'Gwaith blynyddoedd yn llwch nawr': Ffermwr wedi tanau yng Ngheredigion

Y mwg ym Mhontrhydygroes ger Cwmystwyth ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr o Geredigion, lle mae tanau gwyllt wedi bod yn rhuo ar ei dir, wedi bod yn trafod effaith y cyfan yn ystod y dyddiau diwethaf.
Dywedodd Brynmor Morgan o Gwmystwyth ar Dros Frecwast fore Gwener fod y gwynt, o'r diwedd, wedi "gostegu cryn dipyn".
Ers dyddiau bellach, mae diffoddwyr tân wedi bod yn delio ag achosion o danau gwyllt ym Mhowys, Ceredigion, a rhannau o'r de.
Y cyngor gan y gwasanaeth tân ddydd Iau oedd i bobl osgoi'r ardaloedd sydd wedi'u heffeithio tra bod y digwyddiadau'n parhau.

Mae ardal Cwm Elan yn un o'r llefydd sydd wedu cael tanau gwyllt dros y dyddiau diwethaf
Dywedodd Brynmor Morgan ei bod hi "lawer tawelach a dydy'r mwg ddim mor drwm, ond mae'n dal i fod yn amhleserus.
"Mae o'n mynd lawr eich gwddf, i mewn eich llygaid chi. Ond mae'r tân sy' ar y mynydd wrth fy ochr i fwy neu lai wedi tawelu."
Dywedodd ei fod wedi bod yn y "scheme amgylchedd" ers pedair degawd.
"Mae e' wedi dod â grug i dyfu 'nôl 'na a hefyd dwi wedi bod yn gofalu ac yn ehangu nifer y grouse, grouse coch.
"Does dim porfa - mae dros 70,80% o'r mynydd wedi cael ei losgi'n drwm," meddai.
'Blanced o fwg' dros Gwmystwyth wedi cyfres o danau gwyllt
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
'Erioed wedi gweld tân fel hyn' yng Nghwm Elan
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
"Ni methu mynd rownd o gwmpas, ni methu mynd i ganol y mynydd, achos mae'r niwl a'r llwch 'ma yn mynd lawr eich gwddf chi ac mae eisiau cawod o law.
"Dwi'n teimlo'n drist ofnadwy - y gwaith chi wedi rhoi mewn dros y blynydde - a chi'n cymryd diddordeb ynddo fe," meddai Mr Morgan.
"Ma' hwnna' 'di cael ei ddifetha', mae e' gyd yn llwch nawr."
Dywedodd Mr Morgan y bydd hi'n fis Awst erbyn y cawn nhw "dyfiant a lliw" ac nad ydy'r defaid yn mynd i gael porfa yn y cyfamser.
"Chi mewn sefyllfa sâl a bod yn onest."
'Sefyllfa dwi'm am ei weld eto'
"Ni wedi bod o gwmpas ers rhyw saith cenhedlaeth ar y fferm ac ma'r dyddiaduron 'da ni - ond dwi'm di clywed sôn am dân o gwbl yn ystod y cyfnod yna.
"Ma' hwn yn rhywbeth newydd ac mae o'n brofiad dwi ddim am fynd trwyddo eto.
"O'dd gweld y fflamau - oedd e'n mynd fyny rhyw dri metr ac yn wyllt iawn yn difetha' popeth - roedd e'n symud rhyw 70 metr pob hanner awr.
"Felly oedd o'n dân cyflym iawn."
Disgrifiodd y fflamau fel rhywbeth oedd "yn creu ofn arnoch chi, o'chi methu mynd rhy agos achos bod y gwres mor drwm ac yn boeth iawn".
"Sefyllfa dwi'm am ei weld eto," meddai.
Ychwanegodd Mr Morgan fod ffermwyr eraill "i gyd yn gofidio achos ma' effaith ma' nhw'n mynd i gael" ar ffermydd, stoc, teuluoedd a ffensys yn mynd i gael effaith fawr.
"Dwi'n teimlo'n flin a dros y bobl eraill sy'n ffermio."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.