Dynes wedi marw o drawiad gwres tra'n cerdded ar Yr Wyddfa - cwest

Bu farw Sophie Goodyer-Bird ychydig ddyddiau wedi ei phen-blwydd yn 35 oed
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed bod dynes 35 oed wedi marw ar fynydd yn Eryri ar ôl dioddef trawiad gwres, neu heat-stroke.
Bu farw Sophie Goodyer-Bird, gweithiwr harddwch, o Birmingham wrth gerdded ar Yr Wyddfa ar 10 Gorffennaf.
Clywodd y cwest i'w marwolaeth fore Mercher ei bod wedi mynd i deimlo'n flinedig iawn wrth gerdded lawr o'r copa.
Wrth agosáu at ddiwedd y daith, meddai'r crwner, fe ddisgynnodd Ms Goodyer-Bird yn anymwybodol a bu farw yn fuan wedi hynny.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad, ond er gwaethaf ymdrechion y gweithwyr brys, bu fawr yn y fan a'r lle.
Cofnodwyd yr achos marwolaeth dros dro fel trawiad gwres drwy ymdrech gorfforol.
Cafodd y cwest ei ohirio, ac nid oes dyddiad wedi ei bennu ar gyfer y gwrandawiad llawn ar hyn o bryd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.