Simon Brooks 'ddim yn poeni am farw' mwyach ers diagnosis canser

- Cyhoeddwyd
Mae'r golygydd a'r academydd Dr Simon Brooks yn dweud bod ei agwedd tuag at farwolaeth wedi newid ers bod yn wael gyda chanser ac nad yw'n ofni bellach.
Dywedodd yr ymgyrchydd iaith ei fod wedi cael triniaeth "ryfeddol" ers cael diagnosis o ganser y gwaed ond nad oes gwellhad i'r salwch.
"Yr unig beth fyddwn i'n dweud wrth bobl sydd yn pryderu am y math yma o beth yw, mae'n rhyfedd, pan ydych chi'n wirioneddol sâl, a dw i wedi bod yn wirioneddol sâl llynedd, yn agos iawn at farwolaeth, dydy o ddim yn eich poeni chi rhywsut," meddai ar raglen Beti a'i Phobol.
"Mae fy ofn i ynghylch marwolaeth wedi mynd. Mae'n rhyfeddol, ac ro'n i'n ymboeni ynglŷn â marwolaeth yn barhaus."
Trawsblaniad gwaed
Yr ysgolhaig, fu'n olygydd cylchgrawn Barn am 10 mlynedd, oedd Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg cyn iddo gamu yn ôl y llynedd i dderbyn triniaeth canser.
Wedi ei fagu i rieni Cymraeg yn Llundain, astudiodd yn Aberystwyth a Rhydychen cyn helpu i sefydlu mudiad Cymuned yn 2001 i geisio gwarchod cymunedau Cymraeg.
Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau gyda Pam na fu Cymru yn cael ei enwi ar restr fer Llyfr Cymraeg y Flwyddyn yn 2015.
Yn gynharach eleni fe dderbyniodd Wobr Cyfraniad Arbennig gan y Coleg Cenedlaethol Cymraeg am ei ymchwil academaidd Cymraeg ym meysydd hanes, amlddiwylliannedd, theori wleidyddol a pholisi cyhoeddus.
Mewn cyfweliad ar BBC Radio Cymru fe eglurodd Dr Brooks, sy'n byw yn ardal Porthmadog, ei fod wedi treulio deufis yn Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, cyn cael triniaeth ym Manceinion.

Roedd Dr Simon Brooks yn cael ei holi gan Beti George
Meddai: "[Ges i] yr hyn a elwir yn stem cell transplant yn yr hydref, lle i bob pwrpas maen nhw'n newid eich gwaed chi i gyd. Maen nhw'n trio golchi eich gwaed...
"[Mae'n] rhyfeddol, maen nhw'n tynnu'r celloedd yma allan o fêr yr esgyn, lle mae'r canser myeloma yn byw. Maen nhw'n rhoi cemotherapi mor nerthol i chi fel ei fod o yn eich lladd chi i bob pwrpas.
"Ac fel ydych chi'n mynd lawr yr allt, tuag at y diwedd a dweud y gwir, maen nhw'n rhoi stem cells iach mewn i'ch corff chi ac yn eich achub chi."
Dywedodd ei fod wedi treulio mis mewn ward ynysu yn yr ysbyty ym Manceinion cyn aros am fis arall mewn tŷ gwyliau gerllaw er mwyn cryfhau, gyda help ei rieni.
Mae'n bosib y bydd yn mynd yn ôl am fwy o driniaeth os fydd y symptomau yn dychwelyd.
Dywedodd ei fod yn ffodus o gael ei gyflogi gan Llywodraeth Cymru, yn gwneud ymchwil ac adroddiadau am gymunedau Cymraeg, a'u bod wedi bod yn "hynod ofalgar" ohono.
Ond ychwanegodd bod sgil effeithiau'r salwch, sy'n cynnwys blinder llethol ac effaith ar ei arennau, yn ei wneud o'n ansicr am ba hyd fydd yn gallu parhau i weithio.
Ddim eisiau 'byw o dan gysgod'
Dywedodd Dr Brooks, sydd âdau o blant sy'n oedolion ifanc, ei fod yn benderfynol o gwblhau ei waith diweddaraf gyda Chomisiwn Cymunedau Cymraeg.
Ar hyn o bryd mae o'n ymchwilio i gymunedau sy'n siarad Cymraeg tu allan i Gymru, er enghraifft yn Lloegr a Phatagonia.
Meddai: "Mae'n anghyfleus, y canser. Mae'n golygu bod yna lyfrau faswn i'n licio sgwennu fydd ddim yn cael eu sgwennu, pethau faswn i'n licio'u gwneud ddim yn cael eu gwneud, ond dwi ddim ofn y peth mwyach.
"Mae'n wir i ddweud y gallwn i farw fory ac mae'n wir hefyd i ddweud y gallwn i fyw am 10 neu 12 mlynedd. Wel, erbyn hynny, rwy' yn niwedd fy 60au. Mae lot o ddynion yn marw yn niwedd eu 60au.
"Felly chi ddim eisiau byw o dan y cysgod yma chwaith. Ond mae yn anodd, 'da chi methu cynllunio ar gyfer pethau."
Gallwch wrando ar gyfweliad llawn Dr Simon Brooks ar Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru am 18:00 ar ddydd Sul 19 Gorffennaf ac ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2021

- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf
