'Bydd pobl o gwmpas y byd yn dod i ddefnyddio Llwybr Dyffryn Tywi'

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid1 o 5, Dyffryn Tywi,
  • Cyhoeddwyd

Mae llwybr newydd 13 milltir o hyd sy'n eich tywys "drwy un o dirweddau mwyaf prydferth Cymru" wedi agor yn swyddogol yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ymestyn o Abergwili hyd at Landeilo mae Llwybr Dyffryn Tywi'n cynnig llwybr gerdded "diogel a fflat" i gerddwyr, beicwyr ac olynwyr.

Gobaith Cyngor Sir Gaerfyrddin yw y bydd yn hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw gan gefnogi trafnidiaeth gynaliadwy, rhoi hwb i'r economi leol a denu twristiaeth.

"Mae mor gyffrous i'r ardal," medd un sy'n byw yn lleol, gydag un arall yn credu y "bydd pobl o gwmpas y byd yn dod i ddefnyddio'r llwybr yma".

Manon LloydFfynhonnell y llun, Matthew Bowen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Manon Lloyd, cyn-feiciwr proffesiynol, yn hanu o'r ardal ac wrth ei bodd â'r llwybr

Un o'r rhai cyntaf i fanteisio ar y llwybr wedi'r agoriad swyddogol yw'r cyn-feiciwr proffesiynol Manon Lloyd, ynghyd â disgyblion Ysgol Nantgaredig.

"Mae mor gyffrous," ac "yn rhywbeth rili dda i'r ardal," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

"Ers i fi fod yn seiclwr proffesiynol, yr hewl o Gaerfyrddin i Landeilo oedd un o hewlydd ffefryn fi" ond mae'n brysur gyda cheir a thraffig meddai.

"I bobl falle sy'n newydd i seiclo mae e'n gallu bod yn eithaf peryglus os wyt ti'n becso am biti ceir a phopeth arall, mae lot i feddwl amdano pan ti'n reido beic.

Felly mae'n credu'n gryf bod cael llwybr hollol ddiogel, fflat, heb geir yn hollbwysig i ddenu beicwyr newydd.

Wrth fynd ar hyd y llwybr troellog chi'n cael eich tywys heibio sawl atyniad, gan gynnwys Tŵr Paxton, Castell Dryslwyn a Chastell Dinefwr.

Llwybr Dyffryn TywiFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Gâr

Yn ôl Dr Neil Lewis sy'n byw'n lleol mae'r llwybr yn "top class" a "mor olygus".

"Mae mor saff i seiclo nawr - ti'n gweld pob oedran yn defnyddio fe ac mae'r wên yn glir ar bob wyneb o glust i glust".

Mae'r llwybr yn dilyn llawer o'r hen linell reilffordd ac mae'n eich cymryd yn agos hefyd at Amgueddfa Caerfyrddin a Pharc yr Esgob yn Abergwili, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Aberglasne a Gelli Aur.

"Bydd e'n sbarduno'r economi," meddai Dr Lewis.

"Mae coffi ar gael yn Abergwili, Nantgaredig a Llanarthne. Mae llefydd yn agor lan nawr a llefydd yn cael staff newydd, so mae'n rili gyffrous."

Er gwaethaf rhai pryderon gan dirfeddianwyr am y llwybr, mae Cyngor Sir Gâr yn ei ddisgrifio fel ''coridor diwylliannol a hamdden allweddol".

Dywedodd y ffermwr Mathew Jones fod y llwybr wedi ychwanegu at eu llwyth gwaith o bryd i'w gilydd.

"Yn sicr, mae gofyn i ni fod yn garcus am biti pryd mae'r anifeiliaid yn dod a'r gwaith ni'n neud ar y ffarm, bod ni ddim yn gorfod amharu gormod gyda'r trac.

"Ni'n gorfod agor a chau gatiau bach yn fwy aml falle a neud yn siŵr bod yr anifeiliaid ddim yn dod i gyfarfod â gormod o bobl," meddai

Ond ychwanegodd eu bod yn "copeo yn eithaf da".

Mae'r cyngor yn credu y bydd y llwybr yn dod â manteision iechyd a thwristiaeth i'r ardal.

"Mae gymaint o fusnesau yn mynd i elwa ar hyd Dyffryn Tywi ac mae'n gyfle i bobl weld y llwybr hyn le bydden nhw byth wedi cael gweld beth mae Dyffryn Tywi yn gallu cynnig iddyn nhw o'r blaen," meddai'r Cynghorydd Hazel Evans.

"Fi'n gobeithio bydd pobl yn gallu gweld faint o fudd yw e i'r ardal, i bobl, i iechyd."

Roedd Manon Lloyd yn edrych ymlaen at fynd â'r plant yno peth cyntaf ddydd Gwener gan ddweud drwy "ddechrau bore ti'n seiclo ar lwybr mor berffaith â 'na mae'n ddechrau da i'r diwrnod".

"Ti'n gallu dweud o'r dechrau mae iechyd pobl mynd i wella," meddai Dr Lewis gyda mwy yn teimlo'n gyfforddus i fynd allan i gerdded a beicio ond mae hefyd yn credu o ystyried yr holl olygfeydd y "bydd pobl o gwmpas y byd yn dod i ddefnyddio'r llwybr yma".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.