Ymgyrch yn erbyn cynllun tyrbinau uwch na Thŵr Blackpool

Tyrbein a thwr blackpool
Disgrifiad o’r llun,

Dyma gymharu maint twr Blackpool â'r tyrbin wynt

GanDafydd Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch wedi cychwyn i wrthwynebu fferm wynt newydd ychydig filltiroedd o dref Dinbych.

Mae cwmni o'r Eidal yn bwriadu codi pump o dyrbinau 180m (590 troedfedd) o uchder ar fryn o'r enw Mynydd Tryfan, ger pentref Llansannan.

Ond mae trigolion lleol yn ofni am effeithiau tyrbinau o'r maint.

Doedd y datblygwyr, Alerion UK, ddim am wneud sylw gan ei bod hi'n gynnar yn y broses.

Tomos Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Tomos Griffiths wedi ffermio gyferbyn â'r safle ers pedair cenhedlaeth

Mae Tomos Griffiths a'i deulu'n ffermio gyferbyn â'r safle ers pedair cenhedlaeth ac yn dweud y gallai'r datblygiad amharu'n fawr arnynt.

"'De' ni wedi arfer byw yn fan'ma heb ddim sŵn a hefyd maen nhw'n deud - pan mae'r haul yn sgleinio ar y tyrbinau'n troelli - fydd flicker yn sgleinio fewn i'r tŷ," meddai Mr Griffiths.

"A fydd rhaid cario'r trydan o 'ma i rywle, felly falle fydd 'na lot mwy o ffermydd yn cael eu hamharu ac yn cael polion yn difetha darnau da o dir."

Mae Alerion yn bwriadu codi'r tyrbinau ar Fynydd Tryfan, bryn sydd ddwy filltir o Lansannan.

Byddai'r rhai agosaf 500m (1,640 troedfedd) o rai cartrefi.

'Mae'r maint allan o proportion i'r ardal'

Dywedodd chwaer Tomos, Sioned Griffiths - sy'n byw 800m o'r safle arfaethedig, fod angen i'r tyrbinau fod yn bellach oddi wrth aelwydydd.

"Dim y maint, ond pa mor agos ydyn nhw at y tai. Dwi'm yn meddwl bod hynny wedi digwydd o'r blaen.

"Yn y lleoliadau eraill o gwmpas fan hyn, fatha Llyn Brenig a'r Alwen does 'na ddim cartrefi preswyl mor agos â be' fydd rhain i ni." meddai Ms Griffiths.

"Hefyd o ran maint, dydy'r mynydd ei hun ddim yn uchel iawn, felly de' chi'n sôn am bump Blackpool Tower ar ben y mynydd."

"Mae'r maint allan o proportion i'r ardal."

Sioned Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

"De' chi'n sôn am bump Blackpool Tower ar ben y mynydd," medd Sioned Griffiths

Buasai'r tyrbinau yn uwch na Thŵr Blackpool (158m / 518troedfedd) ac yn nes at uchder adeilad y Gherkin (180m/591 troedfedd) yn Llundain.

Ond buasai'n llai na thyrbinau eraill sydd yn y broses gynllunio mewn rhannau eraill o Gymru, fel fferm wynt Y Bryn (250m/820 troedfedd) ger Port Talbot.

Tua thair milltir o Fynydd Tryfan mae Fferm Wynt Brenig, lle mae 16 o dyrbinau 110m (360 troedfedd) yn cynhyrchu hyd at 37MW o drydan.

Buasai'r pum tyrbin mwy ar Fynydd Tryfan yn medru creu hyd at 24MW, yn ôl y datblygwyr.

'De' ni ddim yn gwybod dim byd'

Bythefnos yn ôl fe ddaeth 200 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Llansannan, lle mae Eifion Jones yn byw.

"Mi ddaeth allan yng nghyfarfod cymuned y pentref fis Mawrth, jest brawddeg ac ar ôl hynny mae uffern wedi agor!

"Mae pobl wedi bod yn brysur ofnadwy i ffeindio allan be' sy'n mynd ymlaen.

"Dyna'n problem ni, de' ni ddim yn gwybod dim byd," meddai Mr Jones.

Eifion Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Mae uffern wedi agor" ers i'r newyddion gael ei ryddhau, medd Eifion Jones

Gan fod y prosiect yn fwy na 10MW, corff cenedlaethol Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) fydd yn asesu'r caniatâd i Fferm Wynt Mynydd Tryfan.

Mae'r datblygwyr wedi cyflwyno dogfennau, ond mae'n gynnar yn y broses.

Doedd y datblygwyr, Alerion UK na'r perchennog tir, ddim eisiau gwneud sylw pan gysylltom ni gyda nhw.

Gyda 70 o gynlluniau ynni ar y gweill ar draws Cymru, mae mudiad Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn galw am gynllun cenedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy a fyddai'n gwarchod cymunedau a'r tirlun.

Mae proses gynllunio drylwyr ar gyfer pob cais fferm wynt, yn ôl y corff sy'n cynrychioli'r diwydiant, Renewable UK Cymru, sy'n dweud bod yr angen am ynni gwyrdd yn fwy nag erioed.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod rhaid taclo newid hinsawdd wrth weithio gyda chymunedau a bod potensial enfawr mewn ynni adnewyddadwy ar y môr.

Mae Llafur eisiau i Gymru fod yn annibynnol o ran ffynonellau ynni glân lleol a fydd, medden nhw, yn cadw biliau'n isel, gwarchod rhag marchnadoedd byd-eang ansefydlog a sicrhau bod cymunedau'n elwa.

Mi ddywedodd Plaid Cymru y bydden nhw'n blaenoriaethu perchnogaeth gymunedol o ynni gwynt - lle buasai rhaid i'r gymuned leol fod yn berchen ar 15% o bob prosiect dros 10MW.

Yn ôl y Blaid Werdd maen nhw eisiau gweld pwyslais ar fentrau cymunedol fel bod trigolion yn teimlo perchnogaeth dros ffynonellau a ddim yn eu gweld fel rhywbeth o'r tu allan.

Mae Reform yn gwrthwynebu ffermydd gwynt mawr ar y tir a dweud eu bod yn erbyn diwydianeiddio cefn gwlad.

Chawsom ni ddim ymateb gan y Ceidwadwyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig