Ymgeisydd Reform a gamodd yn ôl dros lun saliwt i gynghori'r arweinydd

Roedd Corey Edwards wedi dweud y gallai'r llun, a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Nation.Cymru, gael ei "gamddehongli"
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a ymddiswyddodd fel un o ymgeiswyr Reform UK ar gyfer etholiad y Senedd, ar ôl i lun ddod i'r amlwg yn ymddangos fel pe bai'n gwneud saliwt Natsïaidd, wedi cael ei benodi'n gynghorydd i arweinydd y blaid yng Nghymru.
Fe wnaeth Corey Edwards gamu yn ôl fel ymgeisydd ar gyfer sedd Pen-y-bont Bro Morgannwg ar ôl i'r llun gael ei gyhoeddi gan wefan newyddion Nation.Cymru.
Ond mae nawr wedi ymddangos ar system gyfrifiadurol fewnol y Senedd, wedi'i restru fel cynghorydd arbennig i Dan Thomas.
Beirniadodd Plaid Cymru a Llafur y penodiad. Dywedodd Reform nad yw'n gwneud sylwadau ar staff ond ychwanegodd nad oedd Llafur mewn "sefyllfa i bregethu i eraill am grebwyll".
Yn y llun - o 2019 meddai Reform - roedd Corey Edwards, cyn-ymgynghorydd i'r Ceidwadwyr, gyda'i fraich yn yr awyr a bys o dan ei drwyn.
Dywedodd Plaid Cymru y byddai'r penodiad yn "codi aeliau" tra dywedodd Llafur: "Dyma achos arall lle mae'n rhaid i chi gwestiynu barn y rhai sy'n rhedeg Reform UK."
Ymatebodd ffynhonnell Reform: "Penododd prif weinidog Llafur Peter Mandelson, ffrind agos adnabyddus i'r pedoffeil Jeffrey Epstein, i'n rôl ddiplomyddol uchaf [llysgennad yn yr Unol Daleithiau]. Nid ydynt mewn sefyllfa i bregethu i eraill am grebwyll."
Ymgeisydd Reform yn camu'n ôl wedi llun saliwt Natsïaidd
- Cyhoeddwyd27 Mawrth
Ymgeisydd Reform yn ymddangos pe bai'n gwneud saliwt Natsïaidd mewn llun
- Cyhoeddwyd27 Mawrth
Ar ôl i'r llun ddod i'r amlwg yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd Reform eu bod yn dal i'w gefnogi ac nac oedden nhw'n "fodlon diystyru pobl am byth oherwydd camgymeriadau a wnaethon nhw pan oedden nhw'n ifanc".
Dywedodd eu harweinydd, Nigel Farage, bryd hynny mai dynwared Basil Fawlty o raglen Fawlty Towers oedd Edwards, gan ychwanegu nad oedd yn cymeradwyo'r peth.
Ond dyddiau yn ddiweddarach dywedodd llefarydd i'r blaid bod Edwards wedi rhoi gwybod iddyn nhw ei fod yn camu i lawr, "gan nodi problemau gyda'i iechyd meddwl".
Yn ôl Reform, cafodd y llun ei dynnu yn 2019. Nid yw'n glir ble y cafodd ei dynnu ac mi gafodd ei gyhoeddi yn wreiddiol gan Nation.Cymru.
Dywedodd Edwards cyn camu i lawr fod y llun yn "edrych yn wael a gellid ei gamddehongli", ac mai dynwared y pêl-droediwr Wayne Hennessey oedd yn ei wneud.
Cafwyd Hennessey yn ddieuog yn 2019 o wneud y saliwt sarhaus mewn digwyddiad wrth i Crystal Palace ddathlu buddugoliaeth.
Roedd Edwards yn gynghorydd arbennig i gyn-Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, rhwng Tachwedd 2022 a Hydref 2023.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.