i ffermwyr dros dymor y Senedd, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Roedd cyflwyno cyllideb fyddai'n para am nifer o flynyddoedd er mwyn helpu ffermwyr i gynllunio at y dyfodol yn un o addewidion Plaid Cymru ar gyfer eu 100 niwrnod cyntaf mewn grym.
Ond mae'r cynnig o £340m y flwyddyn tua'r un swm ag y mae ffermydd wedi'i dderbyn ers 2012 - roedd grwpiau amaeth ac amgylchedd wedi bod yn galw am yn nes at £500m y flwyddyn.
Dywedodd y gweinidog amaeth Llyr Gruffydd fod yr arian yn "isafswm" fyddai'n cael ei warchod ar gyfer ffermio, gan gynnig "sicrwydd a sefydlogrwydd" i'r sector.
Lansio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar ôl blynyddoedd o ddadlau
- Cyhoeddwyd2 Ionawr
'Ansicrwydd' yn rheswm dros beidio ag ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
Cafodd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ei gyflwyno yn gynharach eleni, ar ôl bron i ddegawd o drafod a dadlau ynglŷn â sut i'w ddatblygu.
Mae'n cynnig taliadau a mwy o ffocws ar yr amgylchedd, gan ddisodli'r hen drefn cyn Brexit oedd yn gwobrwyo ffermwyr ar sail faint o dir oedd dan eu gofal.
Mae'r sawl sy'n ymuno yn gorfod cytuno i gyfres o ofynion, gan gynnwys rheoli o leiaf 10% o'u tir fel cynefin.

Mae Caryl Davies a'i theulu ymysg y rhai sydd wedi penderfynu ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn barod
Daw'r cyhoeddiad am gyllideb y cynllun dros y tair blynedd nesaf ar ddiwrnod agoriadol Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
Dywedodd Caryl Davies, ffermwr bîff a defaid o Eglwyswrw, Sir Benfro fod ei theulu wedi dewis ymuno â'r cynllun.
"O'n ni'n just yn teimlo falle taw dyna o'dd y peth mwya' synhwyrol i 'neud wrth fynd 'mlaen... a mae rhai pethe positif yn dod mas o fe, fel gwella bioamrywiaeth yn y perco a'r glaswellt ni'n tyfu."
Bydde cynnig cyllideb dros nifer o flynyddoedd yn rhoi "hyder" i fwy o bobl ymuno, meddai.
Byddai'n braf gweld mwy o gyllideb, meddai Stephen Roberts, sy'n cadw defaid ar gyrion Dinbych.
"Ma' tair blynedd yn help i bawb, ac [mae modd] edrych arno fo eto wedyn a ca'l chydig bach mwy [o arian] tro nesa' efallai," awgrymodd.
"Mae'n dibynnu lle maen nhw'n rhannu fo a sut maen nhw'n rhannu fo," meddai Alwyn Jones, oedd yn arddangos ei wartheg duon Cymreig.
"Mae isie cynllun hirdymor, oes - 'dach chi'n gw'bod wrth fynd iddo fo bod gynnoch chi o leiaf dair blynedd, mae hynny'n syniad go lew," meddai.

"Mae angen cynllun hirdymor," meddai Alwyn Jones
Mae tua hanner y ffermwyr a wnaeth gais am gymhorthdal eleni wedi penderfynu ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
Penderfynodd yr hanner arall gadw at yr hen drefn am y tro, sy'n golygu y byddan nhw'n gweld gostyngiad o 40% yn eu cyllid eleni wrth i'r cymorthdaliadau hynny gael eu diddymu'n raddol.
Fodd bynnag, mae llawer mwy o dir bellach yn dod o dan y trefniadau newydd, gyda 905,545 hectar yn cael eu ffermio gan y rhai sydd yn y CFfC, o'i gymharu â 384,399 hectar gan y rhai sy'n parhau yn yr hen gynllun.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn ymrwymo £340m y flwyddyn i'r CFfC hyd at fis Mawrth 2030 ac etholiad nesaf y Senedd.
Bydd £238m y flwyddyn yn cael ei neilltuo ar gyfer y taliad cychwynnol, sef Haen Gyffredinol y cynllun.
Bydd £102m ychwanegol yn mynd tuag at yr Haenau Dewisol a Chydweithredol, lle gall ffermydd ddewis gwneud gwaith amgylcheddol ychwanegol, mwy uchelgeisiol, er mwyn cael mwy o dâl.

Ian Rickman - llywydd Undeb Amaethwyr Cymru
Dweud y byddai croeso mawr gan y diwydiant i'r newyddion am gyllideb sy'n para nifer o flynyddoedd wnaeth llywydd NFU Cymru Abi Reader.
"Pe baen ni'n dal yn yr Undeb Ewropeaidd, byddai gennym ni gyllideb saith mlynedd, felly dy'n ni ddim cweit yno eto," meddai, "ond o leia' ry'n ni'n gwybod y bydd y cyllid yn sicr am y tair blynedd nesaf.
"Byddai'n dda iawn gweld cynnydd o ran faint o arian sydd ar gael," ychwanegodd, gan gydnabod y byddai hynny'n "her wirioneddol yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni".
Dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, fod y blynyddoedd diwethaf wedi dod ag "ansicrwydd ariannol sylweddol i'r sector amaeth yng Nghymru, gan ei gwneud yn gynyddol anodd i fusnesau gynllunio'n hyderus a gwneud penderfyniadau ariannol hirdymor ar sail gwybodaeth".
"Mae UAC wedi galw'n gyson am fframwaith cyllido pum mlynedd, felly mae'r ymrwymiad heddiw i ddarparu sicrwydd tan fis Mawrth 2030 yn rhyddhad ac i'w groesawu i ffermydd teuluol Cymru."
'Angen dyblu'r gyllideb bresennol'
Dywedodd grwpiau amgylcheddol fod angen mwy o gyllid i helpu ffermwyr – sy'n rheoli 90% o dirwedd Cymru – i adfer natur a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
"Gall dyfodol amaethyddiaeth ymddangos fel dadl bolisi bell i lawer o bobl," medd Rachel Sharp o Ymddiriedolaethau Natur Cymru.
"Ond bydd y penderfyniadau a wneir drwy'r CFfC yn effeithio'r afonydd rydym yn nofio ynddynt, y bywyd gwyllt rydym yn ei weld, y bwyd rydym yn ei fwyta, a'r ffordd y mae cymunedau Cymru yn ymdopi â llifogydd, sychder a hinsawdd sy'n newid."
Nododd fod yr elusen, ynghyd â'r RSPB a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi galw am ddyblu'r gyllideb bresennol, "felly, mae cadw at yr un lefel o gyllid yn siomedig."
Mae hi'n annog gweinidogion i gyflwyno manylion llawn haenau Dewisol a Chydweithredol y cynllun cyn gynted â phosibl.
Fel rhan o'r cyhoeddiad ddydd LLun mae'r llywodraeth wedi dechrau cyflwyno rhai o'r opsiynau dewisol gan gynnwys cyllid helpu ffermydd amaethu'n organig.
Canmol hynny fel "newyddion da i fwyd ac amaethyddiaeth Cymru" wnaeth Sefydliad y Pridd.

Mae'r Gweinidog Gwytnwch Gwledig, Llyr Gruffydd yn gobeithio y bydd y cyhoeddiad yn galluogi ffermwyr i fuddsoddi yn eu busnesau a gwneud penderfyniadau y by'n rhaid eu hoedi yn wyneb ansicrwydd ariannol
Yn ôl y gweindog cabinet dros wydnwch gwledig a chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd roedd ffermwyr wedi dweud "yn bendant ac yn glir bod angen sicrwydd a sefydlogrwydd arnyn nhw - a dyna'n union beth rydyn ni'n ei roi".
"Y'n ni'n gwbod, yn dy'n ni, gymaint o bwysau sydd ar wariant cyhoeddus y dyddiau 'ma. Mae 'na doriadau'n digwydd bob man 'dach chi'n edrych.
"Yr hyn y'n ni'n gallu 'neud nawr yw sicrhau y bydd 'na isafswm o £340m y flwyddyn dros y dair blynedd nesaf yn cael ei fuddsoddi yn y diwydiant amaeth.
"Os alla i ddadlau a sicrhau arian ychwanegol wrth gwrs byddai'n neud hynny.
"Ond gall ffermwyr nawr wybod am y dair blynedd nesa - fyny at 2030 - fe fydd 'na sicrwydd ariannu, a bydd hynny gobeithio yn galluogi iddyn nhw fuddsoddi yn eu busnesau a gwneud penderfyniadau y maen nhw efallai wedi bod yn camu'n ôl oddi wrthyn nhw."
Ymateb y pleidiau eraill
Dywedodd plaid Reform bod amaethwyr angen mwy o arian gan fod costau wedi cynyddu.
Mae'r ffigwr o £340m y flwyddyn tua'r un swm ag y mae ffermydd wedi'i dderbyn ers 2012.
Ers gadael yr Undeb Ewropeaidd, roedd y drefn ariannol wedi bod yn un blynyddol yn hytrach na saith mlynedd cyn Brexit.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Reform dros Fwyd, Ffermio a Materion Gwledig, Laura Anne Jones: "Mae sicrwydd cyllido aml-flwyddyn i'w groesawu, ond nid yw sicrwydd yn unig yn ddigon.
"Mae'r sector ffermio wedi rhybuddio'n gyson bod angen tua £500m y flwyddyn. Mae £340m yn dal i fod ymhell o fod yn ddigon ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar lawer o ffermydd.
"Rhaid i'r cyhoeddiad hwn fod yn ddechrau, nid y diwedd. Bellach, mae angen cynllun ar ffermwyr sy'n gweithio i bob sector a phob math o fferm."
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig mae'r cynllun cymhorthdaliadau newydd am 'ddinistrio'r sector'.
Dywedodd Gweinidog Amaethyddiaeth y Cabinet Cysgodol, Andrew RT Davies bod cynllun gwario hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer amaethyddiaeth yn "doriad sylweddol mewn termau real" a fydd yn "dinistrio'r sector".
Ychwanegodd bod grwpiau amaethyddol ac amgylcheddol wedi rhybuddio bod angen £500m y flwyddyn – ac ychwanegodd bod y cytundeb ymhell o fodloni'r hyn mae ffermwyr wedi dweud sy'n angenrheidiol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.