Cynllun i godi fferm wynt ar fynyddoedd Cambria ger Tregaron

Mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria yn pwysleisio bod pobl yn gwerthfawrogi'r tir am ei harddwch naturiol
- Cyhoeddwyd
Bydd pobl Tregaron yn cael cyfle dros y misoedd nesaf i roi barn ar gynllun i godi fferm wynt ar y mynyddoedd gerllaw.
Mae cwmni EDF yn dweud y gallai prosiect Nant y Maen gynhyrchu digon o drydan ar gyfer 146,000 o gartrefi, ond mae gan Gymdeithas Mynyddoedd Cambria amheuon am gynlluniau o'r fath.
Byddai'r melinau'n cael eu codi i'r dwyrain o Dregaron, a'r tyrbinau i'w gweld ar hyd y llwybr i gapel hanesyddol Soar y Mynydd.
O holi barn pobl yn y dref, roedd hi'n amlwg eu bod nhw'n gweld manteision, ac anfanteision hefyd.

Mae Elinor Ashworth Chandler a Jordan Taylor yn deall manteision ac anfanteision fferm wynt o'r fath
"Sai'n siŵr," meddai Jordan Taylor, gŵr ifanc 24 oed.
"Ma' fe'n un anodd, anodd i gael energy, niwclear a petha fel 'na.
"Os hwnnw 'di'r unig ffordd ni'n gallu cael solution... ia. So fi'n 100%, does dim lot o solutions eraill 'da ni."
Ond roedd Elinor Ashworth Chandler yn llai cefnogol i'r syniad o gael melinau gwynt.
"Na, dim rili. Fi yn meddwl bod hi'n dda i gael egni o felin wyntoedd a petha' [adnewyddadwy] ond mae fe'n ardal mor hardd, fydde fe'n siom fi'n meddwl i sbwylio'r tirlun.
"Mae mynyddoedd y Cambria jyst mor rhydd a mor wyllt, a fi ddim yn credu fydde fe'n beth neis i roi lan 'na."

Fe allai prosiect Nant y Maen gynhyrchu digon o drydan ar gyfer 146,000 o gartrefi, medd EDF
Mae cwmni EDF yn pwysleisio y byddai cynllun Nant y Maen yn golygu ynni glan - rhan bwysig o'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Maen nhw hefyd yn dweud y byddai'n ynni dibynadwy ynghanol cyfnod o ansicrwydd byd-eang.
Ar ben hynny, fe fyddai'n golygu gwaith i fusnesau Cymreig, gan gyfeirio at ymgynghorwyr amgylcheddol Dulas, BSG Ecology a changen Aberystwyth o wasanaethau EDF.
Mae gan Gymdeithas Mynyddoedd Cambria amheuon, fodd bynnag, am gynlluniau o'r fath.
Ar eu gwefan maen nhw'n pwysleisio bod pobl yn gwerthfawrogi'r tir am ei harddwch naturiol, ac o gael melinau gwynt o gwbl, mae'n rhaid i'r rheiny fod yn ddigon bach i beidio ag amharu gormod.

Dywedodd Adam Price fod y llywodraeth eisiau "gweld Cymru yn cael y budd o'i photensial o ran generadu ynni glan"
Gyda llywodraeth newydd wrth y llyw ym Mae Caerdydd, fe holodd rhaglen Newyddion S4C farn y gweinidog ynni, Adam Price.
"'Dan ni ddim yn gallu sôn am unrhyw brosiect yn unigol am resymau sydd yn ddealladwy," meddai.
"Ry'n ni eisiau wrth gwrs gweld Cymru yn cael y budd o'i photensial o ran generadu ynni glan.
"Mae hynny'n greiddiol i'n gweledigaeth ni ar gyfer yr amgylchedd, ar gyfer yr economi - er mwyn sicrhau bod y budd yna sydd gyda ni o ran potensial ynni glan, yn helpu cymunedau Cymru, helpu economi Cymru er mwyn ffynnu.
"A bod y budd yna wrth gwrs i'r graddau sydd yn bosib yn aros yma yng Nghymru."
Mae'r datblygwyr wedi cyflwyno cais i Gyngor Ceredigion i gael gosod offer ar y tir i fesur cyflymder y gwynt.
Dros yr hydref bydd cyfle i bobl Tregaron ddweud a fydden nhw am weld fferm wynt yn yr ardal, wrth i ddigwyddiadau holi barn gael eu cynnal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd4 Mai
