Bwriad i benodi Comisiynydd y Gymraeg newydd erbyn diwedd Mai 2027

Efa Gruffudd jones
Disgrifiad o’r llun,

Ymddiswyddodd Efa Gruffudd Jones o'i rôl fel Comisiynydd y Gymraeg am "resymau personol"

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae bwriad i hysbysebu am Gomisiynydd y Gymraeg newydd cyn y Nadolig, meddai'r gweinidog cabinet dros addysg a'r Gymraeg.

Ychwanegodd Anna Brychan mai'r bwriad yw cyhoeddi'r penodiad newydd ym mis Mai 2027.

Daw wedi ymddiswyddiad Efa Gruffudd Jones o'r rôl am "resymau personol".

Mae Lowri Williams wedi ei phenodi yn ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg ac felly yn gwneud swyddogaethau'r Comisiynydd hyd nes bydd y broses benodi wedi dod i ben.

Dywedodd cyn-brif weithredwr a llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Pedr ap Llwyd, wrth ymateb i stori'r BBC bod angen "adolygiad cynhwysfawr o swyddogaeth Comisiynydd y Gymraeg".

Y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth sydd â'r swyddogaeth o benodi Comisiynydd, ac mae'r broses wedi cael ei hamlinellu yn Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011, dolen allanol.

Dywed y Rheoliadau: "Wrth benodi'r Comisiynydd rhaid i Brif Weinidog Cymru ddilyn egwyddorion cyfrifoldeb gweinidogion, teilyngdod, craffu annibynnol, cyfle cyfartal, uniondeb, didwylledd a thryloywder...

"Cyn penodi person yn Gomisiynydd rhaid bod Prif Weinidog Cymru wedi ei fodloni bod gan y person wybodaeth ddigonol o'r Gymraeg a hyfedredd digonol ynddi i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd."

Anna Brychan
Disgrifiad o’r llun,

"Fy mwriad yw hysbysebu am Gomisiynydd newydd cyn y Nadolig," meddai Anna Brychan

Dywedodd Anna Brychan, Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, mewn llythyr at bwyllgor diwylliant y Senedd: "Yn dilyn ymddiswyddiad Efa Gruffudd Jones, rydym yn dechrau'r broses cynllunio ar gyfer penodi Comisiynydd y Gymraeg newydd.

"Fy mwriad yw hysbysebu am Gomisiynydd newydd cyn y Nadolig....

"Yn ddiweddarach yn y broses, gwahoddir y pwyllgor i graffu'r ymgeisydd a ffefrir cyn cadarnhau'r penodiad.

"Os bydd y pwyllgor yn penderfynu manteisio ar y cynnig hwn, rydym yn disgwyl y gallai hynny ddigwydd ym mis Ebrill / Mai gyda'r bwriad o gyhoeddi'r penodiad ym mis Mai 2027."

Fis diwethaf wrth holi Anna Brychan yn y Senedd, dywedodd y Ceidwadwr Paul Davies: "Hoffwn gofnodi fy niolch i Efa Gruffudd Jones am ei gwaith fel Comisiynydd y Gymraeg.

"Mae hi wedi bod yn eiriolwr cadarn dros yr iaith Gymraeg, a dwi'n dymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol."

Atebodd y gweinidog: "Hoffwn i ategu fy niolch innau hefyd i Gomisiynydd y Gymraeg am ei gwaith."

Pedr ap Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Pedr ap Llwyd yn brif weithredwr ac yn Llyfrgellydd Cenedlaethol rhwng 2019-24

Wrth ymateb i stori'r BBC, dywedodd cyn-brif weithredwr a llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Pedr ap Llwyd y dylid "gwerthuso'r swyddogaeth yn ei chyfanrwydd, gan edrych yn fanwl ar ei rôl strategol, ei chyfrifoldebau statudol, ei swyddogaethau a chwmpas ei phwerau a'i hawdurdod.

"Mae hefyd yn amser priodol i ystyried a yw'r trefniadau llywodraethiant, goruchwylio ac atebolrwydd presennol yn ddigon cadarn, effeithiol a phriodol.

"Dylai'r adolygiad ystyried sut y gall y Comisiynydd gyfrannu fwyaf effeithiol at ddatblygu a chryfhau'r Gymraeg, gan sicrhau bod gan y swyddogaeth yr awdurdod, yr annibyniaeth a'r adnoddau angenrheidiol i gyflawni ei rôl yn effeithiol yn y blynyddoedd i ddod.

"Dylai'r broses felly fod yn un strategol ac edrych tua'r dyfodol, gan sicrhau bod y swyddogaeth yn addas i anghenion a heriau'r Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain."

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC: "Sefydlwyd Comisiynydd y Gymraeg gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sy'n nodi ei swyddogaethau statudol.

"Mae gan y Comisiynydd rôl bwysig wrth hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, gan gynnwys rheoleiddio cydymffurfiaeth â dyletswyddau statudol a diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg.

"Rydyn ni'n blaenoriaethu penodi Comisiynydd newydd mor fuan ag sy'n bosib.

"Er mwyn sicrhau hynny, bydd angen gwneud y penodiad o fewn y fframwaith presennol.

"Rydyn ni'n bwriadu hysbysebu'r swydd cyn y Nadolig a chyhoeddi'r penodiad ym mis Mai 2027."

Hanes y swydd

Ers dod i rym yn 2012, bwriad rôl y Comisiynydd, sydd â 39 o staff ar hyn o bryd, yw hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, gosod safonau ar sefydliadau a hybu statws swyddogol yr iaith.

Yn dilyn cyfnod Meri Huws fel deilydd cyntaf y swydd, penodwyd Aled Roberts ym mis Ebrill 2019. Bu farw yn 59 oed yn Chwefror 2022.

Derbyniwyd cyfanswm o naw cais am y rôl pan ymgeisiodd Efa Gruffudd Jones.

Dechreuodd hi ar ei swydd ym mis Ionawr 2023. Roedd ei phenodiad i fod i barhau am saith mlynedd ar gyflog o oddeutu £95,000.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.