'Gwario mwy o arian iechyd ar ddiwylliant a chwaraeon yn bosib'

Mae'n nod gan y llywodraeth Plaid Cymru newydd i "weithio traws-bortffolio" a gosod rhaglenni celfyddydol ac iechyd o fewn y GIG, medd Heledd Fychan
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru am weld rhagor o arian o'r gyllideb iechyd i gefnogi diwylliant a chwaraeon.
Tra'n ymddangos ar raglen Politics Wales BBC Cymru, dywedodd Heledd Fychan, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon newydd, fod y llywodraeth am "weithio traws-bortffolio" a gosod rhaglenni celfyddydol ac iechyd "o fewn y GIG".
Roedd yn feirniadol o'r llywodraeth Lafur flaenorol am weithio "mewn seilos", a thorri cyllideb y sectorau, a dywedodd "nad yw'n ddigon da" fod Cymru ar waelod y cynghreiriau yn nhermau gwariant ar y celfyddydau a chwaraeon.
Serch hynny, fe bwysleisiodd na allai'r llywodraeth newydd "drawsnewid pethau dros nos" ond ymrwymodd i gynyddu gwariant "flwyddyn ar flwyddyn".
Pwy yw gweinidogion cabinet newydd Llywodraeth Cymru?
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Plaid Cymru am gychwyn cynllunio taliad plant 'ar unwaith'
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
'Bydd enillion cynnar, ond y trawsnewid sy'n bwysig' - Rhun ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Mae portffolio Diwylliant a Chwaraeon wedi'i uwchraddio o is-Weinidog o dan lywodraeth Lafur i rôl Gweinidog o dan Plaid Cymru.
Yn ôl Heledd Fychan mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y blaid i'r sector a'u bwriad iddo fod "wrth galon y llywodraeth".
Dywedodd: "Ar hyn o bryd mae rhaglenni celfyddydol ac iechyd yn cael eu hariannu gan Gyngor y Celfyddydau, a rydyn ni am sicrhau eu bod nhw wedi'u seilio o fewn y GIG fel bo' gennych chi brofiad a chyfleoedd cyffelyb ble bynnag chi'n byw yng Nghymru.
"Does wnelo fo ddim â buddsoddiad yn unig - bydd yn creu arbedion er mwyn helpu i dyfu'r economi Gymreig."
'Cymru'n gwario llai ar ddiwylliant a chwaraeon na'r rhan fwyaf o Ewrop'
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2025
Plaid Cymru'n addo mwy i'r celfyddydau os yn cael eu hethol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2025
Cyfeiriodd y Gweinidog at gyfleoedd economaidd y Diwydiannau Creadigol – ras feicio enwog y Tour de France sy'n dod i Gymru yn 2027, a phencampwriaeth pêl-droed Euro 2028.
"Mae 'na gyfleoedd allweddol i Gymru yn nhermau twristiaeth hefyd, felly rydan ni am weld chwaraeon a diwylliant trawslywodraethol, traws-bortffolio," dywedodd.
"Bydd yn bartneriaeth, nid y driniaeth silo rydan ni wedi'i weld hyd yma".
Ofnau'r sector ynni adnewyddadwy
Dyma'r arwyddion cynnar o sut mae gweinyddiaeth Plaid Cymru yn bwriadu bod yn wahanol yn ystod y tymor Seneddol yma.
Serch hynny, clywodd y rhaglen feirniadaeth ynghylch beth allai eu polisïau olygu ar gyfer sector arall - y sector ynni adnewyddadwy.
Dywedodd Jessica Hooper, Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru, wrth Politics Wales eu bod "chwe mis yn ôl yn ofnadwy o bryderus" ond wedi gweld "newid positif" yn y trafodaethau.
Serch hynny, maen nhw'n ofni bod risg yn parhau y gallai Cymru fod yn llai cystadleuol wrth ddenu buddsoddiad o dramor i'r diwydiant.
Mae Plaid Cymru wedi dweud eu bod am weld cymunedau yn berchen ar isafswm o rhwng 15% a 25% o brosiectau ynni dros 10MW, gyda rhagor o elw o ffermydd gwynt a solar yn dychwelyd i'r cynghorau.
Yn ychwanegol, maen nhw am wahardd defnydd o beilonau mawr ar gyfer llinellau newydd a gweithredu tybiaeth o blaid gosod isadeiledd dan ddaear.
Rhybudd bod Cymru 'ar ei hôl hi' gyda phrosiectau ynni gwyrdd
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
Arweinydd Plaid Cymru yn cefnu ar addewid allyriadau sero net
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
Dywedodd Jessica Hooper mai'r risg nawr yw y byddai buddsoddiad o dramor yn mynd i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac nid Cymru.
Ychwanegodd: "Allwn ni ddim fforddio hynny..
"Mae hwn yn farchnad gystadleuol. Ry'n ni angen gweld Cymru o leia' yn cael ei thrin yn yr un modd, os nad yn fwy deniadol."
Yn eu hadroddiad y llynedd dywedodd RenewableUK Cymru y gallai'r sector fod werth tua £47bn i Gymru, a gallai "£10bn o hwnna lifo i fusnesau Cymreig os yw'r polisi amgylcheddol yn gywir."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai

- Cyhoeddwyd25 Ebrill
