Teulu dyn o Wynedd yn pryderu ar ôl iddo gael ei ddal ar gwch i Gaza

Chris HillFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chris Hill iddo gael ei ddal gan luoedd Israel tra'n teithio ar gwch cymorth i Gaza

GanElen Wyn
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn o Wynedd yn pryderu ar ôl iddo gael ei ddal gan luoedd Israel tra'n teithio ar gwch i Gaza.

Roedd Chris Hill, 68 oed, o Glwt y Bont ger Llanberis, ar fwrdd Eros 1 - un o gychod y Global Sumud Flotilla (GSF), sy'n cynnwys 22 o gychod a thua 175 o ymgyrchwyr.

Cafodd y cychod eu hatal ddiwedd mis Ebrill mewn dyfroedd rhyngwladol ger Ynys Creta wrth geisio cludo cymorth dyngarol i Gaza.

Dywedodd Chris Hill wrth Newyddion S4C iddo gael ei "gipio at gunpoint" a'i glymu cyn cael ei drosglwyddo i "gwch carchar" lle cafodd ei ddal am tua 30 awr.

Mae'n honni fod yr amodau'n llym a'i fod wedi dioddef "trais corfforol a meddyliol", gan ddisgrifio prinder bwyd a dŵr a dywed iddo gael ei "guro" a'i "fychanu".

Mae'r BBC wedi ceisio cael ymateb gan Weinyddiaeth Amddiffyn Israel.

Dechreuodd siwrnai'r flotilla ganol mis Ebrill, gyda chyfanswm o 58 o longau yn dod at ei gilydd o Sbaen, Ffrainc a'r Eidal.

Nod y GSF yw torri blocâd Israel o Gaza a darparu cymorth dyngarol i diriogaeth Palesteinaidd.

Dywedodd Chris Hill, a oedd yn arfer gweithio fel capten llong cyn ymddeol, iddo ymuno â'r criw yn yr Eidal, lle bu'n gweithio am fis yn paratoi'r cychod cyn cychwyn ar y fordaith o Augusta yn Sicily.

Yn ôl Chris Hill, ar ôl cael eu dal gan luoedd Israel cafodd y criw eu rhyddhau ger Ynys Creta, lle daeth staff y Swyddfa Dramor Brydeinig i'w cyfarfod.

Mae'n honni nad oedden nhw'n cynnig "fawr o gymorth".

Dywedodd iddo gael gwybod gan y swyddogion ei fod yn rhydd i adael ac na fyddai'n cael ei arestio gan awdurdodau Groeg.

Cafodd gynnig benthyg ffôn symudol ond, ar wahân i hynny, meddai "doedd na'm unrhyw gymorth o gwbl i ddychwelyd".

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor fod cymorth consylaidd wedi'i roi i deithwyr Prydeinig y flotilla, a bod "hediadau masnachol wedi bod yn gweithredu fel yr arfer".

"Fe wnaethon ni ddarparu cefnogaeth i nifer o ddinasyddion Prydeinig a gafodd eu cadw gan Lynges Israel, ac rydym mewn cysylltiad â'r awdurdodau lleol yng Ngroeg."

Ychwanegodd eu bod yn codi honiadau gyda'r awdurdodau perthnasol pan fo'r person dan sylw wedi rhoi caniatâd.

Chris HillFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Hill wedi ailymuno â'r flotilla ac yn bwriadu parhau â'r daith i Gaza

Maen nhw'n datgan yn glir na ddylai Prydeinwyr deithio i Gaza, gan bwysleisio fod posibilrwydd y gallai lluoedd Israel ymyrryd.

Ar ôl cael ei adael yn Ynys Creta, teithiodd Chris Hill i Dwrci.

Eglurodd wrth Newyddion S4C fod llywodraeth Twrci wedi cynnig "safe passage" i'r rhai oedd yn dymuno ailgydio yn y daith i Gaza.

"Mi 'naethon nhw ein hedfan ni i Marmaris lle rydw i wedi ailymuno â'r flotilla a byddaf yn parhau â'r genhadaeth i Gaza," meddai.

Mae gweinidogaeth dramor Israel wedi mynnu bod y broses o ryng-gipio flotilla Sumud yn cydymffurfio â chyfraith ryngwladol, a bod yr ymgyrch yn heddychlon er mwyn atal torri gwarchae cyfreithlon.

Honnir eu bod wedi dod o hyd i eitemau a allai fod yn gyffuriau a defnyddiau atal cenhedlu ar rai o'r llongau.

Nikky Hill
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nikky Hill ei bod yn "falch iawn" o'i thad am gymryd rhan yn y genhadaeth

Er ei bod yn gyfnod pryderus i deulu Chris Hill, dywedodd ei ferch, Nikky Hill o'r Felinheli ger Caernarfon: "'Da ni'n teimlo ei fod o'n gwneud rhywbeth gwirioneddol werth chweil.

"Mae ganddo fo'r sgiliau i helpu, a'r amser i wneud hynny, ac mae ganddo fo'r brwdfrydedd i actually fynd yna.

"Dwi'n falch iawn ohono fo a phob un ohonyn nhw sy'n risgio eu bywydau nhw i fynd i drio helpu.

"Mae o'n gobeithio ailymuno efo'r flotilla a chario mlaen â'r daith."

Rhwystrodd Israel flotilla blaenorol y GSF rhag cyrraedd Gaza fis Hydref diwethaf, gan arestio ac alltudio dros 470 o bobl, gan gynnwys Greta Thunberg.

Fis Awst diwethaf, cadarnhaodd arbenigwyr IPC (Integrated Food Security Phase Classification) fod newyn yn ninas Gaza.

Erbyn Rhagfyr, roedden nhw'n dweud fod cyflenwadau bwyd wedi gwella yn dilyn y cadoediad rhwng Israel a Hamas er bod 100,000 o bobl yn dal i fyw dan amodau catastroffig.

Roedd disgwyl i'r ffigwr hwnnw ostwng i 1,900 erbyn canol mis Ebrill eleni.

Dechreuodd rhyfel Gaza ar ôl ymosodiad Hamas yn ne Israel ar 7 Hydref 2023, pan laddwyd tua 1,200 o bobl a chymerwyd 251 yn wystlon.

Ymatebodd Israel drwy lansio ymgyrch filwrol yn erbyn Hamas yn Gaza.

Yn ôl gweinidogaeth iechyd Gaza, sy'n cael ei rhedeg gan Hamas, mae mwy na 72,600 o bobl wedi'u lladd ers hynny gan gynnwys 824 ers dechrau'r cadoediad.