Dirwy i ffermwr am ddifrodi planhigion prin yng Ngheredigion

Cafodd y cae ar arfordir Ceredigion ei ddifrodi gan y defnydd o slyri, gwrtaith a chwynladdwr heb ganiatâd, gan ladd blodau prin
- Cyhoeddwyd
Bydd ffermwr yn gorfod talu £20,000 am achosi niwed i blanhigion prin ar dir yng Ngheredigion sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Plediodd Lloyd Jenkins a'i rieni Margaret a David, yn euog yn gynharach fis yma i achosi difrod i safle bywyd gwyllt gwarchodedig - dros gyfnod o wyth mlynedd - yn ardal Mwnt yng Ngheredigion.
Cafodd y teulu eu cyhuddo o beidio â gadael digon o le ar ymylon rhai caeau i ganiatáu i flodau prin dyfu a ffynnu, trwy wasgaru gwrtaith, slyri a chwynladdwr heb ganiatâd.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ddaeth â'r achos yn erbyn y teulu, fod y difrod wedi achosi "dirywiad difrifol yn nifer ac amrywiaeth planhigion prin" mewn ardal sydd wedi'i dynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).
'Cyngor, rhybuddion a chyfarfodydd'
Cafodd y tir, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Llwybr Arfordir Cymru yng Ngheredigion, ei ddynodi'n ardal SSSI yn 2004.
Yn ôl CNC, mae'r caeau'n gynefin naturiol i flodau prin sydd ond i'w cael ar dir âr (arable).
Dywedodd CNC fod y teulu Jenkins wedi anwybyddu rhybuddion dro ar ôl tro dros sawl blwyddyn i beidio â gwasgaru gwrtaith, slyri a chwynladdwyr ar gyrion y cae heb ganiatâd, gan ychwanegu bod rheolau sy'n amddiffyn yr ardal wedi'u torri sawl gwaith rhwng 2017 a 2025.
"Er gwaethaf cyngor, rhybuddion a chyfarfodydd, parhaodd y weithgaredd," meddai CNC.
"Fe wnaeth peth o'r difrod ddigwydd hyd yn oed ar ôl i'r ffermwr gael rhybudd ffurfiol a'i wahodd i gael ei gyfweld dan rybudd."

Dyma sut dylai'r caeau edrych, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru
Yn Llys Ynadon Hwlffordd ar 5 Mai, cafodd y teulu Jenkins, a oedd yn gweithredu fel Jenkins Tŷ Hen Limited, ddirwy o £9,000 a gorchymyn i dalu costau llys o £8,940.66 yn ogystal â gordal dioddefwr o £2,000.
Dywedodd Harry Dickens, bargyfreithiwr y teulu: "Ni aeth y diffynyddion allan yn fwriadol i niweidio'r planhigion."
Ychwanegodd nad oedd ganddyn nhw'r bwriad o niweidio'r tir, ac nad oedd yn credu eu bod wedi bod yn ddi-hid.
"Nid fandaliaid ydyn nhw. Dydyn nhw ddim wedi cadw'n dawel a dydyn nhw chwaith heb rwystro CNC."
Ychwanegodd eu bod yn "derbyn yr angen i adfer y tir" a'u bod yn "awyddus i weithio'n gynhyrchiol gyda'r awdurdodau".
Y ffermwr yn 'ofidus' am yr hyn ddigwyddodd
Dywedodd David Jenkins, 50, ei fod yn "grac" ac yn "ofidus" am yr hyn ddigwyddodd.
"Mae'n rhaid i ni adael darn o dir chwech neu 12 metr ar ymyl y cae," meddai Jenkins, sydd wedi bod yn ffermwr tenant i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers dros 15 mlynedd.
"Pan chi'n gwasgaru gwrtaith, does dim modd ei atal rhag gwasgaru heibio'r marc chwe metr.
"Gyda slyri mae'n haws, ond dwi wedi dweud [wrth CNC] y byddai well gen i adael y caeau yma yn lle eu ffermio, ond maen nhw'n dweud wrtha i fod yn rhaid i mi ffermio nhw.
"Dwi'n colli arian yn ffermio'r darn bach yma o dir. Dwi'n cael dim byd yn ôl."
Dywedodd Jenkins ei fod wedi chwilio am gymorth gan elusen iechyd meddwl Sefydliad DPJ i ddelio â'r straen a achoswyd gan yr erlyniad.
"Dwi wedi gorfod cael cwnsela i ddelio ag e," meddai.
'Wastad yn ceisio canfod datrysiad arall'
Dywedodd CNC fod rheolau tebyg mewn grym ar draws rhannau eraill o'r SSSI, ble maen nhw wedi cael eu cynnal heb unrhyw broblemau.
Ychwanegon nhw nad oes ganddynt "unrhyw record" bod cais wedi'i wneud i beidio â phlannu'r caeau.
Dywedon nhw hefyd eu bod yn cydymdeimlo gyda'r effaith mae'r sefyllfa wedi'i gael ar Jenkins.
"Mae prosesau gorfodi yn gallu bod yn heriol, a dyma pam rydyn ni wastad yn ceisio canfod datrysiad drwy ffyrdd eraill cyn erlyn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.