'Erioed wedi gweld tân fel hyn' yng Nghwm Elan
- Ffynhonnell y llun, Ruth Rees Photography

Disgrifiad o’r llun, Mae yna rybudd i bobl gadw draw wrth i'r gwasanaeth tân barhau i geisio rheoli tanau gwyllt yn ardal Cwm Elan
1 o 9
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr tân wedi cael eu galw i ddelio ag achosion o danau gwyllt yn ardal Cwm Elan ym Mhowys ers nifer o ddyddiau.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru maen nhw wedi bod yn ymateb i danau ers dydd Sul 26 Ebrill, ac yn dal i geisio rheoli tanau ger Cronfa Ddŵr Claerwen.
Maen nhw'n galw ar i bobl osgoi'r ardal honno tra bod y digwyddiad yn parhau, er mwyn i gerbydau'r gwasanaethau brys allu cael mynediad i'r safle.
Mae yna gyngor hefyd i bobl leol gadw eu ffenestri a'u drysau ynghau os oes yna fwg trwchus yn yr ardal.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cau Ystâd Hafod ym Mhontrhydygroes i ymwelwyr "fel rhagofal" oherwydd y tân.
Dywedodd y Gwasanaeth Tân ac Achub bod y perygl o danau gwyllt yn cynyddu yn ystod y gwanwyn a'r haf, ac maen nhw'n annog pobl i ddilyn cynghorion diogelwch er mwyn arbed cefn gwlad a chymunedau rhag effeithiau tanau o'r fath.
Diffoddwyr yn ceisio rheoli tanau gwyllt yng Nghwm Elan
Dywedodd Glyndwr Jones, sy'n byw ar fferm yng Nghwm Claerwen a'n bugeilio yn yr ardal ers 26 mlynedd, nad yw "erioed wedi gweld tân fel hyn" yn yr ardal o'r blaen.
"Ma'r ffermydd i gyd ar y topie 'ma wedi'i chael hi," meddai.
"Mae e nawr yn [cael] effaith ar y defaid a'r ŵyn. Wyna'n ddiweddar ar y topie ma, mas ar y topie ma' nhw'n gorfod gofalu am eu hunen lot o'r amser.
"A hefyd i'r ffermwyr a'r bugeiliaid, ma' digon ar y meddylie, ma' pressure ym mhob ffordd, ma' hyn ar ben pethe eto, dyw e ddim help o gwbl."
Ychwanegodd ei fod wedi gweld y tân am y tro cyntaf prynhawn dydd Sul a bod y fflamau wedi lledu yn y nos ar ôl i'r gwynt droi.

"Ma'r ffermydd i gyd ar y topie ma wedi'i chael hi," meddai Glyndwr Jones
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud eu bod wedi anfon hofrennydd diffodd tân i gefnogi'r Gwasanaeth Tân.
Bydd yr hofrennydd yn gollwng dŵr ar ardaloedd lle mae adar yn nythu a lle mae cynefinoedd mawn sensitif, mamaliaid bach a phlanhigion prin, meddai llefarydd.
Dywedodd Richard Preece, Rheolwr Tactegol Cymru ar Ddyletswydd ar gyfer CNC: "Byddwn yn dal ati i gefnogi'r gwasanaethau brys ar hyd a lled Cymru i helpu i fynd i'r afael â thanau ar y tir yn ein gofal, ac mewn tirweddau gwarchodedig fel Cwm Elan.
"Mae'r tywydd sych presennol wedi cynyddu'r perygl tân yn sylweddol.
"Os ydych yn ymweld â chefn gwlad neu ein safleoedd dros Ŵyl y Banc, byddwch yn gyfrifol: peidiwch â chynnau tân na barbeciws, gwaredwch sigaréts yn ddiogel, ac ewch â'ch sbwriel adref."
Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: "Rydym yn ymwybodol o dân gwyllt yn llosgi ar dir gerllaw Ystâd Hafod yng Nghanolbarth Cymru ac wedi cymryd y mesur i gau'r ystâd i ymwelwyr fel rhagofal.
"Mae ein timau ceidwaid mewn cysylltiad â'r gwasanaeth tân lleol ac yn monitro'r sefyllfa'n agos."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch dTrwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon Perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2025








